No themes applied yet
1Plant ydych chwi i’r Arglwydd eich Duw: na thorrwch mohonoch eich hunain, ac na wnewch foelni rhwng eich llygaid, dros y marw. 2Canys pobl sanctaidd wyt ti i’r Arglwydd dy Dduw, a’r Arglwydd a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ef, o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.
3Na fwyta ddim ffiaidd. 4Dyma’r anifeiliaid a fwytewch: eidion, llwdn dafad, a llwdn gafr, 5Y carw, a’r iwrch, a’r llwdn hydd, a’r bwch gwyllt, a’r unicorn, a’r ych gwyllt, a’r afr wyllt. 6A phob anifail yn hollti’r ewin, ac yn fforchogi hollt y ddwy ewin, ac yn cnoi cil, ymysg yr anifeiliaid; hwnnw a fwytewch. 7Ond hyn ni fwytewch, o’r rhai a gnoant y cil, neu a holltant yr ewin yn fforchog: y camel, a’r ysgyfarnog, a’r gwningen: er bod y rhai hyn yn cnoi eu cil, am nad ydynt yn fforchogi’r ewin, aflan ydynt i chwi. 8Yr hwch hefyd, er ei bod yn fforchogi’r ewin, ac heb gnoi cil, aflan yw i chwi: na fwytewch o’u cig hwynt, ac na chyffyrddwch â’u burgyn hwynt.
9Hyn a fwytewch o’r hyn oll sydd yn y dyfroedd: yr hyn oll sydd iddo esgyll a chen a fwytewch. 10A’r hyn oll nid oes iddo esgyll a chen, ni fwytewch: aflan yw i chwi.
11Pob aderyn glân a fwytewch. 12A dyma’r rhai ni fwytewch ohonynt: yr eryr, a’r wyddwalch, a’r fôr-wennol, 13A’r bod, a’r barcud, a’r fwltur yn ei rhyw, 14A phob cigfran yn ei rhyw, 15A chyw yr estrys, a’r frân nos, a’r gog, a’r hebog yn ei ryw, 16Aderyn y cyrff, a’r dylluan, a’r gogfran, 17A’r pelican, a’r biogen, a’r fulfran, 18A’r ciconia, a’r crŷr yn ei ryw, a’r gornchwigl, a’r ystlum. 19A phob ymlusgiad asgellog sydd aflan i chwi: na fwytaer hwynt. 20Pob ehediad glân a fwytewch.
21Na fwytewch ddim a fo marw ei hun: dod ef i’r dieithr fyddo yn dy byrth, a bwytaed ef; neu gwerth ef i’r dieithr: canys pobl sanctaidd ydwyt i’r Arglwydd dy Dduw. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam. 22Gan ddegymu degyma holl gynnyrch dy had, sef ffrwyth dy faes, bob blwyddyn. 23A bwyta gerbron yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe i drigo o’i enw ef ynddo, ddegwm dy ŷd, dy win, a’th olew, a chyntaf-anedig dy wartheg, a’th ddefaid; fel y dysgech ofni yr Arglwydd dy Dduw bob amser. 24A phan fyddo y ffordd ry hir i ti, fel na ellych ei ddwyn ef, neu os y lle fydd ymhell oddi wrthyt, yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i osod ei enw ynddo, pan y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw: 25Yna dod ei werth yn arian; a rhwym yr arian yn dy law, a dos i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: 26A dod yr arian am yr hyn oll a chwenycho dy galon; am wartheg, neu am ddefaid, neu am win, neu am ddiod gref, neu am yr hyn oll a ddymuno dy galon: a bwyta yno gerbron yr Arglwydd dy Dduw, a llawenycha di, a’th deulu. 27A’r Lefiad yr hwn fyddo yn dy byrth, na wrthod ef: am nad oes iddo na rhan nac etifeddiaeth gyda thi.
28Ymhen tair blynedd y dygi allan holl ddegwm dy gnwd y flwyddyn honno: a dyro ef i gadw o fewn dy byrth. 29A’r Lefiad, (am nad oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda thi,) a’r dieithr, a’r amddifad, a’r weddw, y rhai fydd yn dy byrth di, a ddeuant, ac a fwytânt, ac a ddigonir; fel y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw ym mhob gwaith a wnelych â’th law.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.