No themes applied yet
1Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, saf ar dy draed, a mi a lefaraf wrthyt. 2A’r ysbryd a aeth ynof, pan lefarodd efe wrthyf, ac a’m gosododd ar fy nhraed, fel y clywais yr hwn a lefarodd wrthyf. 3Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, yr ydwyf fi yn dy ddanfon di at feibion Israel, at genedl wrthryfelgar, y rhai a wrthryfelasant i’m herbyn; hwynt-hwy a’u tadau a droseddasant i’m herbyn, hyd gorff y dydd hwn. 4Meibion wyneb-galed hefyd a chadarn galon yr wyf fi yn dy ddanfon atynt: dywed dithau wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw. 5A pha un bynnag a wnelont ai gwrando, ai peidio, (canys tŷ gwrthryfelgar ydynt,) eto cânt wybod fod proffwyd yn eu mysg hwynt.
6Tithau fab dyn, nac ofna rhagddynt, ac na arswyda er eu geiriau hwynt, er bod gwrthryfelwyr a drain gyda thi, a thithau yn trigo ymysg ysgorpionau: nac ofna rhag eu geiriau hwynt, ac na ddychryna gan eu hwynebau hwynt, er mai tŷ gwrthryfelgar ydynt. 7Eto llefara di fy ngeiriau wrthynt, pa un bynnag a wnelont ai gwrando ai peidio; canys gwrthryfelgar ydynt. 8Tithau fab dyn, gwrando yr hyn yr ydwyf fi yn ei lefaru wrthyt, Na fydd di wrthryfelgar fel y tŷ gwrthryfelgar hwn: lleda dy safn, a bwyta yr hyn yr ydwyf fi yn ei roddi i ti.
9Yna yr edrychais, ac wele law wedi ei hanfon ataf, ac wele ynddi blyg llyfr. 10Ac efe a’i dadblygodd o’m blaen i: ac yr oedd efe wedi ei ysgrifennu wyneb a chefn; ac yr oedd wedi ysgrifennu arno, galar, a griddfan, a gwae.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.