No themes applied yet
1A phan ddaeth y seithfed mis, a meibion Israel yn eu dinasoedd, y bobl a ymgasglasant i Jerwsalem megis un gŵr. 2Yna y cyfododd Jesua mab Josadac, a’i frodyr yr offeiriaid, a Sorobabel mab Salathiel, a’i frodyr, ac a adeiladasant allor Duw Israel, i offrymu arni offrymau poeth, fel yr ysgrifenasid yng nghyfraith Moses gŵr Duw. 3A hwy a osodasant yr allor ar ei hystolion, (canys yr oedd arnynt ofn pobl y wlad,) ac a offrymasant arni boethoffrymau i’r Arglwydd, poethoffrymau bore a hwyr. 4Cadwasant hefyd ŵyl y pebyll, fel y mae yn ysgrifenedig, ac a offrymasant boethaberth beunydd dan rifedi, yn ôl y ddefod, dogn dydd yn ei ddydd; 5Ac wedi hynny y poethoffrwm gwastadol, ac offrwm y newyddloerau, a holl sanctaidd osodedig wyliau yr Arglwydd, offrwm ewyllysgar pob un a offrymai ohono ei hun, a offrymasant i’r Arglwydd. 6O’r dydd cyntaf i’r seithfed mis y dechreuasant offrymu poethoffrymau i’r Arglwydd. Ond teml yr Arglwydd ni sylfaenasid eto. 7Rhoddasant hefyd arian i’r seiri maen, ac i’r seiri pren; a bwyd, a diod, ac olew, i’r Sidoniaid, ac i’r Tyriaid, am ddwyn coed cedr o Libanus hyd y môr i Jopa: yn ôl caniatâd Cyrus brenin Persia iddynt hwy.
8Ac yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy i dŷ Dduw i Jerwsalem, yn yr ail fis, y dechreuodd Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab Josadac, a’r rhan arall o’u brodyr hwynt yr offeiriaid a’r Lefiaid, a’r rhai oll a ddaethai o’r caethiwed i Jerwsalem; ac a osodasant y Lefiaid, o fab ugeinmlwydd ac uchod, yn olygwyr ar waith tŷ yr Arglwydd. 9Yna y safodd Jesua, a’i feibion a’i frodyr, Cadmiel a’i feibion, meibion Jwda yn gytûn, i oruchwylio ar weithwyr y gwaith yn nhŷ Dduw: meibion Henadad, â’u meibion hwythau a’u brodyr y Lefiaid. 10A phan oedd y seiri yn sylfaenu teml yr Arglwydd, hwy a osodasant yr offeiriaid yn eu gwisgoedd ag utgyrn, a’r Lefiaid meibion Asaff â symbalau, i foliannu yr Arglwydd, yn ôl ordinhad Dafydd brenin Israel. 11A hwy a gydganasant, wrth foliannu ac wrth glodfori yr Arglwydd, mai da oedd, mai yn dragywydd yr ydoedd ei drugaredd ef ar Israel. A’r holl bobl a floeddiasant â bloedd fawr, gan foliannu yr Arglwydd, am sylfaenu tŷ yr Arglwydd. 12Ond llawer o’r offeiriaid a’r Lefiaid, a’r pennau-cenedl, y rhai oedd hen, ac a welsent y tŷ cyntaf, wrth sylfaenu y tŷ hwn yn eu golwg, a wylasant â llef uchel; a llawer oedd yn dyrchafu llef mewn bloedd gorfoledd: 13Fel nad oedd y bobl yn adnabod sain bloedd y llawenydd oddi wrth sain wylofain y bobl: canys y bobl oedd yn bloeddio â bloedd fawr, a’r sŵn a glywid ymhell.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.