No themes applied yet
1Baich Tyrus. Llongau Tarsis, udwch: canys anrheithiwyd hi, fel nad oes na thŷ, na chyntedd: o dir Chittim y datguddiwyd iddynt. 2Distewch, drigolion yr ynys, yr hon y mae marchnadyddion Sidon, y rhai sydd yn tramwy y môr, yn dy lenwi. 3Ac wrth ddyfroedd lawer, had Sihor, cynhaeaf yr afon yw ei chnwd hi: felly marchnadfa cenhedloedd yw hi. 4Cywilyddia, Sidon; canys y môr, ie, cryfder y môr, a lefarodd, gan ddywedyd, Nid ymddygais, ac nid esgorais, ni fegais wŷr ieuainc chwaith, ac ni feithrinais forynion. 5Megis wrth glywed sôn am yr Eifftiaid, yr ymofidiant wrth glywed sôn am Tyrus. 6Ewch trosodd i Tarsis; udwch, breswylyr yr ynys. 7Ai hon yw eich dinas lawen chwi, yr hon y mae ei hynafiaeth er y dyddiau gynt? ei thraed a’i dygant hi i ymdaith i bell. 8Pwy a gynghorodd hyn yn erbyn Tyrus goronog, yr hon yr ydoedd ei marchnatawyr yn dywysogion, a’r marsiandwyr yn bendefigion y ddaear? 9Arglwydd y lluoedd a fwriadodd hyn, i ddifwyno balchder pob gogoniant, ac i ddirmygu holl bendefigion y ddaear. 10Dos trwy dy wlad fel afon, O ferch Tarsis: nid oes nerth mwyach. 11Estynnodd ei law ar y môr, dychrynodd y teyrnasoedd; gorchmynnodd yr Arglwydd am ddinas y farsiandïaeth, ddinistrio ei chadernid. 12Ac efe a ddywedodd, Ni chei orfoleddu mwyach, yr orthrymedig forwyn, merch Sidon; cyfod, dos i Chittim; yno chwaith ni bydd i ti lonyddwch. 13Wele dir y Caldeaid; nid oedd y bobl hyn, nes i Assur ei sylfaenu hi i drigolion yr anialwch: dyrchafasant ei thyrau, cyfodasant ei phalasau; ac efe a’i tynnodd hi i lawr. 14Llongau Tarsis, udwch; canys anrheithiwyd eich nerth. 15A’r dydd hwnnw yr anghofir Tyrus ddeng mlynedd a thrigain, megis dyddiau un brenin: ymhen y deng mlynedd a thrigain y cân Tyrus megis putain. 16Cymer y delyn, amgylchyna y ddinas, ti butain anghofiedig: cân gerdd yn dda: cân lawer fel y’th gofier.
17Ac ymhen y deng mlynedd a thrigain yr Arglwydd a ymwêl â Thyrus, a hi a ddychwel at ei helw, ac a buteinia â holl deyrnasoedd y byd ar wyneb y ddaear. 18Yna y bydd ei marchnad a’i helw yn sancteiddrwydd i’r Arglwydd: ni thrysorir ac nis cedwir: canys eiddo y rhai a drigant o flaen yr Arglwydd fydd ei marsiandïaeth, i fwyta yn ddigonol, ac yn ddillad parhaus.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.