No themes applied yet
1Ac yn y flwyddyn gyntaf i Dareius y Mediad, y sefais i i’w gryfhau ac i’w nerthu ef. 2Ac yr awr hon y gwirionedd a fynegaf i ti; Wele, tri brenin eto a safant o fewn Persia, a’r pedwerydd a fydd gyfoethocach na hwynt oll: ac fel yr ymgadarnhao efe yn ei gyfoeth, y cyfyd efe bawb yn erbyn teyrnas Groeg. 3A brenin cadarn a gyfyd, ac a lywodraetha â llywodraeth fawr, ac a wna fel y mynno. 4A phan safo efe, dryllir ei deyrnas, ac a’i rhennir tua phedwar gwynt y nefoedd; ac nid i’w hiliogaeth ef, nac fel ei lywodraeth a lywodraethodd efe: oherwydd ei frenhiniaeth ef a ddiwreiddir i eraill heblaw y rhai hynny.
5Yna y cryfha brenin y deau, ac un o’i dywysogion: ac efe a gryfha uwch ei law ef, ac a lywodraetha: llywodraeth fawr fydd ei lywodraeth ef. 6Ac yn niwedd blynyddoedd yr ymgysylltant; canys merch brenin y deau a ddaw at frenin y gogledd i wneuthur cymod; ond ni cheidw hi nerth y braich; ac ni saif yntau, na’i fraich: eithr rhoddir hi i fyny, a’r rhai a’i dygasant hi, a’r hwn a’i cenhedlodd hi, a’i chymhorthwr, yn yr amseroedd hyn. 7Eithr yn ei le ef y saif un allan o flaguryn ei gwraidd hi, yr hwn a ddaw â llu, ac a â i amddiffynfa brenin y gogledd, ac a wna yn eu herbyn hwy, ac a orchfyga; 8Ac a ddwg hefyd i gaethiwed i’r Aifft, eu duwiau hwynt, a’u tywysogion, a’u dodrefn annwyl o arian ac aur; ac efe a bery fwy o flynyddoedd na brenin y gogledd. 9A brenin y deau a ddaw i’w deyrnas, ac a ddychwel i’w dir ei hun. 10A’i feibion a gyffroir, ac a gasglant dyrfa o luoedd mawrion: a chan ddyfod y daw un, ac a lifeiria, ac a â trosodd: yna efe a ddychwel, ac a gyffroir hyd ei amddiffynfa ef. 11Yna y cyffry brenin y deau, ac yr â allan, ac a ymladd ag ef, sef â brenin y gogledd: ac efe a gyfyd dyrfa fawr; ond y dyrfa a roddir i’w law ef. 12Pan gymerer ymaith y dyrfa, yr ymddyrchafa ei galon, ac efe a gwympa fyrddiwn; er hynny ni bydd efe gryf. 13Canys brenin y gogledd a ddychwel, ac a gyfyd dyrfa fwy na’r gyntaf, ac ymhen ennyd o flynyddoedd, gan ddyfod y daw â llu mawr, ac â chyfoeth mawr. 14Ac yn yr amseroedd hynny llawer a safant yn erbyn brenin y deau; a’r ysbeilwyr o’th bobl a ymddyrchafant i sicrhau y weledigaeth; ond hwy a syrthiant. 15Yna y daw brenin y gogledd, ac a fwrw glawdd, ac a ennill y dinasoedd caerog, ond breichiau y deau ni wrthsafant, na’i bobl ddewisol ef; ac ni bydd nerth i sefyll. 16A’r hwn a ddaw yn ei erbyn ef a wna fel y mynno, ac ni bydd a safo o’i flaen; ac efe a saif yn y wlad hyfryd, a thrwy ei law ef y difethir hi. 17Ac efe a esyd ei wyneb ar fyned â chryfder ei holl deyrnas, a rhai uniawn gydag ef; fel hyn y gwna: ac efe a rydd iddo ferch gwragedd, gan ei llygru hi; ond ni saif hi ar ei du ef, ac ni bydd hi gydag ef. 18Yna y try efe ei wyneb at yr ynysoedd, ac a ennill lawer; ond pennaeth a bair i’w warth ef beidio, er ei fwyn ei hun, heb warth iddo ei hun: efe a’i detry arno ef. 19Ac efe a dry ei wyneb at amddiffynfeydd ei dir ei hun: ond efe a dramgwydda, ac a syrth, ac nis ceir ef. 20Ac yn ei le ef y saif un a gyfyd drethau yng ngogoniant y deyrnas; ond o fewn ychydig ddyddiau y distrywir ef; ac nid mewn dig, nac mewn rhyfel. 21Ac yn ei le yntau y saif un dirmygus, ac ni roddant iddo ogoniant y deyrnas: eithr efe a ddaw i mewn yn heddychol, ac a ymeifl yn y frenhiniaeth trwy weniaith. 22Ac â breichiau llifeiriant y llifir trostynt o’i flaen ef, ac y dryllir hwynt, a thywysog y cyfamod hefyd. 23Ac wedi ymgyfeillach ag ef, y gwna efe dwyll: canys efe a ddaw i fyny, ac a ymgryfha ag ychydig bobl. 24I’r dalaith heddychol a bras y daw efe, ac a wna yr hyn ni wnaeth ei dadau, na thadau ei dadau: ysglyfaeth, ac ysbail, a golud, a daena efe yn eu mysg: ac ar gestyll y bwriada efe ei fwriadau, sef dros amser. 25Ac efe a gyfyd ei nerth a’i galon yn erbyn brenin y deau â llu mawr: a brenin y deau a ymesyd i ryfel â llu mawr a chryf iawn; ond ni saif efe: canys bwriadant fwriadau yn ei erbyn ef. 26Y rhai a fwytânt ran o’i fwyd ef a’i difethant ef, a’i lu ef a lifeiria; a llawer a syrth yn lladdedig. 27A chalon y ddau frenin hyn fydd ar wneuthur drwg, ac ar un bwrdd y traethant gelwydd; ond ni thycia: canys eto y bydd y diwedd ar yr amser nodedig. 28Ac efe a ddychwel i’w dir ei hun â chyfoeth mawr; a’i galon fydd yn erbyn y cyfamod sanctaidd: felly y gwna efe, ac y dychwel i’w wlad. 29Ar amser nodedig y dychwel, ac y daw tua’r deau; ac ni bydd fel y daith gyntaf, neu fel yr olaf.
30Canys llongau Chittim a ddeuant yn ei erbyn ef; am hynny yr ymofidia, ac y dychwel, ac y digia yn erbyn y cyfamod sanctaidd: felly y gwna efe, ac y dychwel; ac efe a ymgynghora â’r rhai a adawant y cyfamod sanctaidd. 31Breichiau hefyd a safant ar ei du ef, ac a halogant gysegr yr amddiffynfa, ac a ddygant ymaith y gwastadol aberth, ac a osodant yno y ffieidd-dra anrheithiol. 32A throseddwyr y cyfamod a lygra efe trwy weniaith: eithr y bobl a adwaenant eu Duw, a fyddant gryfion, ac a ffynnant. 33A’r rhai synhwyrol ymysg y bobl a ddysgant lawer; eto syrthiant trwy y cleddyf, a thrwy dân, trwy gaethiwed, a thrwy ysbail, ddyddiau lawer. 34A phan syrthiant, â chymorth bychan y cymhorthir hwynt: eithr llawer a lŷn wrthynt hwy trwy weniaith. 35A rhai o’r deallgar a syrthiant i’w puro, ac i’w glanhau, ac i’w cannu, hyd amser y diwedd: canys y mae eto dros amser nodedig. 36A’r brenin a wna wrth ei ewyllys ei hun, ac a ymddyrcha, ac a ymfawryga uwchlaw pob duw; ac yn erbyn Duw y duwiau y traetha efe bethau rhyfedd, ac a lwydda nes diweddu y dicter; canys yr hyn a ordeiniwyd, a fydd. 37Nid ystyria efe Dduw ei dadau, na serch ar wragedd, ie, nid ystyria un duw: canys goruwch pawb yr ymfawryga. 38Ac efe a anrhydedda Dduw y nerthoedd yn ei le ef: ie, duw yr hwn nid adwaenai ei dadau a ogonedda efe ag aur ac ag arian, ac â meini gwerthfawr, ac â phethau dymunol. 39Fel hyn y gwna efe yn yr amddiffynfeydd cryfaf gyda duw dieithr, yr hwn a gydnebydd efe, ac a chwanega ei ogoniant: ac a wna iddynt lywodraethu ar lawer, ac a ranna y tir am werth. 40Ac yn amser y diwedd yr ymgornia brenin y deau ag ef, a brenin y gogledd a ddaw fel corwynt yn ei erbyn ef, â cherbydau, ac â marchogion, ac â llongau lawer; ac efe a ddaw i’r tiroedd, ac a lifa, ac a â trosodd. 41Ac efe a ddaw i’r hyfryd wlad, a llawer o wledydd a syrthiant: ond y rhai hyn a ddihangant o’i law ef, Edom, a Moab, a phennaf meibion Ammon. 42Ac efe a estyn ei law ar y gwledydd; a gwlad yr Aifft ni bydd dihangol. 43Eithr efe a lywodraetha ar drysorau aur ac arian, ac ar holl annwyl bethau yr Aifft: y Libyaid hefyd a’r Ethiopiaid fyddant ar ei ôl ef. 44Eithr chwedlau o’r dwyrain ac o’r gogledd a’i trallodant ef: ac efe a â allan mewn llid mawr i ddifetha, ac i ddifrodi llawer. 45Ac efe a esyd bebyll ei lys rhwng y moroedd, ar yr hyfryd fynydd sanctaidd: eto efe a ddaw hyd ei derfyn, ac ni bydd cynorthwywr iddo.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.