No themes applied yet
1Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 2Ha fab dyn, oherwydd dywedyd o Tyrus am Jerwsalem, Aha, torrwyd hi, pyrth y bobloedd: trodd ataf fi: fo’m llenwir; anrheithiedig yw hi: 3Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi i’th erbyn, O Tyrus, a chodaf genhedloedd lawer i’th erbyn, fel y cyfyd y môr ei donnau. 4A hwy a ddinistriant geyrydd Tyrus, a’i thyrau a ddinistriant: minnau a grafaf ei llwch ohoni, ac a’i gwnaf yn gopa craig. 5Yn daenfa rhwydau y bydd yng nghanol y môr: canys myfi a lefarodd hyn, medd yr Arglwydd Dduw: a hi a fydd yn ysbail i’r cenhedloedd. 6Ei merched hefyd y rhai sydd yn y maes a leddir â’r cleddyf; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
7Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn dwyn ar Tyrus, o’r gogledd, Nebuchodonosor brenin Babilon, brenin brenhinoedd, â meirch ac â cherbydau, ac â marchogion, a thorfoedd, a phobl lawer. 8Dy ferched a ladd efe yn y maes â’r cleddyf; ac a esyd wrthglawdd i’th erbyn, ac a fwrw glawdd i’th erbyn, ac a gyfyd darian i’th erbyn. 9Ac efe a esyd beiriannau rhyfel yn erbyn dy geyrydd, a’th dyrau a fwrw efe i lawr â’i fwyeill. 10Gan amlder ei feirch ef, eu llwch a’th doa: dy geyrydd a gynhyrfant gan sŵn y marchogion, a’r olwynion, a’r cerbydau, pan ddelo trwy dy byrth di, fel dyfod i ddinas adwyog. 11A charnau ei feirch y sathr efe dy heolydd oll: dy bobl a ladd efe â’r cleddyf, a’th sefyllfannau cedyrn a ddisgyn i’r llawr. 12A hwy a anrheithiant dy gyfoeth, ac a ysbeiliant dy farchnadaeth; ac a ddinistriant dy geyrydd, a’th dai dymunol a dynnant i lawr: a’th gerrig, a’th goed, a’th bridd, a osodant yng nghanol y dyfroedd. 13A gwnaf i sŵn dy ganiadau beidio; ac ni chlywir mwy lais dy delynau. 14A gwnaf di yn gopa craig: taenfa rhwydau fyddi: ni’th adeiledir mwy: canys myfi yr Arglwydd a’i lleferais, medd yr Arglwydd Dduw.
15Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth Tyrus: Oni chrŷn yr ynysoedd gan sŵn dy gwymp, pan waeddo yr archolledig, pan ladder lladdfa yn dy ganol? 16Yna holl dywysogion y môr a ddisgynnant o’u gorseddfeinciau, ac a fwriant ymaith eu mantelloedd, ac a ddiosgant eu gwisgoedd symudliw: dychryn a wisgant, ar y ddaear yr eisteddant, ac a ddychrynant ar bob moment, ac a synnant wrthyt. 17Codant hefyd alarnad amdanat, a dywedant wrthyt, Pa fodd y’th ddifethwyd, yr hon a breswylir gan forwyr, y ddinas ganmoladwy, yr hon oedd gref ar y môr, hi a’i thrigolion, y rhai a roddasant eu harswyd ar ei holl ymdeithwyr hi? 18Yr awr hon yr ynysoedd a ddychrynant yn nydd dy gwymp; ie, yr ynysoedd y rhai sydd yn y môr a drallodir wrth dy fynediad di ymaith. 19Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pan roddwyf di yn ddinas anrheithiedig, fel y dinasoedd nis cyfanheddir; gan ddwyn arnat y dyfnder, fel y’th guddio dyfroedd lawer; 20A’th ddisgyn ohonof gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll, at y bobl gynt, a’th osod yn iselderau y ddaear, yn yr hen anrhaith, gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll, fel na’th breswylier; a rhoddi ohonof ogoniant yn nhir y rhai byw; 21Gwnaf di yn ddychryn, ac ni byddi: er dy geisio, ni’th geir mwy, medd yr Arglwydd Dduw.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.