No themes applied yet
1Yna y cychwynnodd Israel, a’r hyn oll oedd ganddo, ac a ddaeth i Beer-seba, ac a aberthodd ebyrth i Dduw ei dad Isaac. 2A llefarodd Duw wrth Israel mewn gweledigaethau nos, ac a ddywedodd, Jacob, Jacob. Yntau a ddywedodd, Wele fi. 3Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Duw, Duw dy dad: nac ofna fyned i waered i’r Aifft; canys gwnaf di yno yn genhedlaeth fawr. 4Myfi a af i waered gyda thi i’r Aifft; a myfi gan ddwyn a’th ddygaf di i fyny drachefn: Joseff hefyd a esyd ei law ar dy lygaid di. 5A chyfododd Jacob o Beer-seba: a meibion Israel a ddygasant Jacob eu tad, a’u rhai bach, a’u gwragedd, yn y cerbydau a anfonasai Pharo i’w ddwyn ef. 6Cymerasant hefyd eu hanifeiliaid, a’u golud a gasglasent yn nhir Canaan, ac a ddaethant i’r Aifft, Jacob, a’i holl had gydag ef: 7Ei feibion, a meibion ei feibion gydag ef, ei ferched, a merched ei feibion, a’i holl had, a ddug efe gydag ef i’r Aifft.
8A dyma enwau plant Israel, y rhai a ddaethant i’r Aifft, Jacob a’i feibion: Reuben, cynfab Jacob. 9A meibion Reuben; Hanoch, a Phalu, Hesron hefyd, a Charmi.
10A meibion Simeon; Jemwel, a Jamin, ac Ohad, a Jachin, a Sohar, a Saul mab Canaanëes.
11Meibion Lefi hefyd; Gerson, Cohath, a Merari.
12A meibion Jwda; Er, ac Onan, a Sela, Phares hefyd, a Sera: a buasai farw Er ac Onan yn nhir Canaan. A meibion Phares oedd Hesron a Hamul.
13Meibion Issachar hefyd; Tola, a Phufa, a Job, a Simron.
14A meibion Sabulon; Sered, ac Elon, a Jaleel. 15Dyma feibion Lea, y rhai a blantodd hi i Jacob ym Mesopotamia, a Dina ei ferch: ei feibion a’i ferched oeddynt oll dri dyn ar ddeg ar hugain.
16A meibion Gad; Siffion, a Haggi, Suni, ac Esbon, Eri, ac Arodi, ac Areli.
17A meibion Aser; Jimna, ac Isua, ac Isui, a Bereia, a Sera eu chwaer hwynt. A meibion Bereia; Heber a Malchiel. 18Dyma feibion Silpa, yr hon a roddodd Laban i Lea ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob, sef un dyn ar bymtheg.
19Meibion Rahel, gwraig Jacob, oedd Joseff a Benjamin. 20Ac i Joseff y ganwyd, yn nhir yr Aifft, Manasse ac Effraim, y rhai a blantodd Asnath, merch Potiffera offeiriad On, iddo ef.
21A meibion Benjamin; Bela, a Becher, ac Asbel, Gera, a Naaman, Ehi, a Ros, Muppim, a Huppim, ac Ard. 22Dyma feibion Rahel, y rhai a blantodd hi i Jacob; yn bedwar dyn ar ddeg oll.
23A meibion Dan oedd Husim.
24A meibion Nafftali; Jahseel, a Guni, a Jeser, a Silem. 25Dyma feibion Bilha, yr hon a roddodd Laban i Rahel ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob, yn saith dyn oll. 26Yr holl eneidiau y rhai a ddaethant gyda Jacob i’r Aifft, yn dyfod allan o’i lwynau ef, heblaw gwragedd meibion Jacob, oeddynt oll chwe enaid a thrigain. 27A meibion Joseff, y rhai a anwyd iddo ef yn yr Aifft, oedd ddau enaid: holl eneidiau tŷ Jacob, y rhai a ddaethant i’r Aifft, oeddynt ddeg a thrigain.
28Ac efe a anfonodd Jwda o’i flaen at Joseff, i gyfarwyddo ei wyneb ef i Gosen: yna y daethant i dir Gosen. 29A Joseff a baratôdd ei gerbyd, ac a aeth i fyny i gyfarfod Israel ei dad i Gosen; ac a ymddangosodd iddo: ac efe a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a wylodd ar ei wddf ef ennyd. 30A dywedodd Israel wrth Joseff, Byddwyf farw bellach, wedi i mi weled dy wyneb, gan dy fod di yn fyw eto. 31A dywedodd Joseff wrth ei frodyr, ac wrth deulu ei dad, Mi a af i fyny, ac a fynegaf i Pharo, ac a ddywedaf wrtho, Fy mrodyr, a theulu fy nhad, y rhai oedd yn nhir Canaan, a ddaethant ataf fi. 32A’r gwŷr, bugeiliaid defaid ydynt: canys perchen anifeiliaid ydynt; a dygasant yma eu praidd, a’u gwartheg, a’r hyn oll oedd ganddynt. 33A phan alwo Pharo amdanoch, a dywedyd, Beth yw eich gwaith? 34Dywedwch, Dy weision fuant drinwyr anifeiliaid o’u hieuenctid hyd yr awr hon, nyni a’n tadau hefyd; er mwyn cael ohonoch drigo yn nhir Gosen: canys ffieidd-dra yr Eifftiaid yw pob bugail defaid.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.