No themes applied yet
1A chymer Aaron dy frawd atat, a’i feibion gydag ef, o blith meibion Israel, i offeiriadu i mi; sef Aaron, Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar, meibion Aaron. 2Gwna hefyd wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, er gogoniant a harddwch. 3A dywed wrth yr holl rai doeth o galon, y rhai a lenwais i ag ysbryd doethineb, am wneuthur ohonynt ddillad Aaron i’w sancteiddio ef, i offeiriadu i mi. 4A dyma y gwisgoedd a wnânt. Dwyfronneg, ac effod, mantell hefyd, a phais o waith edau a nodwydd, meitr, a gwregys: felly y gwnânt wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, ac i’w feibion, i offeiriadu i mi. 5Cymerant gan hynny aur, a sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main.
6A gwnânt yr effod o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, o waith cywraint. 7Dwy ysgwydd fydd iddi wedi eu cydio wrth ei dau gwr; ac felly y cydir hi ynghyd. 8A gwregys cywraint ei effod ef yr hwn fydd arni, fydd o’r un, yn unwaith â hi; o aur, sidan glas, a phorffor, ysgarlad hefyd, a lliain main cyfrodedd. 9Cymer hefyd ddau faen onics, a nadd ynddynt enwau meibion Israel: 10Chwech o’u henwau ar un maen, a’r chwech enw arall ar yr ail faen, yn ôl eu genedigaeth. 11A gwaith naddwr mewn maen, fel naddiadau sêl, y neddi di y ddau faen, ag enwau meibion Israel: gwna hwynt â boglynnau o aur o’u hamgylch. 12A gosod y ddau faen ar ysgwyddau yr effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel. Ac Aaron a ddwg eu henwau hwynt gerbron yr Arglwydd ar ei ddwy ysgwydd, yn goffadwriaeth.
13Gwna hefyd foglynnau aur; 14A dwy gadwyn o aur coeth yn eu pennau: o blethwaith y gwnei hwynt; a dod y cadwynau plethedig ynglŷn wrth y boglynnau.
15Gwna hefyd ddwyfronneg barnedigaeth, o waith cywraint; ar waith yr effod y gwnei hi: o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, y gwnei hi. 16Pedeirongl fydd hi yn ddau ddyblyg; yn rhychwant ei hyd, ac yn rhychwant ei lled. 17Llanw hi yn llawn o feini, sef pedair rhes o feini: un rhes fydd sardius, a thopas, a smaragdus: hyn fydd y rhes gyntaf. 18A’r ail res fydd carbuncl, saffir, ac adamant. 19A’r drydedd res fydd lygur, ac acat, ac amethyst. 20Y bedwaredd res fydd beryl, ac onics, a iasbis: byddant wedi eu gosod mewn aur yn eu lleoedd. 21A’r meini fyddant ag enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ôl eu henwau hwynt; o naddiad sêl, bob un wrth ei enw y byddant, yn ôl y deuddeg llwyth.
22A gwna ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith, o aur coeth. 23Gwna hefyd ar y ddwyfronneg ddwy fodrwy o aur, a dod y ddwy fodrwy wrth ddau gwr y ddwyfronneg. 24A dod y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy’r ddwy fodrwy ar gyrrau y ddwyfronneg. 25A’r ddau ben arall i’r ddwy gadwyn blethedig dod ynglŷn wrth y ddau foglyn, a dod ar ysgwyddau yr effod o’r tu blaen.
26Gwna hefyd ddwy fodrwy o aur, a gosod hwynt ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr effod o’r tu mewn. 27A gwna ddwy fodrwy o aur, a dod hwynt ar ddau ystlys yr effod oddi tanodd, tua’i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr effod. 28A’r ddwyfronneg a rwymant â’u modrwyau wrth fodrwyau yr effod â llinyn o sidan glas, fel y byddo oddi ar wregys yr effod, fel na ddatoder y ddwyfronneg oddi wrth yr effod. 29A dyged Aaron, yn nwyfronneg y farnedigaeth, enwau meibion Israel ar ei galon, pan ddelo i’r cysegr, yn goffadwriaeth gerbron yr Arglwydd yn wastadol.
30A dod ar ddwyfronneg y farnedigaeth, yr Urim a’r Thummim; a byddant ar galon Aaron pan elo i mewn gerbron yr Arglwydd: ac Aaron a ddwg farnedigaeth meibion Israel ar ei galon, gerbron yr Arglwydd, yn wastadol.
31Gwna hefyd fantell yr effod oll o sidan glas. 32A bydd twll yn ei phen uchaf hi, ar ei chanol: gwrym o waith gwehydd o amgylch y twll, megis twll llurig, fydd iddi, rhag rhwygo.
33A gwna ar ei godre hi bomgranadau o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, ar ei godre o amgylch; a chlych o aur rhyngddynt o amgylch. 34Cloch aur a phomgranad, a chloch aur a phomgranad, ar odre’r fantell o amgylch. 35A hi a fydd am Aaron wrth weini: a cheir clywed ei sŵn ef pan ddelo i’r cysegr, gerbron yr Arglwydd, a phan elo allan; fel na byddo farw.
36Gwna hefyd ddalen o aur coeth; a nadd arni, fel naddiadau sêl, SANCTEIDDRWYDD I’R ARGLWYDD. 37A gosod hi wrth linyn o sidan glas, a bydded ar y meitr: o’r tu blaen i’r meitr y bydd. 38A hi a fydd ar dalcen Aaron, fel y dygo Aaron anwiredd y pethau sanctaidd a gysegro meibion Israel yn eu holl roddion sanctaidd: ac yn wastad y bydd ar ei dalcen ef, fel y byddo iddynt ffafr gerbron yr Arglwydd.
39Gweithia ag edau a nodwydd y bais o liain main; a gwna feitr o liain main; a’r gwregys a wnei o wniadwaith.
40I feibion Aaron hefyd y gwnei beisiau, a gwna iddynt wregysau; gwna hefyd iddynt gapiau, er gogoniant a harddwch. 41A gwisg hwynt am Aaron dy frawd, a’i feibion gydag ef: ac eneinia hwynt, cysegra hwynt hefyd, a sancteiddia hwynt, i offeiriadu i mi. 42Gwna hefyd iddynt lodrau lliain i guddio eu cnawd noeth: o’r lwynau hyd y morddwydydd y byddant. 43A byddant am Aaron, ac am ei feibion, pan ddelont i mewn i babell y cyfarfod, neu pan ddelont yn agos at yr allor i weini yn y cysegr: fel na ddygont anwiredd, a marw. Hyn fydd deddf dragwyddol iddo ef, ac i’w had ar ei ôl.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.