No themes applied yet
1Ac yn y dyddiau hynny, a’r disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan y Groegiaid yn erbyn yr Hebreaid, am ddirmygu eu gwragedd gweddwon hwy yn y weinidogaeth feunyddiol. 2Yna y deuddeg a alwasant ynghyd y lliaws disgyblion, ac a ddywedasant, Nid yw gymesur i ni adael gair Duw, a gwasanaethu byrddau. 3Am hynny, frodyr, edrychwch yn eich plith am seithwyr da eu gair, yn llawn o’r Ysbryd Glân a doethineb, y rhai a osodom ar hyn o orchwyl. 4Eithr ni a barhawn mewn gweddi a gweinidogaeth y gair.
5A bodlon fu’r ymadrodd gan yr holl liaws: a hwy a etholasant Steffan, gŵr llawn o ffydd ac o’r Ysbryd Glân, a Philip, a Phrochorus, a Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicolas, proselyt o Antiochia: 6Y rhai a osodasant hwy gerbron yr apostolion; ac wedi iddynt weddïo, hwy a ddodasant eu dwylo arnynt hwy. 7A gair Duw a gynyddodd; a rhifedi’r disgyblion yn Jerwsalem a amlhaodd yn ddirfawr, a thyrfa fawr o’r offeiriaid a ufuddhasant i’r ffydd. 8Eithr Steffan, yn llawn ffydd a nerth, a wnaeth ryfeddodau ac arwyddion mawrion ymhlith y bobl.
9Yna y cyfododd rhai o’r synagog a elwir eiddo y Libertiniaid, a’r Cyreniaid, a’r Alexandriaid, a’r rhai o Cilicia, ac o Asia, gan ymddadlau â Steffan: 10Ac ni allent wrthwynebu’r doethineb a’r ysbryd trwy yr hwn yr oedd efe yn llefaru. 11Yna y gosodasant wŷr i ddywedyd, Nyni a’i clywsom ef yn dywedyd geiriau cablaidd yn erbyn Moses a Duw. 12A hwy a gynyrfasant y bobl, a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion; a chan ddyfod arno, a’i cipiasant ef, ac a’i dygasant i’r gynghorfa; 13Ac a osodasant gau dystion, y rhai a ddywedent, Nid yw’r dyn hwn yn peidio â dywedyd cableiriau yn erbyn y lle sanctaidd hwn, a’r gyfraith: 14Canys nyni a’i clywsom ef yn dywedyd, y distrywiai yr Iesu hwn o Nasareth y lle yma, ac y newidiai efe y defodau a draddododd Moses i ni. 15Ac fel yr oedd yr holl rai a eisteddent yn y cyngor yn dal sylw arno, hwy a welent ei wyneb ef fel wyneb angel.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.