No themes applied yet
1Na chyfod enllib; na ddod dy law gyda’r annuwiol i fod yn dyst anwir.
2Na ddilyn liaws i wneuthur drwg; ac nac ateb mewn ymrafael, gan bwyso yn ôl llaweroedd, i ŵyro barn.
3Na pharcha’r tlawd chwaith yn ei ymrafael.
4Os cyfarfyddi ag eidion dy elyn, neu â’i asyn, yn myned ar gyfrgoll; dychwel ef adref iddo. 5Os gweli asyn yr hwn a’th gasâ yn gorwedd dan ei bwn; a beidi â’i gynorthwyo? gan gynorthwyo cynorthwya gydag ef. 6Na ŵyra farn dy dlawd yn ei ymrafael. 7Ymgadw ymhell oddi wrth gam fater: na ladd chwaith na’r gwirion na’r cyfiawn: canys ni chyfiawnhaf fi yr annuwiol.
8Na dderbyn wobr: canys gwobr a ddalla y rhai sydd yn gweled, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn.
9Na orthryma’r dieithr: chwi a wyddoch galon y dieithr; oherwydd chwi a fuoch ddieithriaid yn nhir yr Aifft. 10Chwe blynedd yr heui dy dir, ac y cesgli ei ffrwyth: 11A’r seithfed paid ag ef, a gad ef yn llonydd; fel y caffo tlodion dy bobl fwyta: a bwytaed bwystfil y maes eu gweddill hwynt. Felly y gwnei am dy winllan, ac am dy olewydden. 12Chwe diwrnod y gwnei dy waith; ac ar y seithfed dydd y gorffwysi: fel y caffo dy ych a’th asyn lonyddwch, ac y cymero mab dy forwyn gaeth, a’r dieithr ddyn, ei anadl ato. 13Ac ymgedwch ym mhob peth a ddywedais wrthych: na chofiwch enw duwiau eraill; na chlywer hynny o’th enau.
14Tair gwaith yn y flwyddyn y cedwi ŵyl i mi. 15Gŵyl y bara croyw a gedwi: saith niwrnod y bwytei fara croyw, fel y gorchmynnais i ti, ar yr amser gosodedig o fis Abib: canys ynddo y daethost allan o’r Aifft: ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw: 16A gŵyl cynhaeaf blaenffrwyth dy lafur, yr hwn a heuaist yn y maes; a gŵyl y cynnull yn niwedd y flwyddyn, pan gynullech dy lafur o’r maes. 17Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr Arglwydd dy Dduw. 18Nac abertha waed fy aberth gyda bara lefeinllyd; ac nac arhoed braster fy aberth dros nos hyd y bore. 19Dwg i dŷ’r Arglwydd dy Dduw y cyntaf o flaenffrwyth dy dir. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam.
20Wele fi yn anfon angel o’th flaen i’th gadw ar y ffordd, ac i’th arwain i’r man a baratoais. 21Gwylia rhagddo, a gwrando ar ei lais ef; na chyffroa ef: canys ni ddioddef eich anwiredd: oblegid y mae fy enw ynddo ef. 22Os gan wrando y gwrandewi ar ei lais ef, a gwneuthur y cwbl a lefarwyf; mi a fyddaf elyn i’th elynion, ac a wrthwynebaf dy wrthwynebwyr. 23Oherwydd fy angel a â o’th flaen di, ac a’th ddwg di i mewn at yr Amoriaid, a’r Hethiaid, a’r Pheresiaid, a’r Canaaneaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; a mi a’u difethaf hwynt. 24Nac ymgryma i’w duwiau hwynt, ac na wasanaetha hwynt, ac na wna yn ôl eu gweithredoedd hwynt; ond llwyr ddinistria hwynt, dryllia eu delwau hwynt yn gandryll. 25A chwi a wasanaethwch yr Arglwydd eich Duw, ac efe a fendithia dy fara, a’th ddwfr; a mi a dynnaf ymaith bob clefyd o’th fysg.
26Ni bydd yn dy dir di ddim yn erthylu, na heb hilio: mi a gyflawnaf rifedi dy ddyddiau. 27Mi a anfonaf fy arswyd o’th flaen, ac a ddifethaf yr holl bobl y deui atynt, ac a wnaf i’th holl elynion droi eu gwarrau atat. 28A mi a anfonaf gacwn o’th flaen, a hwy a yrrant yr Hefiaid, a’r Canaaneaid, a’r Hethiaid, allan o’th flaen di. 29Ni yrraf hwynt allan o’th flaen di mewn un flwyddyn; rhag bod y wlad yn anghyfannedd, ac i fwystfilod y maes amlhau yn dy erbyn di. 30O fesur ychydig ac ychydig y gyrraf hwynt allan o’th flaen di, nes i ti gynyddu ac etifeddu’r tir. 31A gosodaf dy derfyn o’r môr coch hyd fôr y Philistiaid, ac o’r diffeithwch hyd yr afon: canys mi a roddaf yn eich meddiant breswylwyr y tir; a thi a’u gyrri hwynt allan o’th flaen. 32Na wna amod â hwynt, nac â’u duwiau. 33Na ad iddynt drigo yn dy wlad; rhag iddynt beri i ti bechu i’m herbyn: canys os gwasanaethi di eu duwiau hwynt, diau y bydd hynny yn dramgwydd i ti.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.