No themes applied yet
1A digwyddodd, wedi i ni osod allan, ac ymadael â hwynt, ddyfod ohonom ag uniongyrch i Coos, a thrannoeth i Rodes; ac oddi yno i Patara. 2A phan gawsom long yn hwylio trosodd i Phenice, ni a ddringasom iddi, ac a aethom ymaith. 3Ac wedi ymddangos o Cyprus i ni, ni a’i gadawsom hi ar y llaw aswy, ac a hwyliasom i Syria, ac a diriasom yn Nhyrus: canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho y llwyth. 4Ac wedi i ni gael disgyblion, nyni a arosasom yno saith niwrnod: y rhai a ddywedasant i Paul, trwy yr Ysbryd, nad elai i fyny i Jerwsalem. 5A phan ddarfu i ni orffen y dyddiau, ni a ymadawsom, ac a gychwynasom; a phawb, ynghyd â’r gwragedd a’r plant, a’n hebryngasant ni hyd allan o’r ddinas: ac wedi i ni ostwng ar ein gliniau ar y traeth, ni a weddiasom. 6Ac wedi i ni ymgyfarch â’n gilydd, ni a ddringasom i’r llong; a hwythau a ddychwelasant i’w cartref. 7Ac wedi i ni orffen hwylio o Dyrus, ni a ddaethom i Ptolemais: ac wedi inni gyfarch y brodyr, ni a drigasom un diwrnod gyda hwynt. 8A thrannoeth, y rhai oedd ynghylch Paul a ymadawsant, ac a ddaethant i Cesarea. Ac wedi i ni fyned i mewn i dŷ Philip yr efengylwr, (yr hwn oedd un o’r saith,) ni a arosasom gydag ef. 9Ac i hwn yr oedd pedair merched o forynion, yn proffwydo. 10Ac fel yr oeddem yn aros yno ddyddiau lawer, daeth i waered o Jwdea broffwyd a’i enw Agabus. 11Ac wedi dyfod atom, a chymryd gwregys Paul, a rhwymo ei ddwylo ef a’i draed, efe a ddywedodd, Hyn a ddywed yr Ysbryd Glân; Y gŵr biau y gwregys hwn a rwym yr Iddewon fel hyn yn Jerwsalem, ac a’i traddodant i ddwylo y Cenhedloedd. 12A phan glywsom y pethau hyn, nyni, a’r rhai oedd o’r fan honno hefyd, a ddeisyfasom nad elai efe i fyny i Jerwsalem. 13Eithr Paul a atebodd, Beth a wnewch chwi yn wylo, ac yn torri fy nghalon i? canys parod wyf fi nid i’m rhwymo yn unig, ond i farw hefyd yn Jerwsalem, er mwyn enw yr Arglwydd Iesu. 14A chan na ellid ei berswadio, ni a beidiasom, gan ddywedyd, Ewyllys yr Arglwydd a wneler. 15Hefyd, ar ôl y dyddiau hynny, ni a gymerasom ein beichiau, ac a aethom i fyny i Jerwsalem. 16A rhai o’r disgyblion o Cesarea a ddaeth gyda ni, gan ddwyn un Mnason o Cyprus, hen ddisgybl, gyda’r hwn y lletyem. 17Ac wedi ein dyfod i Jerwsalem, y brodyr a’n derbyniasant yn llawen. 18A’r dydd nesaf yr aeth Paul gyda ni i mewn at Iago: a’r holl henuriaid a ddaethant yno. 19Ac wedi iddo gyfarch gwell iddynt, efe a fynegodd iddynt, bob yn un ac un, bob peth a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth ef. 20A phan glywsant, hwy a ogoneddasant yr Arglwydd, ac a ddywedasant wrtho, Ti a weli, frawd, pa sawl myrddiwn sydd o’r Iddewon y rhai a gredasant; ac y maent oll yn dwyn sêl i’r ddeddf. 21A hwy a glywsant amdanat ti, dy fod di yn dysgu’r Iddewon oll, y rhai sydd ymysg y Cenhedloedd, i ymwrthod â Moses; ac yn dywedyd, na ddylent hwy enwaedu ar eu plant, na rhodio yn ôl y defodau. 22Pa beth gan hynny? nid oes fodd na ddêl y lliaws ynghyd: canys hwy a gânt glywed dy ddyfod di. 23Gwna gan hynny yr hyn a ddywedwn wrthyt; Y mae gennym ni bedwar gwŷr a chanddynt adduned arnynt: 24Cymer y rhai hyn, a glanhaer di gyda hwynt, a gwna draul arnynt, fel yr eilliont eu pennau: ac y gwypo pawb am y pethau a glywsant amdanat ti, nad ydynt ddim, ond dy fod di dy hun hefyd yn rhodio, ac yn cadw y ddeddf. 25Eithr am y Cenhedloedd y rhai a gredasant, ni a ysgrifenasom, ac a farnasom, na bo iddynt gadw dim o’r cyfryw beth; eithr iddynt ymgadw oddi wrth y pethau a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a rhag peth tagedig, a rhag puteindra. 26Yna Paul a gymerth y gwŷr; a thrannoeth, gwedi iddo ymlanhau gyda hwynt, efe a aeth i mewn i’r deml; gan hysbysu cyflawni dyddiau’r glanhad, hyd oni offrymid offrwm dros bob un ohonynt. 27A phan oedd y saith niwrnod ar ddarfod, yr Iddewon oeddynt o Asia, pan welsant ef yn y deml, a derfysgasant yr holl bobl, ac a ddodasant ddwylo arno, 28Gan lefain, Ha wŷr Israeliaid, cynorthwywch. Dyma’r dyn sydd yn dysgu pawb ym mhob man yn erbyn y bobl, a’r gyfraith, a’r lle yma: ac ymhellach, y Groegiaid hefyd a ddug efe i mewn i’r deml, ac a halogodd y lle sanctaidd hwn. 29Canys hwy a welsent o’r blaen Troffimus yr Effesiad yn y ddinas gydag ef, yr hwn yr oeddynt hwy yn tybied ddarfod i Paul ei ddwyn i mewn i’r deml. 30A chynhyrfwyd y ddinas oll, a’r bobl a redodd ynghyd: ac wedi ymaelyd yn Paul, hwy a’i tynasant ef allan o’r deml: ac yn ebrwydd caewyd y drysau. 31Ac fel yr oeddynt hwy yn ceisio ei ladd ef, daeth y gair at ben-capten y fyddin, fod Jerwsalem oll mewn terfysg. 32Yr hwn allan o law a gymerodd filwyr, a chanwriaid, ac a redodd i waered atynt: hwythau, pan welsant y pen-capten a’r milwyr, a beidiasant â churo Paul. 33Yna y daeth y pen-capten yn nes, ac a’i daliodd ef, ac a archodd ei rwymo ef â dwy gadwyn; ac a ymofynnodd pwy oedd efe, a pha beth a wnaethai. 34Ac amryw rai a lefent amryw beth yn y dyrfa: ac am nas gallai wybod hysbysrwydd oherwydd y cythrwfl, efe a orchmynnodd ei ddwyn ef i’r castell. 35A phan oedd efe ar y grisiau, fe a ddigwyddodd gorfod ei ddwyn ef gan y milwyr, o achos trais y dyrfa. 36Canys yr oedd lliaws y bobl yn canlyn, gan lefain, Ymaith ag ef. 37A phan oedd Paul ar ei ddwyn i mewn i’r castell, efe a ddywedodd wrth y pen-capten, Ai rhydd i mi ddywedyd peth wrthyt? Ac efe a ddywedodd, A fedri di Roeg? 38Onid tydi yw yr Eifftwr, yr hwn o flaen y dyddiau hyn a gyfodaist derfysg, ac a arweiniaist i’r anialwch bedair mil o wŷr llofruddiog? 39A Phaul a ddywedodd, Gŵr ydwyf fi yn wir o Iddew, un o Darsus, dinesydd o ddinas nid anenwog, o Cilicia; ac yr wyf yn deisyf arnat ti, dyro gennad i mi i lefaru wrth y bobl. 40Ac wedi iddo roi cennad iddo, Paul a safodd ar y grisiau, ac a amneidiodd â llaw ar y bobl. Ac wedi gwneuthur distawrwydd mawr, efe a lefarodd wrthynt yn Hebraeg, gan ddywedyd,
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.