No themes applied yet
1Yna Joseff ni allodd ymatal gerbron y rhai oll oedd yn sefyll gydag ef: ac efe a lefodd, Perwch allan bawb oddi wrthyf. Yna nid arhosodd neb gydag ef, pan ymgydnabu Joseff â’i frodyr. 2Ac efe a gododd ei lef mewn wylofain: a chlybu’r Eifftiaid, a chlybu tŷ Pharo. 3A Joseff a ddywedodd wrth ei frodyr, Myfi yw Joseff: ai byw fy nhad eto? A’i frodyr ni fedrent ateb iddo; oblegid brawychasent ger ei fron ef. 4Joseff hefyd a ddywedodd wrth ei frodyr, Dyneswch, atolwg, ataf fi. Hwythau a ddynesasant. Yntau a ddywedodd, Myfi yw Joseff eich brawd chwi, yr hwn a werthasoch i’r Aifft. 5Weithian gan hynny na thristewch, ac na ddigiwch wrthych eich hunain, am werthu ohonoch fyfi yma; oblegid i achub einioes yr hebryngodd Duw fyfi o’ch blaen chwi. 6Oblegid dyma ddwy flynedd o’r newyn o fewn y wlad; ac fe a fydd eto bum mlynedd, y rhai a fydd heb nac âr na medi. 7A Duw a’m hebryngodd i o’ch blaen chwi, i gadw i chwi hiliogaeth yn y wlad, ac i beri bywyd i chwi, trwy fawr ymwared. 8Ac yr awr hon nid chwi a’m hebryngodd i yma, ond Duw: ac efe a’m gwnaeth i yn dad i Pharo, ac yn arglwydd ar ei holl dŷ ef, ac yn llywydd ar holl wlad yr Aifft. 9Brysiwch, ac ewch i fyny at fy nhad, a dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed dy fab Joseff: Duw a’m gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aifft: tyred i waered ataf; nac oeda: 10A chei drigo yng ngwlad Gosen, a bod yn agos ataf fi, ti a’th feibion, a meibion dy feibion, a’th ddefaid, a’th wartheg, a’r hyn oll sydd gennyt: 11Ac yno y’th borthaf; (oblegid pum mlynedd o’r newyn a fydd eto;) rhag dy fyned mewn tlodi, ti, a’th deulu, a’r hyn oll sydd gennyt. 12Ac wele eich llygaid chwi, a llygaid fy mrawd Benjamin yn gweled, mai fy ngenau i sydd yn ymadrodd wrthych. 13Mynegwch hefyd i’m tad fy holl anrhydedd i yn yr Aifft, a’r hyn oll a welsoch; brysiwch hefyd, a dygwch fy nhad i waered yma. 14Ac efe a syrthiodd ar wddf ei frawd Benjamin, ac a wylodd; Benjamin hefyd a wylodd ar ei wddf yntau. 15Ac efe a gusanodd ei holl frodyr, ac a wylodd arnynt: ac ar ôl hynny ei frodyr a ymddiddanasant ag ef.
16A’r gair a ddaeth i dŷ Pharo, gan ddywedyd, Brodyr Joseff a ddaethant: a da oedd hyn yng ngolwg Pharo, ac yng ngolwg ei weision. 17A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Dywed wrth dy frodyr, Gwnewch hyn; Llwythwch eich ysgrubliaid, a cherddwch, ac ewch i wlad Canaan; 18A chymerwch eich tad, a’ch teuluoedd, a deuwch ataf fi: a rhoddaf i chwi ddaioni gwlad yr Aifft, a chewch fwyta braster y wlad. 19Gorchymyn yn awr a gefaist, gwnewch hyn: cymerwch i chwi o wlad yr Aifft gerbydau i’ch rhai bach, ac i’ch gwragedd; a chymerwch eich tad, a deuwch. 20Ac nac arbeded eich llygaid chwi ddim dodrefn; oblegid da holl wlad yr Aifft sydd eiddo chwi. 21A meibion Israel a wnaethant felly: a rhoddodd Joseff iddynt hwy gerbydau, yn ôl gorchymyn Pharo, a rhoddodd iddynt fwyd ar hyd y ffordd. 22I bob un ohonynt oll y rhoddes bâr o ddillad: ond i Benjamin y rhoddes dri chant o ddarnau arian, a phum pâr o ddillad. 23Hefyd i’w dad yr anfonodd fel hyn; deg o asynnod yn llwythog o dda yr Aifft, a deg o asennod yn dwyn ŷd, bara, a bwyd i’w dad ar hyd y ffordd. 24Yna y gollyngodd ymaith ei frodyr: a hwy a aethant ymaith: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Nac ymrysonwch ar y ffordd.
25Felly yr aethant i fyny o’r Aifft, ac a ddaethant i wlad Canaan, at eu tad Jacob; 26Ac a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Y mae Joseff eto yn fyw, ac y mae yn llywodraethu ar holl wlad yr Aifft. Yna y llesgaodd ei galon yntau; oblegid nid oedd yn eu credu. 27Traethasant hefyd iddo ef holl eiriau Joseff, y rhai a ddywedasai efe wrthynt hwy. A phan ganfu efe y cerbydau a anfonasai Joseff i’w ddwyn ef, yna y bywiogodd ysbryd Jacob eu tad hwynt. 28A dywedodd Israel, Digon ydyw; y mae Joseff fy mab eto yn fyw: af, fel y gwelwyf ef cyn fy marw.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.