No themes applied yet
1Os lladrata un ych neu ddafad, a’i ladd, neu ei werthu; taled bum ych am ych, a phedair dafad am ddafad.
2Os ceir lleidr yn torri tŷ, a’i daro fel y byddo farw; na choller gwaed amdano. 3Os bydd yr haul wedi codi arno, coller gwaed amdano; efe a ddyly gwbl dalu: oni bydd dim ganddo, gwerther ef am ei ladrad. 4Os gan gael y ceir yn ei law ef y lladrad yn fyw, o eidion, neu asyn, neu ddafad; taled yn ddwbl.
5Os pawr un faes, neu winllan, a gyrru ei anifail i bori maes un arall; taled o’r hyn gorau yn ei faes ei hun, ac o’r hyn gorau yn ei winllan ei hun.
6Os tân a dyr allan, ac a gaiff afael mewn drain, fel y difaer das o ŷd, neu ŷd ar ei droed, neu faes; cwbl daled yr hwn a gyneuodd y tân.
7Os rhydd un i’w gymydog arian, neu ddodrefn i gadw, a’i ladrata o dŷ y gŵr; os y lleidr a geir, taled yn ddwbl: 8Os y lleidr ni cheir, dyger perchennog y tŷ at y swyddogion i dyngu, a estynnodd efe ei law ar dda ei gymydog. 9Am bob math ar gamwedd, am eidion, am asyn, am ddafad, am ddilledyn, ac am bob peth a gollo yr hwn a ddywedo arall ei fod yn eiddo: deued achos y ddau gerbron y barnwyr; a’r hwn y barno’r swyddogion yn ei erbyn, taled i’w gymydog yn ddwbl. 10Os rhydd un asyn, neu eidion, neu ddafad, neu un anifail, at ei gymydog i gadw, a marw ohono, neu ei friwo, neu ei yrru ymaith heb neb yn gweled: 11Bydded llw yr Arglwydd rhyngddynt ill dau, na roddes efe ei law at dda ei gymydog; a chymered ei berchennog hynny, ac na wnaed y llall iawn. 12Ac os gan ladrata y lladrateir ef oddi wrtho; gwnaed iawn i’w berchennog. 13Os gan ysglyfaethu yr ysglyfaethir ef; dyged ef yn dystiolaeth, ac na thaled am yr hwn a ysglyfaethwyd.
14Ond os benthycia un gan ei gymydog ddim, a’i friwo, neu ei farw, heb fod ei berchennog gydag ef; gan dalu taled. 15Os ei berchennog fydd gydag ef, na thaled: os llog yw efe, am ei log y daeth.
16Ac os huda un forwyn yr hon ni ddyweddïwyd, a gorwedd gyda hi; gan gynysgaeddu cynysgaedded hi yn wraig iddo ei hun. 17Os ei thad a lwyr wrthyd ei rhoddi hi iddo taled arian yn ôl gwaddol morynion.
18Na chaffed hudoles fyw.
19Llwyr rodder i farwolaeth bob un a orweddo gydag anifail.
20Lladder yn farw a abertho i dduwiau, onid i’r Arglwydd yn unig.
21Na orthryma, ac na flina y dieithr: canys dieithriaid fuoch chwithau yn nhir yr Aifft.
22Na chystuddiwch un weddw, nac amddifad. 23Os cystuddiwch hwynt mewn un modd, a gweiddi ohonynt ddim arnaf; mi a lwyr wrandawaf eu gwaedd hwynt; 24A’m digofaint a ennyn, a mi a’ch lladdaf â’r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon, a’ch plant yn amddifaid.
25Os echwynni arian i’m pobl sydd dlawd yn dy ymyl, na fydd fel ocrwr iddynt: na ddod usuriaeth arnynt. 26Os cymeri ddilledyn dy gymydog ar wystl, dyro ef adref iddo erbyn machludo haul: 27Oherwydd hynny yn unig sydd i’w roddi arno ef; hwnnw yw ei ddilledyn am ei groen ef: mewn pa beth y gorwedd? A bydd, os gwaedda efe arnaf, i mi wrando; canys trugarog ydwyf fi.
28Na chabla’r swyddogion; ac na felltithia bennaeth dy bobl.
29Nac oeda dalu y cyntaf o’th ffrwythau aeddfed, ac o’th bethau gwlybion: dod i mi y cyntaf-anedig o’th feibion. 30Felly y gwnei am dy eidion, ac am dy ddafad; saith niwrnod y bydd gyda’i fam, a’r wythfed dydd y rhoddi ef i mi.
31A byddwch yn ddynion sanctaidd i mi: ac na fwytewch gig wedi ei ysglyfaethu yn y maes; teflwch ef i’r ci.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.