No themes applied yet
1Ac wedi hynny, Moses ac Aaron a aethant i mewn, ac a ddywedasant wrth Pharo, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y cadwont ŵyl i mi yn yr anialwch. 2A dywedodd Pharo, Pwy yw yr Arglwydd, fel y gwrandawn i ar ei lais, i ollwng Israel ymaith? Yr Arglwydd nid adwaen, ac Israel ni ollyngaf. 3A dywedasant hwythau, Duw yr Hebreaid a gyfarfu â ni: gad i ni fyned, atolwg, daith tridiau yn yr anialwch, ac aberthu i’r Arglwydd ein Duw; rhag iddo ein rhuthro â haint, neu â chleddyf. 4A dywedodd brenin yr Aifft wrthynt, Moses ac Aaron, paham y perwch i’r bobl beidio â’u gwaith? ewch at eich beichiau. 5Pharo hefyd a ddywedodd, Wele, pobl y wlad yn awr ydynt lawer, a pharasoch iddynt beidio â’u llwythau. 6A gorchmynnodd Pharo, y dydd hwnnw, i’r rhai oedd feistriaid gwaith ar y bobl, a’u swyddogion, gan ddywedyd, 7Na roddwch mwyach wellt i’r bobl i wneuthur priddfeini, megis o’r blaen; elont a chasglant wellt iddynt eu hunain. 8A rhifedi’r priddfeini y rhai yr oeddynt hwy yn ei wneuthur o’r blaen a roddwch arnynt; na leihewch o hynny: canys segur ydynt; am hynny y maent yn gweiddi, gan ddywedyd, Gad i ni fyned ac aberthu i’n Duw. 9Trymhaer y gwaith ar y gwŷr, a gweithiant ynddo; fel nad edrychant am eiriau ofer.
10A meistriaid gwaith y bobl, a’u swyddogion, a aethant allan, ac a lefarasant wrth y bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Pharo, Ni roddaf wellt i chwi. 11Ewch chwi, a cheisiwch i chwi wellt lle y caffoch; er hynny ni leiheir dim o’ch gwaith. 12A’r bobl a ymwasgarodd trwy holl wlad yr Aifft, i gasglu sofl yn lle gwellt. 13A’r meistriaid gwaith oedd yn eu prysuro, gan ddywedyd, Gorffennwch eich gwaith, dogn dydd yn ei ddydd, megis pan oedd gwellt. 14A churwyd swyddogion meibion Israel, y rhai a osodasai meistriaid gwaith Pharo arnynt hwy; a dywedwyd, Paham na orffenasoch eich tasg, ar wneuthur priddfeini, ddoe a heddiw, megis cyn hynny?
15Yna swyddogion meibion Israel a ddaethant ac a lefasant ar Pharo, gan ddywedyd, Paham y gwnei fel hyn â’th weision? 16Gwellt ni roddir i’th weision; a Gwnewch briddfeini i ni, meddant: ac wele dy weision a gurwyd; a’th bobl di dy hun sydd ar y bai. 17Ac efe a ddywedodd, Segur, segur ydych; am hynny yr ydych chwi yn dywedyd, Gad i ni fyned ac aberthu i’r Arglwydd. 18Am hynny ewch yn awr, gweithiwch; ac ni roddir gwellt i chwi; eto chwi a roddwch yr un cyfrif o’r priddfeini. 19A swyddogion meibion Israel a’u gwelent eu hun mewn lle drwg, pan ddywedid, Na leihewch ddim o’ch priddfeini, dogn dydd yn ei ddydd.
20A chyfarfuant â Moses ac Aaron, yn sefyll ar eu ffordd, pan oeddynt yn dyfod allan oddi wrth Pharo: 21A dywedasant wrthynt, Edryched yr Arglwydd arnoch chwi, a barned; am i chwi beri i’n sawyr ni ddrewi gerbron Pharo, a cherbron ei weision, gan roddi cleddyf yn eu llaw hwynt i’n lladd ni. 22A dychwelodd Moses at yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, paham y drygaist y bobl hyn? i ba beth y’m hanfonaist? 23Canys er pan ddeuthum at Pharo, i lefaru yn dy enw di, efe a ddrygodd y bobl hyn; a chan waredu ni waredaist dy bobl.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.