No themes applied yet
1A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Cerdda, dos i fyny oddi yma, ti a’r bobl a ddygaist i fyny o wlad yr Aifft, i’r wlad am yr hon y tyngais wrth Abraham, Isaac, a Jacob, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf hi. 2A mi a anfonaf angel o’th flaen di; ac a yrraf allan y Canaanead, yr Amoriad, a’r Hethiad, y Pheresiad, yr Hefiad, a’r Jebusiad: 3I wlad yn llifeirio o laeth a mêl: oherwydd nid af fi i fyny yn dy blith; oblegid pobl wargaled wyt: rhag i mi dy ddifa ar y ffordd.
4A phan glywodd y bobl y drwg chwedl hwn, galaru a wnaethant: ac ni wisgodd neb ei harddwisg amdano. 5Oblegid yr Arglwydd a ddywedasai wrth Moses, Dywed wrth feibion Israel, Pobl wargaled ydych chwi; yn ddisymwth y deuaf i fyny i’th ganol di, ac y’th ddifethaf: am hynny yn awr diosg dy harddwisg oddi amdanat, fel y gwypwyf beth a wnelwyf i ti. 6A meibion Israel a ddiosgasant eu harddwisg wrth fynydd Horeb. 7A Moses a gymerodd y babell, ac a’i lledodd o’r tu allan i’r gwersyll, ymhell oddi wrth y gwersyll; ac a’i galwodd, Pabell y cyfarfod; a phob un a geisiai yr Arglwydd, a âi allan i babell y cyfarfod, yr hon ydoedd o’r tu allan i’r gwersyll. 8A phan aeth Moses i’r babell, yr holl bobl a godasant, ac a safasant bob un ar ddrws ei babell; ac a edrychasant ar ôl Moses, nes ei ddyfod i’r babell. 9A phan aeth Moses i’r babell, y disgynnodd colofn y cwmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell: a’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses. 10A gwelodd yr holl bobl golofn y cwmwl yn sefyll wrth ddrws y babell: a’r holl bobl a gododd, ac a addolasant bob un wrth ddrws ei babell. 11A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses wyneb yn wyneb, fel y llefarai gŵr wrth ei gyfaill. Ac efe a ddychwelodd i’r gwersyll: ond y llanc Josua, mab Nun, ei weinidog ef, ni syflodd o’r babell.
12A Moses a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Gwêl, ti a ddywedi wrthyf, Dwg y bobl yma i fyny; ac ni ddangosaist i mi yr hwn a anfoni gyda mi: a thi a ddywedaist, Mi a’th adwaen wrth dy enw, a chefaist hefyd ffafr yn fy ngolwg. 13Yn awr gan hynny, o chefais ffafr yn dy olwg, hysbysa i mi dy ffordd, atolwg, fel y’th adwaenwyf, ac fel y caffwyf ffafr yn dy olwg: gwêl hefyd mai dy bobl di yw y genedl hon. 14Yntau a ddywedodd, Fy wyneb a gaiff fyned gyda thi, a rhoddaf orffwystra i ti. 15Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid â dy wyneb gyda ni, nac arwain ni i fyny oddi yma. 16Canys pa fodd y gwyddir yma gael ohonof fi ffafr yn dy olwg, mi a’th bobl? onid trwy fyned ohonot ti gyda ni? Felly myfi a’th bobl a ragorwn ar yr holl bobl sydd ar wyneb y ddaear. 17A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Gwnaf hefyd y peth hyn a leferaist: oblegid ti a gefaist ffafr yn fy ngolwg, a mi a’th adwaen wrth dy enw. 18Yntau a ddywedodd, Dangos i mi, atolwg, dy ogoniant. 19Ac efe a ddywedodd, Gwnaf i’m holl ddaioni fyned heibio o flaen dy wyneb, a chyhoeddaf enw yr Arglwydd o’th flaen di: a mi a drugarhaf wrth yr hwn y cymerwyf drugaredd arno, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf. 20Ac efe a ddywedodd, Ni elli weled fy wyneb: canys ni’m gwêl dyn, a byw. 21Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, Wele fan yn fy ymyl, lle y cei sefyll ar graig. 22A thra yr elo fy ngogoniant heibio, mi a’th osodaf o fewn agen yn y graig; a mi a’th orchuddiaf â’m llaw, nes i mi fyned heibio. 23Yna y tynnaf ymaith fy llaw, a’m tu cefn a gei di ei weled: ond ni welir fy wyneb.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.