No themes applied yet
1A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 2Proffwyda, fab dyn, yn erbyn proffwydi Israel, y rhai sydd yn proffwydo, a dywed wrth y rhai a broffwydant o’u calon eu hun, Gwrandewch air yr Arglwydd. 3Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwae y proffwydi ynfyd, y rhai a rodiant yn ôl eu hysbryd eu hun, ac heb weled dim. 4Dy broffwydi, Israel, ydynt fel llwynogod yn yr anialwch. 5Ni safasoch yn yr adwyau, ac ni chaeasoch y cae i dŷ Israel, i sefyll yn y rhyfel ar ddydd yr Arglwydd. 6Gwagedd a gau ddewiniaeth a welsant, y rhai a ddywedant, Dywedodd yr Arglwydd; a’r Arglwydd heb eu hanfon hwynt: a pharasant i eraill ddisgwyl am gyflawni y gair. 7Onid ofer weledigaeth a welsoch, a gau ddewiniaeth a draethasoch, pan ddywedasoch, Yr Arglwydd a ddywedodd; a minnau heb ddywedyd? 8Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Am lefaru ohonoch wagedd, a gweled ohonoch gelwydd; am hynny wele fi i’ch erbyn, medd yr Arglwydd Dduw. 9A bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sydd yn gweled gwagedd, ac yn dewinio celwydd; yng nghyfrinach fy mhobl ni byddant, ac o fewn ysgrifen tŷ Israel nid ysgrifennir hwynt, i dir Israel hefyd ni ddeuant; a gwybyddwch mai myfi yw yr Arglwydd Dduw.
10O achos, ie, o achos hudo ohonynt fy mhobl, gan ddywedyd, Heddwch; ac nid oedd heddwch; un a adeiladai bared, ac wele eraill yn ei briddo â chlai heb ei dymheru. 11Dywed wrth y rhai a’i priddant â phridd rhydd, y syrth efe: canys curlaw a fydd, a chwithau gerrig cenllysg a syrthiwch; a gwynt tymhestlog a’i rhwyga. 12Wele, pan syrthio y pared, oni ddywedir wrthych, Mae y clai â’r hwn y priddasoch ef? 13Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Minnau a’i rhwygaf â gwynt tymhestlog yn fy llid; a churlaw fydd yn fy nig, a cherrig cenllysg yn fy llidiowgrwydd, i’w ddifetha. 14Felly y bwriaf i lawr y pared a briddasoch â phridd heb ei dymheru, ac a’i tynnaf hyd lawr, fel y dinoether ei sylfaen, ac efe a syrth, a chwithau a ddifethir yn ei ganol ef; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd. 15Fel hyn y gorffennaf fy llid ar y pared, ac ar y rhai a’i priddasant â phridd heb dymheru; a dywedaf wrthych, Y pared nid yw, na’r rhai a’i priddasant: 16Sef proffwydi Israel, y rhai a broffwydant am Jerwsalem, ac a welant iddi weledigaethau heddwch, ac nid oes heddwch, medd yr Arglwydd Dduw.
17Tithau fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn merched dy bobl, y rhai a broffwydant o’u calon eu hun; a phroffwyda yn eu herbyn hwynt, 18A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwae y gwniadyddesau clustogau dan holl benelinoedd fy mhobl, a’r rhai a weithiant foledau am ben pob corffolaeth, i hela eneidiau. Ai eneidiau fy mhobl a heliwch chwi, ac a gedwch chwi yn fyw yr eneidiau a ddêl atoch? 19Ac a halogwch chwi fi ymysg fy mhobl er dyrneidiau o haidd, ac am dameidiau o fara, i ladd yr eneidiau ni ddylent farw, a chadw yn fyw yr eneidiau ni ddylent fyw, gan ddywedyd ohonoch gelwydd wrth fy mhobl, y rhai a wrandawent gelwydd? 20Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn erbyn eich clustogau chwi, â’r rhai yr ydych yno yn hela eneidiau, i beri iddynt ehedeg, a rhwygaf hwynt oddi wrth eich breichiau; a gollyngaf yr eneidiau, sef yr eneidiau yr ydych yn eu hela, i beri iddynt ehedeg. 21Rhwygaf hefyd eich moledau chwi, a gwaredaf fy mhobl o’ch llaw, ac ni byddant mwy yn eich llaw chwi yn helfa; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd. 22Am dristáu calon y cyfiawn trwy gelwydd, a minnau heb ei ofidio ef; ac am gadarnhau dwylo yr annuwiol, fel na ddychwelai o’i ffordd ddrygionus, trwy addo iddo einioes; 23Oherwydd hynny ni welwch wagedd, ac ni ddewiniwch ddewiniaeth mwy; canys gwaredaf fy mhobl o’ch llaw chwi; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.