No themes applied yet
1Y mae amser i bob peth, ac amser i bob amcan dan y nefoedd: 2Amser i eni, ac amser i farw; amser i blannu, ac amser i dynnu y peth a blannwyd; 3Amser i ladd, ac amser i iacháu; amser i fwrw i lawr, ac amser i adeiladu; 4Amser i wylo, ac amser i chwerthin; amser i alaru, ac amser i ddawnsio; 5Amser i daflu cerrig ymaith, ac amser i gasglu cerrig ynghyd; amser i ymgofleidio, ac amser i ochel ymgofleidio; 6Amser i geisio, ac amser i golli; amser i gadw, ac amser i fwrw ymaith; 7Amser i rwygo, ac amser i wnïo; amser i dewi, ac amser i ddywedyd; 8Amser i garu, ac amser i gasáu; amser i ryfel, ac amser i heddwch. 9Pa fudd sydd i’r gweithydd yn yr hyn y mae yn llafurio? 10Mi a welais y blinder a roddes Duw ar feibion dynion, i ymflino ynddo. 11Efe a wnaeth bob peth yn deg yn ei amser: efe a osododd y byd hefyd yn eu calonnau hwy, fel na allo dyn gael allan y gwaith a wnaeth Duw o’r dechreuad hyd y diwedd. 12Mi a wn nad oes dim da ynddynt, ond bod i ddyn fod yn llawen, a gwneuthur daioni yn ei fywyd. 13A bod i bob dyn fwyta ac yfed, a mwynhau daioni o’i holl lafur; rhodd Duw yw hynny. 14Mi a wn beth bynnag a wnêl Duw, y bydd hynny byth; ni ellir na bwrw ato, na thynnu dim oddi wrtho: ac y mae Duw yn gwneuthur hyn, fel yr ofnai dynion ger ei fron ef. 15Y peth a fu o’r blaen sydd yr awr hon; a’r peth sydd ar ddyfod a fu o’r blaen: Duw ei hun a ofyn y peth a aeth heibio. 16Hefyd mi a welais dan yr haul le barn, yno yr oedd annuwioldeb; a lle cyfiawnder, yno yr oedd anwiredd. 17Mi a ddywedais yn fy nghalon, Duw a farn y cyfiawn a’r anghyfiawn: canys y mae amser i bob amcan, ac i bob gwaith yno. 18Mi a ddywedais yn fy nghalon am gyflwr meibion dynion; fel y byddai i Dduw eu hamlygu hwynt, ac y gwelent hwythau mai anifeiliaid ydynt. 19Canys digwydd meibion dynion a ddigwydd i’r anifeiliaid; yr un digwydd sydd iddynt: fel y mae y naill yn marw, felly y bydd marw y llall; ie, yr un chwythad sydd iddynt oll; fel nad oes mwy rhagoriaeth i ddyn nag i anifail: canys gwagedd yw y cwbl. 20Y mae y cwbl yn myned i’r un lle: pob un sydd o’r pridd, a phob un a dry i’r pridd eilwaith. 21Pwy a edwyn ysbryd dyn, yr hwn sydd yn esgyn i fyny, a chwythad anifail, yr hwn sydd yn disgyn i waered i’r ddaear? 22Am hynny mi a welaf nad oes dim well nag i ddyn ymlawenychu yn ei weithredoedd ei hun; canys hyn yw ei ran ef: canys pwy a’i dwg ef i weled y peth fydd ar ei ôl?
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.