No themes applied yet
1Israel, na orfoledda gan lawenydd, fel pobloedd eraill: canys puteiniaist oddi wrth dy Dduw, gwobrau a hoffaist ar bob llawr dyrnu ŷd. 2Y llawr dyrnu na’r gwinwryf nis portha hwynt, a’r gwin newydd a’i twylla hi. 3Ni thrigant yng ngwlad yr Arglwydd; ond Effraim a ddychwel i’r Aifft, ac yn Asyria y bwytânt beth aflan. 4Nid offrymant win i’r Arglwydd, a’u haberthau ni bydd melys ganddo; byddant iddynt fel bara galarwyr; pawb a fwytao ohono a halogir: oherwydd eu bara dros eu heneidiau ni ddaw i dŷ yr Arglwydd. 5Beth a wnewch ar ddydd yr uchel ŵyl, ac ar ddydd gŵyl yr Arglwydd? 6Canys wele, aethant ymaith gan ddinistr; yr Aifft a’u casgl hwynt, Memffis a’u cladd hwynt: danadl a oresgyn hyfryd leoedd eu harian hwynt; drain a dyf yn eu pebyll. 7Dyddiau i ymweled a ddaethant, dyddiau talu’r pwyth a ddaethant; Israel a gânt wybod hyn: y proffwyd sydd ffôl, ynfyd yw y gŵr ysbrydol, am amlder dy anwiredd, a’r cas mawr. 8Gwyliedydd Effraim a fu gyda’m Duw; aeth y proffwyd yn fagl adarwr yn ei holl lwybrau, ac yn gasineb yn nhŷ ei Dduw. 9Ymlygrasant yn ddwfn, megis yn amser Gibea: am hynny efe a goffa eu hanwiredd, efe a ymwêl â’u pechod. 10Cefais Israel fel grawnwin yn yr anialwch; gwelais eich tadau megis y ffrwyth cynharaf yn y ffigysbren yn ei dechreuad: ond hwy a aethant at Baal-peor, ymddidolasant at y gwarth hwnnw; a bu eu ffieidd-dra fel y carasant. 11Am Effraim, eu gogoniant hwy a eheda fel aderyn; o’r enedigaeth, o’r groth, ac o’r beichiogi. 12Er iddynt fagu eu plant, gwnaf hwynt yn amddifaid o ddynion: a gwae hwynt, pan ymadawyf oddi wrthynt! 13Effraim, fel y gwelais Tyrus, a blannwyd mewn hyfryd gyfannedd: eto Effraim a ddwg ei blant allan at y lleiddiad. 14Dyro iddynt, Arglwydd: beth a roddi? dyro iddynt groth yn erthylu, a bronnau hysbion. 15Eu holl ddrygioni sydd yn Gilgal: canys yno y caseais hwynt: am ddrygioni eu gweithredoedd y bwriaf hwynt allan o’m tŷ; ni chwanegaf eu caru hwynt: eu holl dywysogion sydd wrthryfelgar. 16Effraim a drawyd, eu gwraidd a wywodd, dwyn ffrwyth nis gwnânt: ac os cenhedlant, eto lladdaf annwyl blant eu crothau. 17Fy Nuw a’u gwrthyd hwynt, am na wrandawsant arno ef: am hynny y byddant grwydraid ymhlith y cenhedloedd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.