No themes applied yet
1A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 2Proffwyda, fab dyn, yn erbyn bugeiliaid Israel; proffwyda, a dywed wrthynt, wrth y bugeiliaid, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwae fugeiliaid Israel y rhai sydd yn eu porthi eu hunain: oni phortha y bugeiliaid y praidd? 3Y braster a fwytewch, a’r gwlân a wisgwch, y bras a leddwch; ond ni phorthwch y praidd. 4Ni chryfhasoch y rhai llesg, ac ni feddyginiaethasoch y glaf, ni rwymasoch y ddrylliedig chwaith, a’r gyfeiliornus ni ddygasoch adref, a’r golledig ni cheisiasoch; eithr llywodraethasoch hwynt â thrais ac â chreulondeb. 5A hwy a wasgarwyd o eisiau bugail: a buant yn ymborth i holl fwystfilod y maes, pan wasgarwyd hwynt. 6Fy nefaid a grwydrasant ar hyd yr holl fynyddoedd, ac ar bob bryn uchel: ie, gwasgarwyd fy mhraidd ar hyd holl wyneb y ddaear, ac nid oedd a’u ceisiai, nac a ymofynnai amdanynt.
7Am hynny, fugeiliaid, gwrandewch air yr Arglwydd. 8Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, am fod fy mhraidd yn ysbail, a bod fy mhraidd yn ymborth i holl fwystfilod y maes, o eisiau bugail, ac na cheisiodd fy mugeiliaid fy mhraidd, eithr y bugeiliaid a’u porthasant eu hun, ac ni phorthasant fy mhraidd: 9Am hynny, O fugeiliaid, gwrandewch air yr Arglwydd. 10Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn erbyn y bugeiliaid: a gofynnaf fy mhraidd ar eu dwylo hwynt, a gwnaf iddynt beidio â phorthi y praidd; a’r bugeiliaid ni phorthant eu hun mwy: canys gwaredaf fy mhraidd o’u safn hwy, fel na byddont yn ymborth iddynt.
11Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele myfi, ie, myfi a ymofynnaf am fy mhraidd, ac a’u ceisiaf hwynt. 12Fel y cais bugail ei ddiadell ar y dydd y byddo ymysg ei ddefaid gwasgaredig, felly y ceisiaf finnau fy nefaid, ac a’u gwaredaf hwynt o bob lle y gwasgarer hwynt iddo ar y dydd cymylog a thywyll. 13A dygaf hwynt allan o fysg y bobloedd, a chasglaf hwynt o’r tiroedd, a dygaf hwynt i’w tir eu hun, a phorthaf hwynt ar fynyddoedd Israel wrth yr afonydd, ac yn holl drigfannau y wlad. 14Mewn porfa dda y porthaf hwynt, ac ar uchel fynyddoedd Israel y bydd eu corlan hwynt: yno y gorweddant mewn corlan dda, ie, mewn porfa fras y porant ar fynyddoedd Israel. 15Myfi a borthaf fy mhraidd, a myfi a’u gorweddfâf hwynt, medd yr Arglwydd Dduw. 16Y golledig a geisiaf, a’r darfedig a ddychwelaf, a’r friwedig a rwymaf, a’r lesg a gryfhaf: eithr dinistriaf y fras a’r gref; â barn y porthaf hwynt. 17Chwithau, fy mhraidd, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele fi yn barnu rhwng milyn a milyn, rhwng yr hyrddod a’r bychod. 18Ai bychan gennych bori ohonoch y borfa dda, oni bydd i chwi sathru dan eich traed y rhan arall o’ch porfeydd? ac yfed ohonoch y dyfroedd dyfnion, oni bydd i chwi sathru y rhan arall â’ch traed? 19A’m praidd i, y maent yn pori sathrfa eich traed chwi; a mathrfa eich traed a yfant.
20Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrthynt hwy; Wele myfi, ie, myfi a farnaf rhwng milyn bras a milyn cul. 21Oherwydd gwthio ohonoch ag ystlys ac ag ysgwydd, a chornio ohonoch â’ch cyrn y rhai llesg oll, hyd oni wasgarasoch hwynt allan: 22Am hynny y gwaredaf fy mhraidd, fel na byddont mwy yn ysbail; a barnaf rhwng milyn a milyn. 23Cyfodaf hefyd un bugail arnynt, ac efe a’u portha hwynt, sef fy ngwas Dafydd; efe a’u portha hwynt, ac efe a fydd yn fugail iddynt. 24A minnau yr Arglwydd a fyddaf yn Dduw iddynt, a’m gwas Dafydd yn dywysog yn eu mysg: myfi yr Arglwydd a leferais hyn. 25Gwnaf hefyd â hwynt gyfamod heddwch, a gwnaf i’r bwystfil drwg beidio o’r tir: a hwy a drigant yn ddiogel yn yr anialwch, ac a gysgant yn y coedydd. 26Hwynt hefyd ac amgylchoedd fy mryn a wnaf yn fendith: a gwnaf i’r glaw ddisgyn yn ei amser; cawodydd bendith a fydd. 27A rhydd pren y maes ei ffrwyth, a’r tir a rydd ei gynnyrch, a byddant yn eu tir eu hun mewn diogelwch, ac a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan dorrwyf rwymau eu hiau hwynt, a’u gwared hwynt o law y rhai oedd yn mynnu gwasanaeth ganddynt. 28Ac ni byddant mwyach yn ysbail i’r cenhedloedd, a bwystfil y tir nis bwyty hwynt; eithr trigant mewn diogelwch, ac ni bydd a’u dychryno. 29Cyfodaf iddynt hefyd blanhigyn enwog, ac ni byddant mwy wedi trengi o newyn yn y tir, ac ni ddygant mwy waradwydd y cenhedloedd. 30Fel hyn y cânt wybod mai myfi yr Arglwydd eu Duw sydd gyda hwynt, ac mai hwythau, tŷ Israel, yw fy mhobl i, medd yr Arglwydd Dduw. 31Chwithau, fy mhraidd, defaid fy mhorfa, dynion ydych chwi, myfi yw eich Duw chwi, medd yr Arglwydd Dduw.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.