No themes applied yet
1Pan welodd Rahel na phlantasai hithau i Jacob, yna Rahel a genfigennodd wrth ei chwaer, ac a ddywedodd wrth Jacob, Moes feibion i mi; ac onid e mi a fyddaf farw. 2A chyneuodd llid Jacob wrth Rahel; ac efe a ddywedodd, Ai myfi sydd yn lle Duw, yr hwn a ataliodd ffrwyth y groth oddi wrthyt ti? 3A dywedodd hithau, Wele fy llawforwyn Bilha, dos i mewn ati hi; a hi a blanta ar fy ngliniau i, fel y caffer plant i minnau hefyd ohoni hi. 4A hi a roddes ei llawforwyn Bilha iddo ef yn wraig, a Jacob a aeth i mewn ati. 5A Bilha a feichiogodd, ac a ymddûg fab i Jacob. 6A Rahel a ddywedodd, Duw a’m barnodd i, ac a wrandawodd hefyd ar fy llais, ac a roddodd i mi fab: am hynny hi a alwodd ei enw ef Dan. 7Hefyd Bilha, llawforwyn Rahel, a feichiogodd eilwaith, ac a ymddûg yr ail fab i Jacob. 8A Rahel a ddywedodd, Ymdrechais ymdrechiadau gorchestol â’m chwaer, a gorchfygais: a hi a alwodd ei enw ef Nafftali. 9Pan welodd Lea beidio ohoni â phlanta, hi a gymerth ei llawforwyn Silpa, ac a’i rhoddes hi yn wraig i Jacob. 10A Silpa, llawforwyn Lea, a ymddûg fab i Jacob. 11A Lea a ddywedodd, Y mae tyrfa yn dyfod: a hi a alwodd ei enw ef Gad. 12A Silpa, llawforwyn Lea, a ymddûg yr ail fab i Jacob. 13A Lea a ddywedodd, Yr ydwyf yn ddedwydd; oblegid merched a’m galwant yn ddedwydd: a hi a alwodd ei enw ef Aser.
14Reuben hefyd a aeth yn nyddiau cynhaeaf gwenith, ac a gafodd fandragorau yn y maes, ac a’u dug hwynt at Lea ei fam: yna Rahel a ddywedodd wrth Lea, Dyro, atolwg, i mi o fandragorau dy fab. 15Hithau a ddywedodd wrthi, Ai bychan yw dwyn ohonot fy ngŵr? a fynnit ti hefyd ddwyn mandragorau fy mab? A Rahel a ddywedodd, Cysged gan hynny gyda thi heno am fandragorau dy fab. 16A Jacob a ddaeth o’r maes yn yr hwyr; a Lea a aeth allan i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Ataf fi y deui: oblegid gan brynu y’th brynais am fandragorau fy mab. Ac efe a gysgodd gyda hi y nos honno. 17A Duw a wrandawodd ar Lea a hi a feichiogodd, ac a ymddûg y pumed mab i Jacob. 18A Lea a ddywedodd, Rhoddodd Duw fy ngwobr i mi, oherwydd rhoddi ohonof fi fy llawforwyn i’m gŵr: a hi a alwodd ei enw ef Issachar. 19Lea hefyd a feichiogodd eto, ac a ymddûg y chweched mab i Jacob. 20A Lea a ddywedodd, Cynysgaeddodd Duw fyfi â chynhysgaeth dda; fy ngŵr a drig weithian gyda mi, oblegid chwech o feibion a ymddygais iddo ef: a hi a alwodd ei enw ef Sabulon. 21Ac wedi hynny hi a esgorodd ar ferch, ac a alwodd ei henw hi Dina.
22A Duw a gofiodd Rahel, a Duw a wrandawodd arni, ac a agorodd ei chroth hi. 23A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Duw a dynnodd fy ngwarthrudd ymaith. 24A hi a alwodd ei enw ef Joseff, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a ddyry yn ychwaneg i mi fab arall.
25A bu, wedi esgor o Rahel ar Joseff, ddywedyd o Jacob wrth Laban, Gollwng fi ymaith, fel yr elwyf i’m bro, ac i’m gwlad fy hun. 26Dyro fy ngwragedd i mi, a’m plant, y rhai y gwasanaethais amdanynt gyda thi, fel yr elwyf ymaith: oblegid ti a wyddost fy ngwasanaeth a wneuthum i ti. 27A Laban a ddywedodd wrtho, Os cefais ffafr yn dy olwg, na syfl: da y gwn i’r Arglwydd fy mendithio i o’th blegid di. 28Hefyd efe a ddywedodd, Dogna dy gyflog arnaf, a mi a’i rhoddaf. 29Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a wyddost pa ddelw y gwasanaethais dydi; a pha fodd y bu dy anifeiliaid di gyda myfi. 30Oblegid ychydig oedd yr hyn ydoedd gennyt ti cyn fy nyfod i, ond yn lluosowgrwydd y cynyddodd; oherwydd yr Arglwydd a’th fendithiodd di er pan ddeuthum i: bellach gan hynny pa bryd y darparaf hefyd i’m tŷ fy hun? 31Dywedodd yntau, Pa beth a roddaf i ti? A Jacob a atebodd, Ni roddi i mi ddim; os gwnei i mi y peth hyn, bugeiliaf a chadwaf dy braidd di drachefn. 32Tramwyaf trwy dy holl braidd di heddiw, gan neilltuo oddi yno bob llwdn mân-frith a mawr-frith, a phob llwdn cochddu ymhlith y defaid; y mawr-frith hefyd a’r mân-frith ymhlith y geifr: ac o’r rhai hynny y bydd fy nghyflog. 33A’m cyfiawnder a dystiolaetha gyda mi o hyn allan, pan ddêl hynny yn gyflog i mi o flaen dy wyneb di: yr hyn oll ni byddo fân-frith neu fawr-frith ymhlith y geifr, neu gochddu ymhlith y defaid, lladrad a fydd hwnnw gyda myfi. 34A dywedodd Laban, Wele, O na byddai yn ôl dy air di! 35Ac yn y dydd hwnnw y neilltuodd efe y bychod cylch-frithion a mawr-frithion, a’r holl eifr mân-frithion a mawr-frithion, yr hyn oll yr oedd peth gwyn arno, a phob cochddu ymhlith y defaid, ac a’u rhoddes dan law ei feibion ei hun. 36Ac a osododd daith tri diwrnod rhyngddo ei hun a Jacob: a Jacob a borthodd y rhan arall o braidd Laban.
37A Jacob a gymerth iddo wiail gleision o boplys, a chyll, a ffawydd; ac a ddirisglodd ynddynt ddirisgliadau gwynion, gan ddatguddio’r gwyn yr hwn ydoedd yn y gwiail. 38Ac efe a osododd y gwiail y rhai a ddirisglasai efe, yn y cwterydd, o fewn y cafnau dyfroedd, lle y deuai’r praidd i yfed, ar gyfer y praidd: fel y cyfebrent pan ddelent hwy i yfed. 39A’r praidd a gyfebrasant wrth y gwiail; a’r praidd a ddug rai cylch-frithion, a mân-frithion, a mawr-frithion. 40A Jacob a ddidolodd yr ŵyn, ac a osododd wynebau y praidd tuag at y cylch-frithion, ac at bob cochddu ymhlith praidd Laban; ac a osododd ddiadellau iddo ei hun o’r neilltu, ac nid gyda phraidd Laban y gosododd hwynt. 41A phob amser y cyfebrai’r defaid cryfaf, Jacob a osodai’r gwiail o flaen y praidd yn y cwterydd, i gael ohonynt gyfebru wrth y gwiail; 42Ond pan fyddai’r praidd yn weiniaid, ni osodai efe ddim: felly y gwannaf oedd eiddo Laban, a’r cryfaf eiddo Jacob. 43A’r gŵr a gynyddodd yn dra rhagorol; ac yr ydoedd iddo ef braidd helaeth, a morynion, a gweision, a chamelod, ac asynnod.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.