No themes applied yet
1Tithau fab dyn, proffwyda wrth fynyddoedd Israel, a dywed, Gwrandewch, fynyddoedd Israel, air yr Arglwydd. 2Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Oherwydd dywedyd o’r gelyn hyn amdanoch chwi, Aha, aeth yr hen uchelfaon hefyd yn etifeddiaeth i ni: 3Am hynny proffwyda, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; oherwydd iddynt eich anrheithio, a’ch llyncu o amgylch, i fod ohonoch yn etifeddiaeth i weddill y cenhedloedd, a myned ohonoch yn watwargerdd tafodau, ac yn ogan pobloedd: 4Am hynny, mynyddoedd Israel, gwrandewch air yr Arglwydd Dduw; Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth yr afonydd ac wrth y dyffrynnoedd, wrth y diffeithwch anghyfanheddol, ac wrth y dinasoedd gwrthodedig, y rhai a aeth yn ysbail ac yn watwar i’r rhan arall o’r cenhedloedd o’u hamgylch: 5Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Diau yn angerdd fy eiddigedd y lleferais yn erbyn y rhan arall o’r cenhedloedd, ac yn erbyn holl Edom, y rhai a roddasant fy nhir i yn etifeddiaeth iddynt eu hun, â llawenydd eu holl galon, trwy feddwl dirmygus, i’w yrru allan yn ysbail. 6Am hynny proffwyda am dir Israel, a dywed wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth yr afonydd ac wrth y dyffrynnoedd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele, yn fy eiddigedd ac yn fy llid y lleferais, oherwydd dwyn ohonoch waradwydd y cenhedloedd. 7Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Myfi a dyngais, Diau y dwg y cenhedloedd sydd o’ch amgylch chwi eu gwaradwydd.
8A chwithau, mynyddoedd Israel, a fwriwch allan eich ceinciau, ac a ddygwch eich ffrwyth i’m pobl Israel; canys agos ydynt ar ddyfod. 9Canys wele fi atoch, ie, troaf atoch, fel y’ch coledder ac y’ch heuer. 10Amlhaf ddynion ynoch chwi hefyd, holl dŷ Israel i gyd, fel y cyfanhedder y dinasoedd, ac yr adeilader y diffeithwch. 11Ie, amlhaf ynoch ddyn ac anifail; a hwy a chwanegant ac a ffrwythant; a gwnaf i chwi breswylio fel yr oeddech gynt; ie, gwnaf i chwi well nag yn eich dechreuad, tel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd. 12Ie, gwnaf i ddynion rodio arnoch, sef fy mhobl Israel; a hwy a’th etifeddant di, a byddi yn etifeddiaeth iddynt, ac ni ychwanegi eu gwneuthur hwy yn amddifaid mwy. 13Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Oherwydd eu bod yn dywedyd wrthych, Yr wyt ti yn difa dynion, ac yn gwneuthur dy genhedloedd yn amddifaid: 14Am hynny ni fwytei ddynion mwy, ac ni wnei dy genhedloedd mwyach yn amddifaid, medd yr Arglwydd Dduw. 15Ac ni adawaf glywed gwaradwydd y cenhedloedd ynot ti mwy, ni ddygi chwaith warth y cenhedloedd mwyach, ac ni wnei mwy i’th genhedloedd syrthio, medd yr Arglwydd Dduw.
16Daeth hefyd air yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 17Ha fab dyn, pan oedd tŷ Israel yn trigo yn eu tir eu hun, hwy a’i halogasant ef â’u ffordd ac â’u gweithredoedd eu hun: eu ffordd ydoedd ger fy mron i fel aflendid gwraig fisglwyfus. 18Yna y tywelltais fy llid arnynt, am y gwaed a dywalltasent ar y tir, ac am eu delwau trwy y rhai yr halogasent ef; 19Ac a’u gwasgerais hwynt ymhlith y cenhedloedd, a hwy a chwalwyd ar hyd y gwledydd; yn ôl eu ffyrdd ac yn ôl eu gweithredoedd y bernais hwynt. 20A phan ddaethant at y cenhedloedd y rhai yr aethant atynt, hwy a halogasant fy enw sanctaidd, pan ddywedid wrthynt, Dyma bobl yr Arglwydd, ac o’i wlad ef yr aethant allan.
21Er hynny arbedais hwynt er mwyn fy enw sanctaidd, yr hwn a halogodd tŷ Israel ymysg y cenhedloedd y rhai yr aethant atynt. 22Am hynny dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Nid er eich mwyn chwi, tŷ Israel, yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn, ond er mwyn fy enw sanctaidd, yr hwn a halogasoch chwi ymysg y cenhedloedd lle yr aethoch. 23A mi a sancteiddiaf fy enw mawr, yr hwn a halogwyd ymysg y cenhedloedd, yr hwn a halogasoch chwi yn eu mysg hwynt; fel y gwypo y cenhedloedd mai myfi yw yr Arglwydd, medd yr Arglwydd Dduw, pan ymsancteiddiwyf ynoch o flaen eich llygaid. 24Canys mi a’ch cymeraf chwi o fysg y cenhedloedd, ac a’ch casglaf chwi o’r holl wledydd, ac a’ch dygaf i’ch tir eich hun.
25Ac a daenellaf arnoch ddwfr glân, fel y byddoch lân: oddi wrth eich holl frynti, ac oddi wrth eich holl eilunod, y glanhaf chwi. 26A rhoddaf i chwi galon newydd, ysbryd newydd hefyd a roddaf o’ch mewn chwi; a thynnaf y galon garreg o’ch cnawd chwi, ac mi a roddaf i chwi galon gig. 27Rhoddaf hefyd fy ysbryd o’ch mewn, a gwnaf i chwi rodio yn fy neddfau, a chadw fy marnedigaethau, a’u gwneuthur. 28Cewch drigo hefyd yn y tir a roddais i’ch tadau; a byddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf Dduw i chwithau. 29Achubaf chwi hefyd oddi wrth eich holl aflendid: a galwaf am yr ŷd, ac a’i hamlhaf; ac ni roddaf arnoch newyn. 30Amlhaf hefyd ffrwyth y coed, a chynnyrch y maes, fel na ddygoch mwy waradwydd newyn ymysg y cenhedloedd. 31Yna y cofiwch eich ffyrdd drygionus, a’ch gweithredoedd nid oeddynt dda, a byddwch yn ffiaidd gennych eich hunain am eich anwireddau ac am eich ffieidd-dra. 32Nid er eich mwyn chwi yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn, medd yr Arglwydd Dduw; bydded hysbys i chwi: tŷ Israel, gwridwch a chywilyddiwch am eich ffyrdd eich hun. 33Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yn y dydd y glanhawyf chwi o’ch holl anwireddau, y paraf hefyd i chwi gyfanheddu y dinasoedd, ac yr adeiledir yr anghyfaneddleoedd. 34A’r tir anrheithiedig a goleddir, lle y bu yn anrhaith yng ngolwg pob cyniweirydd. 35A hwy a ddywedant, Y tir anrheithiedig hwn a aeth fel gardd Eden, a’r dinasoedd anghyfannedd, ac anrheithiedig, a dinistriol, a aethant yn gaerog, ac a gyfanheddir. 36Felly y cenhedloedd y rhai a weddillir o’ch amgylch, a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn adeiladu y lleoedd dinistriol, ac yn plannu eich mannau anrheithiedig: myfi yr Arglwydd a’i lleferais, ac a’i gwnaf. 37Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ymofynnir â myfi eto gan dŷ Israel, i wneuthur hyn iddynt; amlhaf hwynt â dynion fel praidd. 38Fel y praidd sanctaidd, fel praidd Jerwsalem yn ei huchel wyliau, felly y dinasoedd anghyfannedd fyddant lawn o finteioedd o ddynion; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.