No themes applied yet
1Yna y canodd Moses a meibion Israel y gân hon i’r Arglwydd, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Canaf i’r Arglwydd; canys gwnaeth yn rhagorol iawn: taflodd y march a’i farchog i’r môr. 2Fy nerth a’m cân yw yr Arglwydd; ac y mae efe yn iachawdwriaeth i mi: efe yw fy Nuw, efe a ogoneddaf fi; Duw fy nhad, a mi a’i dyrchafaf ef. 3Yr Arglwydd sydd ryfelwr: yr Arglwydd yw ei enw. 4Efe a daflodd gerbydau Pharo a’i fyddin yn y môr: ei gapteiniaid dewisol a foddwyd yn y môr coch. 5Y dyfnderau a’u toesant hwy; disgynasant i’r gwaelod fel carreg. 6Dy ddeheulaw, Arglwydd, sydd ardderchog o nerth; a’th ddeheulaw, Arglwydd, a ddrylliodd y gelyn. 7Ym mawredd dy ardderchowgrwydd y tynnaist i lawr y rhai a gyfodasant i’th erbyn: dy ddigofaint a anfonaist allan, ac efe a’u hysodd hwynt fel sofl. 8Trwy chwythad dy ffroenau y casglwyd y dyfroedd ynghyd: y ffrydiau a safasant fel pentwr; y dyfnderau a geulasant yng nghanol y môr. 9Y gelyn a ddywedodd, Mi a erlidiaf, mi a oddiweddaf, mi a rannaf yr ysbail: caf fy ngwynfyd arnynt; tynnaf fy nghleddyf, fy llaw a’u difetha hwynt. 10Ti a chwythaist â’th wynt; y môr a’u todd hwynt: soddasant fel plwm yn y dyfroedd cryfion. 11Pwy sydd debyg i ti, O Arglwydd, ymhlith y duwiau? pwy fel tydi yn ogoneddus mewn sancteiddrwydd, yn ofnadwy mewn moliant, yn gwneuthur rhyfeddodau? 12Estynnaist dy ddeheulaw; llyncodd y ddaear hwynt. 13Arweiniaist yn dy drugaredd y bobl y rhai a waredaist: yn dy nerth y tywysaist hwynt i anheddle dy sancteiddrwydd. 14Y bobloedd a glywant, ac a ofnant: dolur a ddeil breswylwyr Palesteina. 15Yna y synna ar ddugiaid Edom: cedyrn hyrddod Moab, dychryn a’u deil hwynt: holl breswylwyr Canaan a doddant ymaith. 16Ofn ac arswyd a syrth arnynt; gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg, nes myned trwodd o’th bobl di, Arglwydd, nes myned o’r bobl a enillaist ti trwodd. 17Ti a’u dygi hwynt i mewn, ac a’u plenni hwynt ym mynydd dy etifeddiaeth, y lle a wnaethost, O Arglwydd, yn anheddle i ti; y cysegr, Arglwydd, a gadarnhaodd dy ddwylo. 18Yr Arglwydd a deyrnasa byth ac yn dragywydd. 19Oherwydd meirch Pharo, a’i gerbydau, a’i farchogion, a aethant i’r môr; a’r Arglwydd a ddychwelodd ddyfroedd y môr arnynt: ond meibion Israel a aethant ar dir sych yng nghanol y môr.
20A Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, a gymerodd dympan yn ei llaw, a’r holl wragedd a aethant allan ar ei hôl hi, â thympanau ac â dawnsiau. 21A dywedodd Miriam wrthynt, Cenwch i’r Arglwydd; canys gwnaeth yn ardderchog; bwriodd y march a’r marchog i’r môr. 22Yna Moses a ddug Israel oddi wrth y môr coch; ac aethant allan i anialwch Sur: a hwy a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch, ac ni chawsant ddwfr.
23A phan ddaethant i Mara, ni allent yfed dyfroedd Mara, am eu bod yn chwerwon: oherwydd hynny y gelwir ei henw hi Mara. 24A’r bobl a duchanasant yn erbyn Moses, gan ddywedyd, Beth a yfwn ni? 25Ac efe a waeddodd ar yr Arglwydd: a’r Arglwydd a ddangosodd iddo ef bren; ac efe a’i bwriodd i’r dyfroedd, a’r dyfroedd a bereiddiasant: yno y gwnaeth efe ddeddf a chyfraith, ac yno y profodd efe hwynt, 26Ac a ddywedodd, Os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, ac os gwnei di yr hyn sydd uniawn yn ei olwg ef, a rhoddi clust i’w orchmynion ef, a chadw ei holl ddeddfau ef; ni roddaf arnat un o’r clefydau a roddais ar yr Eifftiaid; oherwydd myfi yw yr Arglwydd dy iachawdwr di.
27A daethant i Elim; ac yno yr oedd deuddeg ffynnon o ddwfr, a deg palmwydden a thrigain: a hwy a wersyllasant yno wrth y dyfroedd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.