No themes applied yet
1A darfu yn y ddegfed flwyddyn ar hugain, yn y pedwerydd mis, ar y pumed dydd o’r mis, (a mi ymysg y gaethglud wrth afon Chebar,) agoryd y nefoedd, a gwelwn weledigaethau Duw. 2Yn y pumed dydd o’r mis, honno oedd y bumed flwyddyn o gaethgludiad brenin Jehoiachin, 3Y daeth gair yr Arglwydd yn eglur at Eseciel yr offeiriad, mab Busi, yn nhir y Caldeaid, wrth afon Chebar; ac yno y bu llaw yr Arglwydd arno ef.
4Yna yr edrychais, ac wele yn dyfod o’r gogledd gorwynt, a chwmwl mawr, a thân yn ymgymryd, a disgleirdeb o amgylch iddo; ac o’i ganol, sef o ganol y tân, fel lliw ambr. 5Hefyd o’i ganol y daeth cyffelybrwydd i bedwar peth byw. A dyma eu hagwedd hwynt; dull dyn oedd iddynt. 6A phedwar wyneb i bob un, a phedair adain i bob un ohonynt. 7A’u traed yn draed union; a gwadn eu traed fel gwadn troed llo; a gwreichioni yr oeddynt fel lliw efydd gloyw. 8Ac yr oedd dwylo dyn oddi tan eu hadenydd, ar eu pedwar ystlys; eu hwynebau hefyd a’u hadenydd oedd ganddynt ill pedwar. 9Eu hadenydd hwynt oedd wedi eu cysylltu y naill wrth y llall: pan gerddent, ni throent; aent bob un yn union rhag ei wyneb. 10Dyma ddull eu hwynebau hwynt; Wyneb dyn, ac wyneb llew, oedd ar y tu deau iddynt ill pedwar: ac wyneb ych o’r tu aswy iddynt ill pedwar, ac wyneb eryr iddynt ill pedwar. 11Dyma eu hwynebau hwynt; a’u hadenydd oedd wedi eu dosbarthu oddi arnodd, dwy i bob un wedi eu cysylltu â’i gilydd, a dwy oedd yn cuddio eu cyrff. 12Aent hefyd bob un yn union rhag ei wyneb; i’r lle y byddai yr ysbryd ar fyned, yno yr aent; ni throent pan gerddent. 13Dyma ddull y pethau byw; Eu gwelediad oedd fel marwor tân yn llosgi, ac fel gwelediad ffaglau: yr oedd efe yn ymgerdded rhwng y pethau byw, a disglair oedd y tân, a mellt yn dyfod allan o’r tân. 14Rhedai hefyd a dychwelai y pethau byw, fel gwelediad mellten.
15Edrychais hefyd ar y pethau byw: ac wele ar lawr yn ymyl y pethau byw un olwyn, gyda’i bedwar wyneb. 16Dull yr olwynion a’u gwaith oedd fel lliw beryl: a’r un dull oedd iddynt ill pedair; a’u gwedd hwynt a’u gwaith fel pe byddai olwyn yng nghanol olwyn. 17Pan elent, aent ar eu pedwar ochr: ni throent pan gerddent. 18Eu cantau hefyd oedd gyfuwch ag yr oeddynt yn ofnadwy: a’u cantau oedd yn llawn llygaid oddi amgylch ill pedwar. 19A phan gerddai y pethau byw, yr olwynion a gerddent wrthynt; a phan ymgodai y pethau byw oddi ar y ddaear, yr ymgodai yr olwynion. 20I’r lle y byddai yr ysbryd i fyned, yr aent, yno yr oedd eu hysbryd ar fyned; a’r olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwynt: canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion. 21Cerddent pan gerddent hwythau, a safent pan safent hwythau; a phan ymgodent hwy oddi ar y ddaear, yr olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwythau: canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion. 22Ac yr oedd ar bennau y pethau byw ddull y ffurfafen, fel lliw grisial ofnadwy, wedi ei hestyn dros eu pennau hwynt oddi arnodd. 23A than y ffurfafen yr oedd eu hadenydd hwynt yn union, y naill tuag at y llall: dwy i bob un yn eu cuddio o’r naill du, a dwy i bob un yn cuddio eu cyrff o’r tu arall. 24A mi a glywn sŵn eu hadenydd hwynt, fel sŵn dyfroedd lawer, fel sŵn yr Hollalluog, pan gerddent: sŵn lleferydd, fel sŵn llu: pan safent, llaesent eu hadenydd. 25Ac yr oedd llais oddi ar y ffurfafen yr hon oedd ar eu pennau hwynt, pan safent, ac y llaesent eu hadenydd.
26Ac oddi ar y ffurfafen yr hon oedd ar eu pennau hwynt, yr oedd cyffelybrwydd gorseddfainc, fel gwelediad maen saffir; ac ar gyffelybrwydd yr orseddfainc yr oedd oddi arnodd arno ef gyffelybrwydd megis gwelediad dyn. 27Gwelais hefyd megis lliw ambr, fel gwelediad tân o’i fewn o amgylch: o welediad ei lwynau ac uchod, ac o welediad ei lwynau ac isod, y gwelais megis gwelediad tân, a disgleirdeb iddo oddi amgylch. 28Fel gwelediad y bwa a fydd yn y cwmwl ar ddydd glawog, fel hyn yr oedd gwelediad y disgleirdeb o amgylch. Dyma welediad cyffelybrwydd gogoniant yr Arglwydd. A phan welais, syrthiais ar fy wyneb, a chlywais lais un yn llefaru.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.