No themes applied yet
1Distewch, ynysoedd, ger fy mron; adnewydded y cenhedloedd eu nerth: deuant yn nes, yna llefarant; cyd-nesawn i farn. 2Pwy a gyfododd y cyfiawn o’r dwyrain, a’i galwodd at ei droed, a roddodd y cenhedloedd o’i flaen ef, ac a wnaeth iddo lywodraethu ar frenhinoedd? efe a’u rhoddodd hwynt fel llwch i’w gleddyf, ac fel sofl gwasgaredig i’w fwa ef. 3Y mae efe yn eu herlid hwynt, ac yn myned yn ddiogel; ar hyd llwybr ni cherddasai efe â’i draed. 4Pwy a weithredodd ac a wnaeth hyn, gan alw y cenedlaethau o’r dechreuad? Myfi yr Arglwydd y cyntaf, myfi hefyd fydd gyda’r diwethaf. 5Yr ynysoedd a welsant, ac a ofnasant; eithafoedd y ddaear a ddychrynasant, a nesasant, ac a ddaethant. 6Pob un a gynorthwyodd ei gymydog, ac a ddywedodd wrth ei frawd, Ymgryfha. 7Felly y saer a gysurodd yr eurych, a’r morthwyliwr yr hwn oedd yn taro ar yr eingion, gan ddywedyd, Y mae yn barod i’w asio; ac efe a’i sicrhaodd â hoelion, fel nad ysgogir. 8Eithr ti, Israel, fy ngwas ydwyt ti, Jacob yr hwn a etholais, had Abraham fy anwylyd. 9Ti, yr hwn a gymerais o eithafoedd y ddaear, ac y’th elwais oddi wrth ei phendefigion, ac y dywedais wrthyt, Fy ngwas wyt ti; dewisais di, ac ni’th wrthodais.
10Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: na lwfrha; canys myfi yw dy Dduw: cadarnhaf di, cynorthwyaf di hefyd, a chynhaliaf di â deheulaw fy nghyfiawnder. 11Wele, cywilyddir a gwaradwyddir y rhai oll a lidiasent wrthyt: dy wrthwynebwyr a fyddant megis diddim, ac a ddifethir. 12Ti a’u ceisi, ac nis cei hwynt, sef y dynion a ymgynenasant â thi: y gwŷr a ryfelant â thi fyddant megis diddim, a megis peth heb ddim. 13Canys myfi yr Arglwydd dy Dduw a ymaflaf yn dy ddeheulaw, a ddywed wrthyt, Nac ofna, myfi a’th gynorthwyaf. 14Nac ofna, di bryf Jacob, gwŷr Israel; myfi a’th gynorthwyaf, medd yr Arglwydd, a’th Waredydd, Sanct Israel. 15Wele, gosodaf di yn fen ddyrnu newydd ddanheddog; y mynyddoedd a ddyrni ac a feli, gosodi hefyd y bryniau fel mwlwg. 16Nithi hwynt, a’r gwynt a’u dwg ymaith, a’r corwynt a’u gwasgar hwynt: a thi a lawenychi yn yr Arglwydd, yn Sanct Israel y gorfoleddi. 17Pan geisio y trueiniaid a’r tlodion ddwfr, ac nis cânt, pan ballo eu tafod o syched, myfi yr Arglwydd a’u gwrandawaf hwynt, myfi Duw Israel nis gadawaf hwynt. 18Agoraf afonydd ar leoedd uchel, a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd: gwnaf y diffeithwch yn llyn dwfr, a’r crastir yn ffrydiau dyfroedd. 19Gosodaf yn yr anialwch y cedrwydd, sita, myrtwydd, ac olewydd; gosodaf yn y diffeithwch ffynidwydd, ffawydd, a’r pren bocs ynghyd; 20Fel y gwelont, ac y gwybyddont, ac yr ystyriont, ac y deallont ynghyd, mai llaw yr Arglwydd a wnaeth hyn, a Sanct Israel a’i creodd. 21Deuwch yn nes â’ch cwyn, medd yr Arglwydd; dygwch eich rhesymau cadarnaf, medd brenin Jacob. 22Dygant hwynt allan, a mynegant i ni y pethau a ddigwyddant: mynegwch y pethau gynt, beth ydynt, fel yr ystyriom, ac y gwypom eu diwedd hwynt; neu traethwch i ni y pethau a ddaw. 23Mynegwch y pethau a ddaw ar ôl hyn, fel y gwypom mai duwiau ydych chwi; gwnewch hefyd dda neu ddrwg, fel y synno arnom, ac y gwelom ynghyd. 24Wele, peth heb ddim ydych chwi, a’ch gwaith sydd ddiddim: ffiaidd yw y gŵr a’ch dewiso chwi. 25Cyfodais un o’r gogledd, ac efe a ddaw; o gyfodiad haul y geilw efe ar fy enw; ac efe a ddaw ar dywysogion fel ar glai, ac fel y sathr crochenydd bridd. 26Pwy a fynegodd o’r dechreuad, fel y gwybyddom? ac ymlaen llaw, fel y dywedom, Cyfiawn yw? nid oes a fynega, nid oes a draetha chwaith, ac nid oes a glyw eich ymadroddion. 27Y cyntaf a ddywed wrth Seion, Wele, wele hwynt; rhoddaf hefyd efengylwr i Jerwsalem. 28Canys edrychais, ac nid oedd neb, ie, yn eu plith, ac nid oedd gynghorwr, pan ofynnais iddynt, a fedrai ateb gair. 29Wele, hwynt oll ydynt wagedd, a’u gweithredoedd yn ddiddim: gwynt a gwagedd yw eu tawdd-ddelwau.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.