No themes applied yet
1A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Un pla eto a ddygaf ar Pharo, ac ar yr Aifft; wedi hynny efe a’ch gollwng chwi oddi yma: pan y’ch gollyngo, gan wthio efe a’ch gwthia chwi oddi yma yn gwbl. 2Dywed yn awr lle y clywo y bobl; a benthycied pob gŵr gan ei gymydog, a phob gwraig gan ei chymdoges, ddodrefn arian, a dodrefn aur. 3A’r Arglwydd a roddodd i’r bobl ffafr yng ngolwg yr Eifftiaid: ac yr oedd Moses yn ŵr mawr iawn yng ngwlad yr Aifft, yng ngolwg gweision Pharo, ac yng ngolwg y bobl. 4Moses hefyd a ddywedodd, Fel hyn y llefarodd yr Arglwydd; Ynghylch hanner nos yr af fi allan i ganol yr Aifft. 5A phob cyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft a fydd marw, o gyntaf-anedig Pharo, yr hwn sydd yn eistedd ar ei deyrngadair, hyd gyntaf-anedig y wasanaethferch sydd ar ôl y felin; a phob cyntaf-anedig o anifail. 6A bydd gweiddi mawr trwy holl wlad yr Aifft, yr hwn ni bu ei fath, ac ni bydd mwyach ei gyffelyb. 7Ond yn erbyn neb o blant Israel ni symud ci ei dafod, ar ddyn nac anifail; fel y gwypoch fod yr Arglwydd yn gwneuthur rhagor rhwng yr Eifftiaid ac Israel. 8A’th holl weision hyn a ddeuant i waered ataf fi, ac a ymgrymant i mi, gan ddywedyd, Dos allan, a’r holl bobl sydd ar dy ôl; ac wedi hynny yr af fi allan. Felly efe a aeth allan oddi wrth Pharo mewn dicllonedd llidiog. 9A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Ni wrendy Pharo arnoch; fel yr amlhaer fy rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft. 10A Moses ac Aaron a wnaethant yr holl ryfeddodau hyn gerbron Pharo: a’r Arglwydd a galedodd galon Pharo, fel na ollyngai efe feibion Israel allan o’i wlad.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.