No themes applied yet
1A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 2Ha fab dyn, gwna i Jerwsalem adnabod ei ffieidd-dra, 3A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth Jerwsalem; Dy drigfa a’th enedigaeth sydd o wlad Canaan: dy dad oedd Amoriad, a’th fam yn Hittees. 4Ac am dy enedigaeth, ar y dydd y’th anwyd ni thorrwyd dy fogail, ac mewn dwfr ni’th olchwyd i’th feddalhau: ni’th gyweiriwyd chwaith â halen, ac ni’th rwymwyd â rhwymyn. 5Ni thosturiodd llygad wrthyt, i wneuthur i ti un o hyn, i dosturio wrthyt; ond ar wyneb y maes y’th daflwyd, i ffieiddio dy einioes, ar y dydd y’th aned.
6A phan dramwyais heibio i ti, a’th weled yn ymdrybaeddu yn dy waed, dywedais wrthyt yn dy waed, Bydd fyw; ie, dywedais wrthyt yn dy waed, Bydd fyw. 7Yn fyrddiwn y’th wneuthum fel gwellt y maes, a thi a gynyddaist ac a aethost yn fawr, ac a ddaethost i harddwch godidog: dy fronnau a chwyddasant, a’th wallt a dyfodd, a thi yn llom ac yn noeth o’r blaen. 8Pan euthum heibio i ti, ac edrych arnat, wele dy amser yn amser serchowgrwydd: yna lledais fy adain drosot, a chuddiais dy noethni: tyngais hefyd i ti, ac euthum mewn cyfamod â thi, medd yr Arglwydd Dduw, a thi a aethost yn eiddof fi. 9Yna mi a’th olchais â dwfr; ie, golchais dy waed oddi wrthyt, ac irais di ag olew. 10Mi a’th wisgais hefyd â gwaith edau a nodwydd, rhoddais i ti hefyd esgidiau o groen daearfoch, a gwregysais di â lliain main, a gorchuddiais di â sidan. 11Mi a’th herddais hefyd â harddwch, a rhoddais freichledau am dy ddwylo, a chadwyn am dy wddf. 12Rhoddais hefyd dlws ar dy dalcen, a thlysau wrth dy glustiau, a choron hardd am dy ben. 13Felly y’th harddwyd ag aur ac arian; a’th wisg oedd liain main, a sidan, a gwaith edau a nodwydd; peilliaid, a mêl, ac olew a fwyteit: teg hefyd odiaeth oeddit, a ffynnaist yn frenhiniaeth. 14Aeth allan hefyd i ti enw ymysg y cenhedloedd, am dy degwch: canys cyflawn oedd gan fy harddwch yr hwn a osodaswn arnat, medd yr Arglwydd Dduw.
15Ond ti a ymddiriedaist i’th degwch, a phuteiniaist oherwydd dy enw, a thywelltaist dy buteindra ar bob cyniweirydd; eiddo ef ydoedd. 16Cymeraist hefyd o’th ddillad, a gwnaethost i ti uchelfeydd brithion, a phuteiniaist arnynt: y fath ni ddaw, ac ni bydd felly. 17A chymeraist offer dy harddwch o’m haur ac o’m harian i, y rhai a roddaswn i ti, a gwnaethost i ti ddelwau gwŷr, a phuteiniaist gyda hwynt. 18Cymeraist hefyd dy wisgoedd o waith edau a nodwydd, ac a’u gwisgaist hwynt: fy olew hefyd a’m harogl-darth a roddaist o’u blaen hwynt. 19Felly fy mwyd yr hwn a roddaswn i ti, yn beilliaid, ac yn olew, ac yn fêl, â’r rhai y’th borthaswn di; rhoddaist hynny hefyd o’u blaen hwynt yn arogl peraidd: fel hyn y bu, medd yr Arglwydd Dduw. 20Cymeraist hefyd dy feibion a’th ferched, y rhai a blantasit i mi; y rhai hyn a aberthaist iddynt i’w bwyta. Ai bychan hyn o’th buteindra di, 21Ladd ohonot fy mhlant, a’u rhoddi hwynt i’w tynnu trwy y tân iddynt? 22Ac yn dy holl ffieidd-dra a’th buteindra ni chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, pan oeddit lom a noeth, a’th fod yn ymdrybaeddu yn dy waed. 23A bu ar ôl dy holl ddrygioni, (Gwae, gwae i ti! medd yr Arglwydd Dduw,) 24Adeiladu ohonot i ti uchelfa, a gwneuthur i ti uchelfa ym mhob heol. 25Ym mhen pob ffordd yr adeiledaist dy uchelfa, a gwnaethost dy degwch yn ffiaidd, ac a ledaist dy draed i bob cyniweirydd, ac amlheaist dy buteindra. 26Puteiniaist hefyd gyda meibion yr Aifft dy gymdogion, mawr eu cnawd; ac a amlheaist dy buteindra, i’m digio i. 27Am hynny wele, estynnais fy llaw arnat, a phrinheais dy ran, a rhoddais di wrth ewyllys dy gaseion, merched y Philistiaid, y rhai sydd gywilydd ganddynt dy ffordd ysgeler. 28Puteiniaist hefyd gyda meibion Assur, o eisiau cael dy ddigon; a hefyd wedi puteinio gyda hwynt, ni’th ddigonwyd. 29Amlheaist hefyd dy buteindra yng ngwlad Canaan hyd Caldea; ac eto ni’th ddigonwyd â hyn. 30Mor llesg yw dy galon, medd yr Arglwydd Dduw, gan i ti wneuthur hyn oll, sef gwaith puteinwraig yn llywodraethu! 31Pan adeiledaist dy uchelfa ym mhen pob ffordd, ac y gwnaethost dy uchelfa ym mhob heol; ac nid oeddit fel putain, gan dy fod yn dirmygu gwobr; 32Ond fel gwraig a dorrai ei phriodas, ac a gymerai ddieithriaid yn lle ei gŵr. 33I bob putain y rhoddant wobr; ond tydi a roddi dy wobr i’th holl gariadau, ac a’u gobrwyi hwynt i ddyfod atat oddi amgylch i’th buteindra. 34Ac ynot ti y mae y gwrthwyneb i wragedd eraill yn dy buteindra, gan na phuteiniodd neb ar dy ôl di: canys lle y rhoddi wobr, ac na roddir gwobr i ti, yna yr wyt yn y gwrthwyneb.
35Gan hynny, O butain, clyw air yr Arglwydd: 36Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am dywallt dy frynti, a datguddio dy noethni trwy dy buteindra gyda’th gariadau, a chyda holl eilunod dy ffieidd-dra, a thrwy waed dy feibion y rhai a roddaist iddynt; 37Am hynny wele fi yn casglu dy holl gariadau gyda’r rhai yr ymddigrifaist, a’r rhai oll a geraist, gyda’r rhai oll a gaseaist; ie, casglaf hwynt i’th erbyn oddi amgylch, ac a ddinoethaf dy noethni iddynt, fel y gwelont dy holl noethni. 38Barnaf di hefyd â barnedigaethau puteiniaid, a’r rhai a dywalltant waed; a rhoddaf i ti waed mewn llidiowgrwydd ac eiddigedd. 39Ie, rhoddaf di yn eu dwylo hwynt, a hwy a ddinistriant dy uchelfa, ac a fwriant i lawr dy uchel leoedd: diosgant di hefyd o’th ddillad, a chymerant ddodrefn dy harddwch, ac a’th adawant yn llom ac yn noeth. 40Dygant hefyd dyrfa i’th erbyn, ac a’th labyddiant â meini, ac â’u cleddyfau y’th drywanant. 41Llosgant hefyd dy dai â thân, a gwnânt arnat farnedigaethau yng ngolwg gwragedd lawer: a mi a wnaf i ti beidio â phuteinio, a hefyd ni roddi wobr mwy. 42Felly y llonyddaf fy llid i’th erbyn, a symud fy eiddigedd oddi wrthyt; mi a lonyddaf hefyd, ac ni ddigiaf mwy. 43Am na chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, ond anogaist fi i lid yn hyn oll; am hynny wele, myfi a roddaf dy ffordd ar dy ben, medd yr Arglwydd Dduw: fel na wnelych yr ysgelerder hyn am ben dy holl ffieidd-dra.
44Wele, pob diarhebydd a ddiarheba amdanat, gan ddywedyd, Fel y fam y mae y ferch. 45Merch dy fam, yr hon a ffieiddiodd ei gŵr a’i meibion, ydwyt ti; a chwaer dy chwiorydd ydwyt, y rhai a ffieiddiasant eu gwŷr a’u meibion: eich mam oedd Hittees, a’ch tad yn Amoriad. 46A’th chwaer hynaf yw Samaria, hi a’i merched yn trigo ar dy law aswy a’th chwaer ieuangach na thi, yr hon sydd yn trigo ar dy law ddeau, yw Sodom a’i merched. 47Eto ni rodiaist yn eu ffyrdd hwynt, ac nid yn ôl eu ffieidd-dra hwynt y gwnaethost: megis petai hynny ychydig bach, ymlygraist yn fwy na hwy yn dy holl ffyrdd. 48Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni wnaeth Sodom dy chwaer, na hi na’i merched, fel y gwnaethost ti a’th ferched. 49Wele, hyn oedd anwiredd dy chwaer Sodom, Balchder, digonedd bara, ac amlder o seguryd oedd ynddi ac yn ei merched, ac ni chryfhaodd hi law yr anghenog a’r tlawd. 50A hwy a ymddyrchafasant, ac a wnaethant ffieidd-dra o’m blaen i: am hynny y symudais hwynt, fel y gwelais yn dda. 51Samaria hefyd ni phechodd fel hanner dy bechod di; ond tydi a amlheaist dy ffieidd-dra yn fwy na hwynt, ac a gyfiawnheaist dy chwiorydd yn dy holl ffieidd-dra a wnaethost. 52Tithau yr hon a fernaist ar dy chwiorydd, dwg dy waradwydd am dy bechodau y rhai a wnaethost yn ffieiddiach na hwynt: cyfiawnach ydynt na thi: cywilyddia dithau, a dwg dy waradwydd, gan gyfiawnhau ohonot dy chwiorydd. 53Pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt, caethiwed Sodom a’i merched, a chaethiwed Samaria a’i merched, yna y dychwelaf gaethiwed dy gaethion dithau a’th ferched yn eu canol hwynt: 54Fel y dygech dy warth, ac y’th waradwydder, am yr hyn oll a wnaethost, gan gysuro ohonot hwynt. 55Pan ddychwelo dy chwiorydd, Sodom a’i merched, i’w hen gyflwr, a phan ddychwelo Samaria a’i merched i’w hen gyflwr, yna tithau a’th ferched a ddychwelwch i’ch hen gyflwr. 56Canys nid oedd mo’r sôn am Sodom dy chwaer yn dy enau yn nydd dy falchder, 57Cyn datguddio dy ddrygioni, megis yn amser dy waradwydd gan ferched Syria, a’r holl rai o’i hamgylch, merched y Philistiaid, y rhai a’th ddiystyrant o bob parth. 58Dy ysgelerder, a’th ffieidd-dra hefyd, ti a’u dygaist hwynt, medd yr Arglwydd. 59Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Felly y gwnaf â thi fel y gwnaethost, yr hon a ddiystyraist lw, i ddiddymu’r cyfamod.
60Eto mi a gofiaf fy nghyfamod â thi yn nyddiau dy ieuenctid, ac a sicrhaf i ti gyfamod tragwyddol. 61Yna y cofi dy ffyrdd, ac y cywilyddi, pan dderbyniech dy chwiorydd hŷn na thi, gyda’r rhai ieuangach na thi: a rhoddaf hwynt yn ferched i ti, a hynny nid wrth dy amod di. 62A mi a sicrhaf fy nghyfamod â thi; a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd: 63Fel y cofiech di, ac y cywilyddiech, ac na byddo i ti mwy agoryd safn gan dy waradwydd, pan ddyhudder fi tuag atat, am yr hyn oll a wnaethost, medd yr Arglwydd Dduw.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.