No themes applied yet
1Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth ei eneiniog, wrth Cyrus, yr hwn yr ymeflais i yn ei ddeheulaw, i ddarostwng cenhedloedd o’i flaen ef: a mi a ddatodaf lwynau brenhinoedd; i agoryd y dorau o’i flaen ef; a’r pyrth ni chaeir: 2Mi a af o’th flaen di, ac a unionaf y gwyrgeimion; y dorau pres a dorraf, a’r barrau heyrn a ddrylliaf: 3Ac a roddaf i ti drysorau cuddiedig, a chuddfeydd dirgel, fel y gwypech mai myfi yr Arglwydd, yr hwn a’th alwodd erbyn dy enw, yw Duw Israel. 4Er mwyn Jacob fy ngwas, ac Israel fy etholedig, y’th elwais erbyn dy enw: mi a’th gyfenwais, er na’m hadwaenit.
5Myfi ydwyf yr Arglwydd, ac nid arall, nid oes Duw ond myfi; gwregysais di, er na’m hadwaenit: 6Fel y gwypont o godiad haul, ac o’r gorllewin, nad neb ond myfi: myfi yw yr Arglwydd, ac nid arall: 7Yn llunio goleuni, ac yn creu tywyllwch; yn gwneuthur llwyddiant, ac yn creu drygfyd: myfi yr Arglwydd sydd yn gwneuthur hyn oll. 8Defnynnwch, nefoedd, oddi uchod, a thywallted yr wybrennau gyfiawnder; ymagored y ddaear, ffrwythed iachawdwriaeth a chyfiawnder, cyd-darddant: myfi yr Arglwydd a’u creais. 9Gwae a ymrysono â’i Luniwr. Ymrysoned priddell â phriddellau y ddaear. A ddywed y clai wrth ei luniwr, Beth a wnei? neu, Y mae dy waith heb ddwylo iddo? 10Gwae a ddywedo wrth ei dad, Beth a genhedli? neu wrth y wraig, Beth a esgoraist? 11Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Sanct Israel, a’i Luniwr, Gofynnwch i mi y pethau a ddaw am fy meibion, a gorchmynnwch fi am waith fy nwylo. 12Myfi a wneuthum y ddaear, ac a greais ddyn arni: myfi, ie, fy nwylo i a estynasant y nefoedd, ac a orchmynnais eu holl luoedd. 13Myfi a’i cyfodais ef mewn cyfiawnder, a’i holl ffyrdd a gyfarwyddaf; efe a adeilada fy ninas, efe a ollwng fy ngharcharorion, heb na gwerth na gobrwy, medd Arglwydd y lluoedd. 14Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Llafur yr Aifft, a marsiandïaeth Ethiopia, a’r Sabeaid hirion, a ddeuant atat ti, ac eiddot ti fyddant; ar dy ôl y deuant; mewn cadwyni y deuant trosodd, ac ymgrymant i ti; atat y gweddïant, gan ddywedyd, Yn ddiau ynot ti y mae Duw, ac nid oes arall, nac oes Duw. 15Ti yn ddiau wyt Dduw yn ymguddio, O Dduw Israel yr Achubwr! 16Cywilyddir a gwaradwyddir hwynt oll; seiri delwau a ânt ynghyd i waradwydd. 17Israel a achubir yn yr Arglwydd â iachawdwriaeth dragwyddol: ni’ch cywilyddir ac ni’ch gwaradwyddir byth bythoedd. 18Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Creawdydd y nefoedd, y Duw ei hun a luniodd y ddaear, ac a’i gwnaeth; efe a’i sicrhaodd hi, ni chreodd hi yn ofer, i’w phreswylio y lluniodd hi: Myfi yw yr Arglwydd, ac nid neb amgen. 19Ni leferais mewn dirgelwch, mewn man tywyll o’r ddaear; ni ddywedais wrth had Jacob, Ceisiwch fi yn ofer. Myfi yr Arglwydd wyf yn llefaru cyfiawnder, ac yn mynegi pethau uniawn.
20Ymgesglwch, a deuwch; cydnesewch, rai dihangol y cenhedloedd; nid oes gwybodaeth gan y rhai a ddyrchafant goed eu cerfddelw, ac a weddïant dduw ni all achub. 21Mynegwch, a nesewch hwynt; cydymgynghorant hefyd; pwy a draethodd hyn er cynt? pwy a’i mynegodd er y pryd hwnnw? onid myfi yr Arglwydd? ac nid oes Duw arall ond myfi; yn Dduw cyfiawn, ac yn achubydd; nid oes ond myfi. 22Trowch eich wynebau ataf fi, holl gyrrau y ddaear, fel y’ch achuber: canys myfi wyf Dduw, ac nid neb arall. 23I mi fy hun y tyngais, aeth y gair o’m genau mewn cyfiawnder, ac ni ddychwel, Mai i mi y plyga pob glin, y twng pob tafod. 24Yn ddiau yn yr Arglwydd, medd un, y mae i mi gyfiawnder a nerth; ato ef y deuir; a chywilyddir pawb a ddigiant wrtho. 25Yn yr Arglwydd y cyfiawnheir, ac yr ymogonedda holl had Israel.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.