No themes applied yet
1Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy’r proffwydi, yn y dyddiau diwethaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab; 2Yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pob peth, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd: 3Yr hwn, ac efe yn ddisgleirdeb ei ogoniant ef, ac yn wir lun ei berson ef, ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth, wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch leoedd; 4Wedi ei wneuthur o hynny yn well na’r angylion, o gymaint ag yr etifeddodd efe enw mwy rhagorol na hwynt-hwy. 5Canys wrth bwy o’r angylion y dywedodd efe un amser, Fy mab ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais di? A thrachefn, Myfi a fyddaf iddo ef yn Dad, ac efe a fydd i mi yn Fab? 6A thrachefn, pan yw yn dwyn y Cyntaf-anedig i’r byd, y mae yn dywedyd, Ac addoled holl angylion Duw ef. 7Ac am yr angylion y mae yn dywedyd, Yr hwn sydd yn gwneuthur ei angylion yn ysbrydion, a’i weinidogion yn fflam dân. 8Ond wrth y Mab, Dy orseddfainc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy deyrnas di. 9Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist anwiredd: am hynny y’th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew gorfoledd tu hwnt i’th gyfeillion. 10Ac, Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear; a gwaith dy ddwylo di yw y nefoedd: 11Hwynt-hwy a ddarfyddant; ond tydi sydd yn parhau; a hwynt-hwy oll fel dilledyn a heneiddiant; 12Ac megis gwisg y plygi di hwynt, a hwy a newidir: ond tydi yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni phallant. 13Ond wrth ba un o’r angylion y dywedodd efe un amser, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed? 14Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth?
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.