No themes applied yet
1A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos at Pharo, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont. 2Ac os gwrthodi eu gollwng, wele, mi a drawaf dy holl derfynau di â llyffaint. 3A’r afon a heigia lyffaint, y rhai a ddringant, ac a ddeuant i’th dŷ, ac i ystafell dy orweddle, ac ar dy wely, ac i dŷ dy weision, ac ar dy bobl, ac i’th ffyrnau, ac ar dy fwyd gweddill. 4A’r llyffaint a ddringant arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dy holl weision.
5Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy law â’th wialen ar y ffrydiau, ar yr afonydd, ac ar y llynnoedd; a gwna i lyffaint ddyfod i fyny ar hyd tir yr Aifft. 6Ac Aaron a estynnodd ei law ar ddyfroedd yr Aifft; a’r llyffaint a ddaethant i fyny, ac a orchuddiasant dir yr Aifft. 7A’r swynwyr a wnaethant yr un modd, trwy eu swynion; ac a ddygasant i fyny lyffaint ar wlad yr Aifft.
8Yna Pharo a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Gweddïwch ar yr Arglwydd, ar iddo dynnu’r llyffaint ymaith oddi wrthyf fi, ac oddi wrth fy mhobl; a mi a ollyngaf ymaith y bobl, fel yr aberthont i’r Arglwydd. 9A Moses a ddywedodd wrth Pharo, Cymer ogoniant arnaf fi; Pa amser y gweddïaf trosot, a thros dy weision, a thros dy bobl, am ddifa’r llyffaint oddi wrthyt, ac o’th dai, a’u gadael yn unig yn yr afon? 10Ac efe a ddywedodd, Yfory. A dywedodd yntau, Yn ôl dy air y bydd; fel y gwypech nad oes neb fel yr Arglwydd ein Duw ni. 11A’r llyffaint a ymadawant â thi, ac â’th dai, ac â’th weision, ac â’th bobl; yn unig yn yr afon y gadewir hwynt. 12A Moses ac Aaron a aethant allan oddi wrth Pharo. A Moses a lefodd ar yr Arglwydd, o achos y llyffaint y rhai a ddygasai efe ar Pharo. 13A’r Arglwydd a wnaeth yn ôl gair Moses; a’r llyffaint a fuant feirw o’r tai, o’r pentrefydd, ac o’r meysydd. 14A chasglasant hwynt yn bentyrrau; fel y drewodd y wlad. 15Pan welodd Pharo fod seibiant iddo, efe a galedodd ei galon, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.
16A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy wialen, a tharo lwch y ddaear, fel y byddo yn llau trwy holl wlad yr Aifft. 17Ac felly y gwnaethant: canys Aaron a estynnodd ei law â’i wialen, ac a drawodd lwch y ddaear; ac efe a aeth yn llau ar ddyn ac ar anifail: holl lwch y tir oedd yn llau trwy holl wlad yr Aifft. 18A’r swynwyr a wnaethant felly, trwy eu swynion, i ddwyn llau allan; ond ni allasant: felly y bu’r llau ar ddyn ac ar anifail. 19Yna y swynwyr a ddywedasant wrth Pharo, Bys Duw yw hyn: a chaledwyd calon Pharo, ac ni wrandawai arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.
20A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf gerbron Pharo; wele, efe a ddaw allan i’r dwfr: yna dywed wrtho, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont. 21Oherwydd, os ti ni ollyngi fy mhobl, wele fi yn gollwng arnat ti, ac ar dy weision, ac ar dy bobl, ac i’th dai, gymysgbla: a thai’r Eifftiaid a lenwir o’r gymysgbla, a’r ddaear hefyd yr hon y maent arni. 22A’r dydd hwnnw y neilltuaf fi wlad Gosen, yr hon y mae fy mhobl yn aros ynddi, fel na byddo’r gymysgbla yno; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd yng nghanol y ddaear. 23A mi a osodaf wahan rhwng fy mhobl i a’th bobl di: yfory y bydd yr arwydd hwn. 24A’r Arglwydd a wnaeth felly; a daeth cymysgbla drom i dŷ Pharo, ac i dai ei weision, ac i holl wlad yr Aifft; a llygrwyd y wlad gan y gymysgbla.
25A Pharo a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, aberthwch i’ch Duw yn y wlad. 26A dywedodd Moses, Nid cymwys gwneuthur felly; oblegid nyni a aberthwn i’r Arglwydd ein Duw ffieiddbeth yr Eifftiaid: wele, os aberthwn ffieiddbeth yr Eifftiaid yng ngŵydd eu llygaid hwynt, oni labyddiant hwy ni? 27Taith tridiau yr awn i’r anialwch, a nyni a aberthwn i’r Arglwydd ein Duw, megis y dywedo efe wrthym ni. 28A dywedodd Pharo, Mi a’ch gollyngaf chwi, fel yr aberthoch i’r Arglwydd eich Duw yn yr anialwch; ond nac ewch ymhell: gweddïwch trosof fi. 29A dywedodd Moses, Wele, myfi a af allan oddi wrthyt, ac a weddïaf ar yr Arglwydd, ar gilio’r gymysgbla oddi wrth Pharo, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobl, yfory: ond na thwylled Pharo mwyach, heb ollwng ymaith y bobl i aberthu i’r Arglwydd. 30A Moses a aeth allan oddi wrth Pharo, ac a weddïodd ar yr Arglwydd. 31A gwnaeth yr Arglwydd yn ôl gair Moses: a’r gymysgbla a dynnodd efe ymaith oddi wrth Pharo, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobl; ni adawyd un. 32A Pharo a galedodd ei galon y waith honno hefyd, ac ni ollyngodd ymaith y bobl.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.