No themes applied yet
1Y brodyr, os goddiweddir dyn ar ryw fai, chwychwi y rhai ysbrydol, adgyweiriwch y cyfryw un mewn ysbryd addfwynder; gan dy ystyried dy hun, rhag dy demtio dithau. 2Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist. 3Oblegid os tybia neb ei fod yn rhyw beth, ac yntau heb fod yn ddim, y mae efe yn ei dwyllo ei hun. 4Eithr profed pob un ei waith ei hun: ac yna y caiff orfoledd ynddo ei hun yn unig, ac nid mewn arall. 5Canys pob un a ddwg ei faich ei hun. 6A chyfranned yr hwn a ddysgwyd yn y gair â’r hwn sydd yn ei ddysgu, ym mhob peth da. 7Na thwyller chwi; ni watwarir Duw: canys beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed efe. 8Oblegid yr hwn sydd yn hau i’w gnawd ei hun, o’r cnawd a fed lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i’r Ysbryd, o’r Ysbryd a fed fywyd tragwyddol. 9Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn. 10Am hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i’r rhai sydd o deulu’r ffydd. 11Gwelwch cyhyd y llythyr a ysgrifennais atoch â’m llaw fy hun. 12Cynifer ag sydd yn ewyllysio ymdecáu yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich cymell i’ch enwaedu; yn unig fel nad erlidier hwy oblegid croes Crist. 13Canys nid yw’r rhai a enwaedir, eu hunain yn cadw’r ddeddf; ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, fel y gorfoleddont yn eich cnawd chwi. 14Eithr na ato Duw i mi ymffrostio ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y croeshoeliwyd y byd i mi, a minnau i’r byd. 15Canys yng Nghrist Iesu ni ddichon enwaediad ddim, na dienwaediad, ond creadur newydd. 16A chynifer ag a rodiant yn ôl y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw. 17O hyn allan na flined neb fi: canys dwyn yr wyf fi yn fy nghorff nodau’r Arglwydd Iesu. 18Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda’ch ysbryd chwi, frodyr. Amen.
At y Galatiaid yr ysgrifennwyd o Rufain.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.