No themes applied yet
1Baich Moab. Oherwydd y nos y dinistriwyd Ar Moab, ac y distawyd hi; oherwydd y nos y dinistriwyd Cir Moab, ac y distawyd hi. 2Aeth i fyny i Baith, ac i Dibon, i’r uchelfeydd, i wylo: am Nebo, ac am Medeba, yr uda Moab; bydd moelni ar eu holl bennau, a phob barf wedi ei heillio. 3Yn eu heolydd yr ymwregysant â sachliain: ar bennau eu tai, ac yn eu heolydd, yr uda pob un, gan wylo yn hidl. 4Gwaedda Hesbon hefyd, ac Eleale: hyd Jahas y clywir eu llefain hwynt: am hynny arfogion Moab a floeddiant, pob un a flina ar ei einioes. 5Fy nghalon a waedda am Moab, ei ffoaduriaid hi a ânt hyd Soar, fel anner deirblwydd; mewn wylofain y dringant hyd allt Luhith: canys codant waedd dinistr ar hyd ffordd Horonaim. 6Oherwydd dyfroedd Nimrim a fyddant yn anrhaith: canys gwywodd y llysiau, darfu y gwellt; nid oes gwyrddlesni. 7Am hynny yr helaethrwydd a gawsant, a’r hyn a roesant i gadw, a ddygant i afon yr helyg. 8Canys y gweiddi a amgylchynodd derfyn Moab, eu hudfa hyd Eglaim, a’u hochain hyd Beer-elim. 9Canys dyfroedd Dimon a lenwir o waed; canys gosodaf ychwaneg ar Dimon, llewod ar yr hwn a ddihango ym Moab, ac ar weddill y wlad.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.