No themes applied yet
1Dyma eiriau y cyfamod a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses ei wneuthur â meibion Israel, yn nhir Moab, heblaw y cyfamod a amododd efe â hwynt yn Horeb.
2A Moses a alwodd ar holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd o flaen eich llygaid chwi yn nhir yr Aifft, i Pharo, ac i’w holl weision, ac i’w holl dir; 3Y profedigaethau mawrion a welodd eich llygaid, yr arwyddion a’r rhyfeddodau mawrion hynny: 4Ond ni roddodd yr Arglwydd i chwi galon i wybod, na llygaid i weled, na chlustiau i glywed, hyd y dydd hwn. 5Arweiniais chwi hefyd yn yr anialwch ddeugain mlynedd: ni heneiddiodd eich dillad amdanoch, ac ni heneiddiodd dy esgid am dy droed. 6Bara ni fwytasoch, a gwin neu ddiod gref nid yfasoch: fel y gwybyddech mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi. 7A daethoch hyd y lle hwn: yna daeth allan Sehon brenin Hesbon, ac Og brenin Basan, i’n cyfarfod mewn rhyfel; a ni a’u lladdasom hwynt: 8Ac a ddygasom eu tir hwynt, ac a’i rhoesom yn etifeddiaeth i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse. 9Cedwch gan hynny eiriau y cyfamod hwn, a gwnewch hwynt: fel y llwyddoch ym mhob peth a wneloch.
10Yr ydych chwi oll yn sefyll heddiw gerbron yr Arglwydd eich Duw; penaethiaid eich llwythau, eich henuriaid, a’ch swyddogion, a holl wŷr Israel, 11Eich plant, eich gwragedd, a’th ddieithrddyn yr hwn sydd o fewn dy wersyll, o gymynydd dy goed hyd wehynnydd dy ddwfr: 12I fyned ohonot dan gyfamod yr Arglwydd dy Dduw, a than ei gynghrair ef, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei wneuthur â thi heddiw: 13I’th sicrhau heddiw yn bobl iddo ei hun, ac i fod ohono yntau yn Dduw i ti, megis y llefarodd wrthyt, ac fel y tyngodd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob. 14Ac nid â chwi yn unig yr ydwyf fi yn gwneuthur y cyfamod hwn, a’r cynghrair yma; 15Ond â’r hwn sydd yma gyda ni yn sefyll heddiw gerbron yr Arglwydd ein Duw, ac â’r hwn nid yw yma gyda ni heddiw: 16(Canys chwi a wyddoch y modd y trigasom ni yn nhir yr Aifft, a’r modd y daethom trwy ganol y cenhedloedd y rhai y daethoch trwyddynt; 17A chwi a welsoch eu ffieidd-dra hwynt a’u heilun-dduwiau, pren a maen, arian ac aur, y rhai oedd yn eu mysg hwynt:) 18Rhag bod yn eich mysg ŵr, neu wraig, neu deulu, neu lwyth, yr hwn y try ei galon heddiw oddi wrth yr Arglwydd ein Duw, i fyned i wasanaethu duwiau y cenhedloedd hyn; rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn dwyn gwenwyn a wermod: 19A bod, pan glywo efe eiriau y felltith hon, ymfendithio ohono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio yng nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched: 20Ni fyn yr Arglwydd faddau iddo; canys yna y myga dicllonedd yr Arglwydd a’i eiddigedd yn erbyn y gŵr hwnnw, a’r holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn a orwedd arno ef, a’r Arglwydd a ddilea ei enw ef oddi tan y nefoedd. 21A’r Arglwydd a’i neilltua ef oddi wrth holl lwythau Israel, i gael drwg, yn ôl holl felltithion y cyfamod a ysgrifennwyd yn llyfr y gyfraith hon. 22A dywed y genhedlaeth a ddaw ar ôl, sef eich plant chwi, y rhai a godant ar eich ôl chwi, a’r dieithr yr hwn a ddaw o wlad bell, pan welont blâu y wlad hon, a’i chlefydau, trwy y rhai y mae yr Arglwydd yn ei chlwyfo hi; 23A’i thir wedi ei losgi oll gan frwmstan a halen, na heuir ef, ac na flaendardda, ac na ddaw i fyny un llysieuyn ynddo, fel dinistr Sodom a Gomorra, Adma a Seboim, y rhai a ddinistriodd yr Arglwydd yn ei lid a’i ddigofaint: 24Ie, yr holl genhedloedd a ddywedant, Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r tir hwn? pa ddicter yw y digofaint mawr hwn? 25Yna y dywedir, Am wrthod ohonynt gyfamod Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a amododd efe â hwynt pan ddug efe hwynt allan o dir yr Aifft. 26Canys aethant a gwasanaethasant dduwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt; sef duwiau nid adwaenent hwy, ac ni roddasai efe iddynt. 27Am hynny yr enynnodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn y wlad hon, i ddwyn arni bob melltith a’r y sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn. 28A’r Arglwydd a’u dinistriodd hwynt o’u tir mewn digofaint, ac mewn dicter, ac mewn llid mawr, ac a’u gyrrodd hwynt i wlad arall, megis y gwelir heddiw. 29Y dirgeledigaethau sydd eiddo yr Arglwydd ein Duw, a’r pethau amlwg a roddwyd i ni, ac i’n plant hyd byth; fel y gwnelom holl eiriau y gyfraith hon.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.