No themes applied yet
1A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 2Proffwyda, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Udwch, Och o’r diwrnod! 3Canys agos dydd, ie, agos dydd yr Arglwydd, dydd cymylog; amser y cenhedloedd fydd efe. 4A’r cleddyf a ddaw ar yr Aifft, a bydd gofid blin yn Ethiopia, pan syrthio yr archolledig yn yr Aifft, a chymryd ohonynt ei lliaws hi, a dinistrio ei seiliau. 5Ethiopia, a Libya, a Lydia, a’u gwerin oll, Chub hefyd, a meibion y tir sydd yn y cyfamod, a syrthiant gyda hwynt gan y cleddyf. 6Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y rhai sydd yn cynnal yr Aifft a syrthiant hefyd, a balchder ei nerth hi a ddisgyn: syrthiant ynddi gan y cleddyf o dŵr Syene, medd yr Arglwydd Dduw. 7A hwy a wneir yn anghyfannedd ymhlith y gwledydd anghyfanheddol, a’i dinasoedd fydd yng nghanol y dinasoedd anrheithiedig. 8A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan roddwyf dân yn yr Aifft, ac y torrer ei holl gynorthwywyr hi. 9Y dydd hwnnw cenhadau a ânt allan oddi wrthyf fi mewn llongau, i ddychrynu Ethiopia ddiofal, a bydd gofid blin arnynt fel yn nydd yr Aifft: canys wele ef yn dyfod. 10Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwnaf hefyd i liaws yr Aifft ddarfod trwy law Nebuchodonosor brenin Babilon. 11Efe a’i bobl gydag ef, y rhai trawsion o’r cenhedloedd, a ddygir i ddifetha y tir: a hwy a dynnant eu cleddyfau ar yr Aifft, ac a lanwant y wlad â chelanedd. 12Gwnaf hefyd yr afonydd yn sychder, a gwerthaf y wlad i law y drygionus; ie, anrheithiaf y wlad a’i chyflawnder trwy law dieithriaid: myfi yr Arglwydd a’i dywedodd. 13Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Difethaf hefyd y delwau, a gwnaf i’r eilunod ddarfod o Noff; ac ni bydd tywysog mwyach o dir yr Aifft: ac ofn a roddaf yn nhir yr Aifft. 14Pathros hefyd a anrheithiaf, a rhoddaf dân yn Soan, a gwnaf farnedigaethau yn No. 15A thywalltaf fy llid ar Sin, cryfder yr Aifft; ac a dorraf ymaith liaws No. 16A mi a roddaf dân yn yr Aifft; gan ofidio y gofidia Sin, a No a rwygir, a bydd ar Noff gyfyngderau beunydd. 17Gwŷr ieuainc Afen a Phibeseth a syrthiant gan y cleddyf; ac i gaethiwed yr ânt hwy. 18Ac ar Tehaffnehes y tywylla y diwrnod, pan dorrwyf yno ieuau yr Aifft: a balchder ei chryfder a dderfydd ynddi: cwmwl a’i cuddia hi, a’i merched a ânt i gaethiwed. 19Felly y gwnaf farnedigaethau yn yr Aifft; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
20Ac yn y mis cyntaf o’r unfed flwyddyn ar ddeg, ar y seithfed dydd o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 21Ha fab dyn, torrais fraich Pharo brenin yr Aifft; ac wele, nis rhwymir i roddi meddyginiaethau wrtho, i osod rhwymyn i rwymo, i’w gryfhau i ddal y cleddyf. 22Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a mi a dorraf ei freichiau ef, y cryf, a’r hwn oedd ddrylliedig; ac a wnaf i’r cleddyf syrthio o’i law ef. 23A mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd. 24A mi a gadarnhaf freichiau brenin Babilon, ac a roddaf fy nghleddyf yn ei law ef: ond mi a dorraf freichiau Pharo, ac efe a ochain o’i flaen ef ag ocheneidiau un archolledig. 25Ond mi a gadarnhaf freichiau brenin Babilon, a breichiau Pharo a syrthiant; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd, wedi i mi roddi fy nghleddyf yn llaw brenin Babilon, ac iddo yntau ei estyn ef ar wlad yr Aifft. 26A mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.