No themes applied yet
1Y gair yr hwn a welodd Eseia mab Amos, am Jwda a Jerwsalem. 2A bydd yn y dyddiau diwethaf, fod mynydd tŷ yr Arglwydd wedi ei baratoi ym mhen y mynyddoedd, ac yn ddyrchafedig goruwch y bryniau; a’r holl genhedloedd a ddylifant ato. 3A phobloedd lawer a ânt ac a ddywedant, Deuwch, ac esgynnwn i fynydd yr Arglwydd, i dŷ Duw Jacob; ac efe a’n dysg ni yn ei ffyrdd, a ni a rodiwn yn ei lwybrau ef; canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr Arglwydd o Jerwsalem. 4Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd, ac a gerydda bobloedd lawer: a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau, a’u gwaywffyn yn bladuriau: ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach. 5Tŷ Jacob, deuwch, a rhodiwn yng ngoleuni yr Arglwydd.
6Am hynny y gwrthodaist dy bobl, tŷ Jacob, am eu bod wedi eu llenwi allan o’r dwyrain, a’u bod yn swynwyr megis y Philistiaid, ac mewn plant dieithriaid yr ymfodlonant. 7A’u tir sydd gyflawn o arian ac aur, ac nid oes diben ar eu trysorau; a’u tir sydd lawn o feirch, ac nid oes diben ar eu cerbydau. 8Eu tir hefyd sydd lawn o eilunod; i waith eu dwylo eu hun yr ymgrymant, i’r hyn a wnaeth eu bysedd eu hun: 9A’r gwrêng sydd yn ymgrymu, a’r bonheddig yn ymostwng: am hynny na faddau iddynt.
10Dos i’r graig, ac ymgudd yn y llwch, rhag ofn yr Arglwydd, a rhag gogoniant ei fawredd ef. 11Uchel drem dyn a iselir, ac uchder dynion a ostyngir; a’r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw. 12Canys dydd Arglwydd y lluoedd fydd ar bob balch ac uchel, ac ar bob dyrchafedig; ac efe a ostyngir: 13Ac ar holl uchel a dyrchafedig gedrwydd Libanus, ac ar holl dderw Basan, 14Ac ar yr holl fynyddoedd uchel, ac ar yr holl fryniau dyrchafedig, 15Ac ar bob tŵr uchel, ac ar bob magwyr gadarn, 16Ac ar holl longau Tarsis, ac ar yr holl luniau dymunol. 17Yna yr iselir uchelder dyn, ac y gostyngir uchder dynion: a’r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw. 18A’r eilunod a fwrw efe ymaith yn hollol. 19A hwy a ânt i dyllau y creigiau, ac i ogofau llychlyd, rhag ofn yr Arglwydd, a rhag gogoniant ei fawredd ef, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear. 20Yn y dydd hwnnw y teifl dyn ei eilunod arian, a’i eilunod aur, y rhai a wnaethant iddynt i’w haddoli, i’r wadd ac i’r ystlumod: 21I fyned i agennau y creigiau, ac i gopâu y clogwyni, rhag ofn yr Arglwydd, a rhag gogoniant ei fawredd ef, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear. 22Peidiwch chwithau â’r dyn yr hwn sydd â’i anadl yn ei ffroenau: canys ym mha beth y gwneir cyfrif ohono?
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.