No themes applied yet
1Ni bydd i’r offeiriaid, i’r Lefiaid, i holl lwyth Lefi, ran nac etifeddiaeth ynghyd ag Israel: ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a’i etifeddiaeth ef, a fwytânt hwy. 2Am hynny etifeddiaeth ni bydd iddynt ymhlith eu brodyr: yr Arglwydd yw eu hetifeddiaeth hwy, megis ag y dywedodd wrthynt.
3A hyn fydd defod yr offeiriaid oddi wrth y bobl, oddi wrth y rhai a aberthant aberth, pa un bynnag ai eidion ai dafad; rhoddant i’r offeiriad yr ysgwyddog a’r ddwy ên, a’r boten. 4Blaenffrwyth dy ŷd, dy win, a’th olew, a blaenffrwyth cnaif dy ddefaid, a roddi iddo ef. 5Canys dewisodd yr Arglwydd dy Dduw ef o’th holl lwythau di, i sefyll i wasanaethu yn enw yr Arglwydd, efe a’i feibion yn dragywydd.
6A phan ddelo Lefiad o un o’th byrth di yn holl Israel, lle y byddo efe yn ymdaith, a dyfod â holl ddymuniad ei galon i’r lle a ddewiso yr Arglwydd; 7Yna gwasanaethed efe yn enw yr Arglwydd ei Dduw, megis ei holl frodyr y Lefiaid, y rhai sydd yn sefyll yno gerbron yr Arglwydd. 8Rhan am ran a fwytânt, heblaw gwerth yr hyn sydd yn dyfod oddi wrth ei dadau.
9Pan elych di i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na ddysg wneuthur yn ôl ffieidd-dra’r cenhedloedd hynny. 10Na chaffer ynot a wnelo i’w fab, neu i’w ferch, fyned trwy y tân; neu a arfero ddewiniaeth, na phlanedydd, na daroganwr, na hudol, 11Na swynwr swynion, nac a geisio wybodaeth gan gonsuriwr, neu frudiwr, nac a ymofynno â’r meirw: 12Oherwydd ffieidd-dra gan yr Arglwydd yw pawb a wnelo hyn; ac o achos y ffieidd-dra hyn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu gyrru hwynt allan o’th flaen di. 13Bydd berffaith gyda’r Arglwydd dy Dduw. 14Canys y cenhedloedd hyn, y rhai a feddienni di, a wrandawsant ar blanedyddion, ac ar ddewiniaid: ond amdanat ti, nid felly y caniataodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
15Yr Arglwydd dy Dduw a gyfyd i ti, o’th blith dy hun, o’th frodyr dy hun, Broffwyd megis finnau; arno ef y gwrandewch; 16Yn ôl yr hyn oll a geisiaist gan yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, yn nydd y gymanfa, gan ddywedyd, Na chlywyf mwyach lais yr Arglwydd fy Nuw, ac na welwyf y tân mawr hwn mwyach, rhag fy marw. 17A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Da y dywedasant yr hyn a ddywedasant. 18Codaf Broffwyd iddynt o fysg eu brodyr, fel tithau, a rhoddaf fy ngeiriau yn ei enau ef; ac efe a lefara wrthynt yr hyn oll a orchmynnwyf iddo. 19A phwy bynnag ni wrandawo ar fy ngeiriau, y rhai a lefara efe yn fy enw, myfi a’i gofynnaf ganddo. 20Y proffwyd hefyd, yr hwn a ryfyga lefaru yn fy enw air ni orchmynnais iddo ei lefaru, neu yr hwn a lefaro yn enw duwiau dieithr; rhodder y proffwyd hwnnw i farwolaeth. 21Ac os dywedi yn dy galon, Pa fodd yr adnabyddwn y gair ni lefarodd yr Arglwydd? 22Yr hyn a lefaro’r proffwyd hwnnw yn enw yr Arglwydd, a’r gair heb fod, ac heb ddyfod i ben, hwnnw yw y gair ni lefarodd yr Arglwydd; y proffwyd a’i llefarodd mewn rhyfyg: nac ofna ef.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.