No themes applied yet
1A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 2Mab dyn, gosod dy wyneb tua mynyddoedd Israel, a phroffwyda yn eu herbyn; 3A dywed, Mynyddoedd Israel, gwrandewch air yr Arglwydd Dduw: Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth y nentydd ac wrth y dyffrynnoedd; Wele fi, ie, myfi yn dwyn cleddyf arnoch, a mi a ddinistriaf eich uchel leoedd. 4Eich allorau hefyd a ddifwynir, a’ch haul-ddelwau a ddryllir: a chwympaf eich archolledigion o flaen eich eilunod. 5A rhoddaf gelanedd meibion Israel gerbron eu heilunod, a thaenaf eich esgyrn o amgylch eich allorau. 6Yn eich holl drigfeydd y dinasoedd a anrheithir, a’r uchelfeydd a ddifwynir; fel yr anrheithier ac y difwyner eich allorau, ac y torrer ac y peidio eich eilunod, ac y torrer ymaith eich haul-ddelwau, ac y dileer eich gweithredoedd. 7Yr archolledig hefyd a syrth yn eich canol; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd.
8Eto gadawaf weddill, fel y byddo i chwi rai wedi dianc gan y cleddyf ymysg y cenhedloedd, pan wasgarer chwi trwy y gwledydd. 9A’ch rhai dihangol a’m cofiant i ymysg y cenhedloedd y rhai y caethgludir hwynt atynt, am fy nryllio â’u calon buteinllyd, yr hon a giliodd oddi wrthyf; ac â’u llygaid, y rhai a buteiniasant ar ôl eu heilunod: yna yr ymffieiddiant ynddynt eu hun am y drygioni a wnaethant yn eu holl ffieidd-dra. 10A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, ac na leferais yn ofer am wneuthur iddynt y drwg hwn.
11Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Taro â’th law, a chur â’th droed, a dywed, O, rhag holl ffieidd-dra drygioni tŷ Israel! canys trwy gleddyf, trwy newyn, a thrwy haint, y syrthiant. 12Y pellennig a fydd farw o’r haint, a’r cyfagos a syrth gan y cleddyf; y gweddilledig hefyd a’r gwarchaeëdig a fydd farw o newyn: fel hyn y gorffennaf fy llidiowgrwydd arnynt. 13A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan fyddo eu harcholledigion hwynt ymysg eu heilunod o amgylch eu hallorau, ar bob bryn uchel, ar holl bennau y mynyddoedd, a than bob pren ir, a than bob derwen gaeadfrig, lle y rhoddasant arogl peraidd i’w holl eilunod. 14Felly yr estynnaf fy llaw arnynt, a gwnaf y tir yn anrhaith; ie, yn fwy anrheithiol na’r anialwch tua Diblath, trwy eu holl drigfeydd: a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.