No themes applied yet
1Cysurwch, cysurwch fy mhobl, medd eich Duw. 2Dywedwch wrth fodd calon Jerwsalem, llefwch wrthi hi, gyflawni ei milwriaeth, ddileu ei hanwiredd: oherwydd derbyniodd o law yr Arglwydd yn ddauddyblyg am ei holl bechodau.
3Llef un yn llefain yn yr anialwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch lwybr i’n Duw ni yn y diffeithwch. 4Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a bryn a ostyngir: y gŵyr a wneir yn union, a’r anwastad yn wastadedd. 5A gogoniant yr Arglwydd a ddatguddir, a phob cnawd ynghyd a’i gwêl; canys genau yr Arglwydd a lefarodd hyn. 6Y llef a ddywedodd, Gwaedda. Yntau a ddywedodd, Beth a waeddaf? Pob cnawd sydd wellt, a’i holl odidowgrwydd fel blodeuyn y maes. 7Gwywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn; canys ysbryd yr Arglwydd a chwythodd arno: gwellt yn ddiau yw y bobl. 8Gwywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn; ond gair ein Duw ni a saif byth.
9Dring rhagot, yr efengyles Seion, i fynydd uchel; dyrchafa dy lef trwy nerth, O efengyles Jerwsalem: dyrchafa, nac ofna; dywed wrth ddinasoedd Jwda, Wele eich Duw chwi. 10Wele, yr Arglwydd Dduw a ddaw yn erbyn y cadarn, a’i fraich a lywodraetha drosto: wele ei wobr gydag ef, a’i waith o’i flaen. 11Fel bugail y portha efe ei braidd; â’i fraich y casgl ei ŵyn, ac a’u dwg yn ei fynwes, ac a goledda y mamogiaid.
12Pwy a fesurodd y dyfroedd yn ei ddwrn, ac a fesurodd y nefoedd â’i rychwant, ac a gymhwysodd bridd y ddaear mewn mesur, ac a bwysodd y mynyddoedd mewn pwysau, a’r bryniau mewn cloriannau? 13Pwy a gyfarwyddodd Ysbryd yr Arglwydd, ac yn ŵr o’i gyngor a’i cyfarwyddodd ef? 14A phwy yr ymgynghorodd efe, ie, pwy a’i cyfarwyddodd, ac a’i dysgodd yn llwybr barn, ac a ddysgodd iddo wybodaeth, ac a ddangosodd iddo ffordd dealltwriaeth? 15Wele, y cenhedloedd a gyfrifwyd fel defnyn o gelwrn, ac fel mân lwch y cloriannau; wele, fel brycheuyn y cymer efe yr ynysoedd i fyny. 16Ac nid digon Libanus i gynnau tân; nid digon ei fwystfilod chwaith yn boethoffrwm. 17Yr holl genhedloedd ydynt megis diddim ger ei fron ef; yn llai na dim, ac na gwagedd, y cyfrifwyd hwynt ganddo.
18I bwy gan hynny y cyffelybwch Dduw? a pha ddelw a osodwch iddo? 19Y crefftwr a dawdd gerfddelw, a’r eurych a’i goreura, ac a dawdd gadwyni arian. 20Yr hwn sydd dlawd ei offrwm a ddewis bren ni phydra; efe a gais ato saer cywraint, i baratoi cerfddelw, yr hon ni syfl. 21Oni wybuoch? oni chlywsoch? oni fynegwyd i chwi o’r dechreuad? oni ddeallasoch er seiliad y ddaear? 22Efe sydd yn eistedd ar amgylchoedd y ddaear, a’i thrigolion sydd fel locustiaid; yr hwn a daena y nefoedd fel llen, ac a’i lleda fel pabell i drigo ynddi: 23Yr hwn a wna lywodraethwyr yn ddiddim; fel gwagedd y gwna efe farnwyr y ddaear. 24Ie, ni phlennir hwynt, nis heuir chwaith; ei foncyff hefyd ni wreiddia yn y ddaear: ac efe a chwyth arnynt, a hwy a wywant, a chorwynt a’u dwg hwynt ymaith fel sofl. 25I bwy gan hynny y’m cyffelybwch, ac y’m cystedlir? medd y Sanct. 26Dyrchefwch eich llygaid i fyny, ac edrychwch pwy a greodd y rhai hyn, a ddwg eu llu hwynt allan mewn rhifedi: efe a’u geilw hwynt oll wrth eu henwau; gan amlder ei rym ef, a’i gadarn allu, ni phalla un. 27Paham y dywedi, Jacob, ac y lleferi, Israel, Cuddiwyd fy ffordd oddi wrth yr Arglwydd, a’m barn a aeth heibio i’m Duw?
28Oni wyddost, oni chlywaist, na ddiffygia ac na flina Duw tragwyddoldeb, yr Arglwydd, Creawdwr cyrrau y ddaear? ni ellir chwilio allan ei synnwyr ef. 29Yr hwn a rydd nerth i’r diffygiol, ac a amlha gryfder i’r di-rym. 30Canys yr ieuenctid a ddiffygia ac a flina, a’r gwŷr ieuainc gan syrthio a syrthiant: 31Eithr y rhai a obeithiant yn yr Arglwydd a adnewyddant eu nerth; ehedant fel eryrod; rhedant, ac ni flinant; rhodiant, ac ni ddiffygiant.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.