No themes applied yet
1Yna y daeth Joseff ac a fynegodd i Pharo, ac a ddywedodd, Fy nhad, a’m brodyr, a’u defaid, a’u gwartheg, a’r hyn oll oedd ganddynt, a ddaethant o dir Canaan; ac wele hwynt yn nhir Gosen. 2Ac efe a gymerth rai o’i frodyr, sef pum dyn, ac a’u gosododd hwynt o flaen Pharo. 3A dywedodd Pharo wrth ei frodyr ef, Beth yw eich gwaith chwi? Hwythau a ddywedasant wrth Pharo, Bugeiliaid defaid yw dy weision, nyni a’n tadau hefyd. 4Dywedasant hefyd wrth Pharo, I orymdaith yn y wlad y daethom, am nad oes borfa i’r defaid gan dy weision; canys trwm yw y newyn yng ngwlad Canaan: ac yr awr hon, atolwg, caed dy weision drigo yn nhir Gosen. 5A llefarodd Pharo wrth Joseff, gan ddywedyd, Dy dad a’th frodyr a ddaethant atat. 6Tir yr Aifft sydd o’th flaen; cyflea dy dad a’th frodyr yn y man gorau yn y wlad; trigant yn nhir Gosen: ac os gwyddost fod yn eu mysg wŷr grymus, gosod hwynt yn ben-bugeiliaid ar yr eiddof fi. 7A dug Joseff Jacob ei dad, ac a’i gosododd gerbron Pharo: a Jacob a fendithiodd Pharo. 8A dywedodd Pharo wrth Jacob, Pa faint yw dyddiau blynyddoedd dy einioes di? 9A Jacob a ddywedodd wrth Pharo, Dyddiau blynyddoedd fy ymdaith ydynt ddeg ar hugain a chan mlynedd: ychydig a drwg fu dyddiau blynyddoedd fy einioes, ac ni chyraeddasant ddyddiau blynyddoedd einioes fy nhadau yn nyddiau eu hymdaith hwynt. 10A bendithiodd Jacob Pharo, ac a aeth allan o ŵydd Pharo.
11A Joseff a gyfleodd ei dad a’i frodyr, ac a roddes iddynt feddiant yng ngwlad yr Aifft, yng nghwr gorau y wlad, yn nhir Rameses, fel y gorchmynasai Pharo. 12Joseff hefyd a gynhaliodd ei dad, a’i frodyr, a holl dylwyth ei dad, â bara, yn ôl eu teuluoedd.
13Ac nid oedd bara yn yr holl wlad: canys y newyn oedd drwm iawn; fel yr oedd gwlad yr Aifft, a gwlad Canaan, yn dyddfu gan y newyn. 14Joseff hefyd a gasglodd yr holl arian a gawsid yn nhir yr Aifft, ac yn nhir Canaan, am yr ymborth a brynasent hwy: a Joseff a ddug yr arian i dŷ Pharo. 15Pan ddarfu’r arian yn nhir yr Aifft, ac yng ngwlad Canaan, yr holl Eifftiaid a ddaethant at Joseff, gan ddywedyd, Moes i ni fara: canys paham y byddem ni feirw ger dy fron? oherwydd darfu’r arian. 16A dywedodd Joseff, Moeswch eich anifeiliaid; a rhoddaf i chwi am eich anifeiliaid, os darfu’r arian. 17A hwy a ddygasant eu hanifeiliaid at Joseff: a rhoddes Joseff iddynt fara am y meirch, ac am y diadelloedd defaid, ac am y gyrroedd gwartheg, ac am yr asynnod; ac a’u cynhaliodd hwynt â bara, am eu holl anifeiliaid, dros y flwyddyn honno. 18A phan ddarfu’r flwyddyn honno, y daethant ato ef yr ail flwyddyn, ac a ddywedasant wrtho, Ni chelwn oddi wrth fy arglwydd ddarfod yr arian, a myned ein hysgrubliaid a’n hanifeiliaid at fy arglwydd; ni adawyd i ni gerbron fy arglwydd onid ein cyrff a’n tir. 19Paham y byddwn feirw o flaen dy lygaid, nyni a’n tir? prŷn ni a’n tir am fara; a nyni a’n tir a fyddwn gaethion i Pharo: dod dithau i ni had, fel y byddom fyw, ac na fyddom feirw, ac na byddo’r tir yn anghyfannedd. 20A Joseff a brynodd holl dir yr Aifft i Pharo: canys yr Eifftiaid a werthasant bob un ei faes; oblegid y newyn a gryfhasai arnynt: felly yr aeth y tir i Pharo. 21Y bobl hefyd, efe a’u symudodd hwynt i ddinasoedd, o’r naill gwr i derfyn yr Aifft hyd ei chwr arall. 22Yn unig tir yr offeiriaid ni phrynodd efe: canys rhan oedd i’r offeiriaid wedi ei phennu iddynt gan Pharo, a’u rhan a roddasai Pharo iddynt a fwytasant hwy; am hynny ni werthasant hwy eu tir. 23Dywedodd Joseff hefyd wrth y bobl, Wele, prynais chwi heddiw, a’ch tir, i Pharo: wele i chwi had, heuwch chwithau y tir. 24A bydded i chwi roddi i Pharo y bumed ran o’r cnwd; a bydd y pedair rhan i chwi, yn had i’r maes, ac yn ymborth i chwi, ac i’r rhai sydd yn eich tai, ac yn fwyd i’ch rhai bach. 25A dywedasant, Cedwaist ni yn fyw: gad i ni gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd, a byddwn weision i Pharo. 26A Joseff a osododd hynny yn ddeddf hyd heddiw ar dir yr Aifft, gael o Pharo y bumed ran; ond o dir yr offeiriaid yn unig, yr hwn nid oedd eiddo Pharo.
27Trigodd Israel hefyd yng ngwlad yr Aifft o fewn tir Gosen, ac a gawsant feddiannau ynddi; cynyddasant hefyd, ac amlhasant yn ddirfawr. 28Jacob hefyd a fu fyw yn nhir yr Aifft ddwy flynedd ar bymtheg; felly yr oedd dyddiau Jacob, sef blynyddoedd ei einioes ef, yn saith mlynedd a deugain a chan mlynedd. 29A dyddiau Israel a nesasant i farw: ac efe a alwodd am ei fab Joseff, ac a ddywedodd wrtho, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg, gosod, atolwg, dy law dan fy morddwyd, a gwna â mi drugaredd a gwirionedd; na chladd fi, atolwg, yn yr Aifft: 30Eithr mi a orweddaf gyda’m tadau; yna dwg fi allan o’r Aifft, a chladd fi yn eu beddrod hwynt. Yntau a ddywedodd, Mi a wnaf yn ôl dy air. 31Ac efe a ddywedodd, Twng wrthyf. Ac efe a dyngodd wrtho. Yna Israel a ymgrymodd ar ben y gwely.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.