No themes applied yet
1Wele, ni fyrhawyd llaw yr Arglwydd, fel na allo achub; ac ni thrymhaodd ei glust ef, fel na allo glywed: 2Eithr eich anwireddau chwi a ysgarodd rhyngoch chwi a’ch Duw, a’ch pechodau a guddiasant ei wyneb oddi wrthych, fel na chlywo. 3Canys eich dwylo a halogwyd â gwaed, a’ch bysedd â chamwedd: eich gwefusau a draethasant gelwydd, eich tafod a fyfyriodd anwiredd. 4Nid oes a alwo am gyfiawnder, nac a ddadlau dros y gwirionedd: y maent yn gobeithio mewn gwagedd, ac yn dywedyd celwydd; yn beichiogi ar flinder, ac yn esgor ar anwiredd. 5Wyau asb a ddodwasant, a gweoedd y pryf copyn a weant: yr hwn a fwyty o’u hwyau a fydd farw, a’r hwn a sathrer a dyr allan yn wiber. 6Eu gweoedd hwy ni byddant yn wisgoedd, ac nid ymddilladant â’u gweithredoedd: eu gweithredoedd ydynt weithredoedd anwiredd, a gwaith trawster sydd yn eu dwylo. 7Eu traed a redant i ddrygioni, a hwy a frysiant i dywallt gwaed gwirion: eu meddyliau sydd feddyliau anwir; distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd hwynt. 8Ffordd heddwch nid adwaenant; ac nid oes gyfiawnder yn eu llwybrau: gwnaethant iddynt lwybrau ceimion: pwy bynnag a rodio yno, nid edwyn heddwch.
9Am hynny y ciliodd barnedigaeth oddi wrthym, ac ni’n goddiweddodd cyfiawnder: disgwyliasom am oleuni, ac wele dywyllwch; am ddisgleirdeb, ac yn y fagddu yr ydym yn rhodio. 10Palfalasom fel deillion â’r pared, ie, fel rhai heb lygaid y palfalasom: tramgwyddasom ar hanner dydd fel y cyfnos; oeddem mewn lleoedd anghyfannedd fel rhai meirw. 11Nyni oll a ruasom fel eirth, a chan riddfan y griddfanasom fel colomennod: disgwyliasom am farn, ac nid oes dim: am iachawdwriaeth, ac ymbellhaodd oddi wrthym. 12Canys amlhaodd ein camweddau ger dy fron, a thystiolaethodd ein pechodau i’n herbyn: oherwydd ein camweddau sydd gyda ni; a’n hanwireddau, ni a’u hadwaenom: 13Camweddu, a dywedyd celwydd yn erbyn yr Arglwydd, a chilio oddi ar ôl ein Duw, dywedyd trawster ac anufudd-dod, myfyrio a thraethu o’r galon eiriau gau. 14Barn hefyd a droed yn ei hôl, a chyfiawnder a safodd o hirbell: canys gwirionedd a gwympodd yn yr heol, ac uniondeb ni all ddyfod i mewn. 15Ie, gwirionedd sydd yn pallu, a’r hwn sydd yn cilio oddi wrth ddrygioni a’i gwna ei hun yn ysbail: a gwelodd yr Arglwydd hyn, a drwg oedd yn ei olwg nad oedd barn.
16Gwelodd hefyd nad oedd gŵr, a rhyfeddodd nad oedd eiriolwr: am hynny ei fraich a’i hachubodd, a’i gyfiawnder ei hun a’i cynhaliodd. 17Canys efe a wisgodd gyfiawnder fel llurig, a helm iachawdwriaeth am ei ben; ac a wisgodd wisgoedd dial yn ddillad; ie, gwisgodd sêl fel cochl. 18Yn ôl y gweithredoedd, ie, yn eu hôl hwynt, y tâl efe, llid i’w wrthwynebwyr, taledigaeth i’w elynion; taledigaeth i’r ynysoedd a dâl efe. 19Felly yr ofnant enw yr Arglwydd o’r gorllewin, a’i ogoniant ef o godiad haul. Pan ddelo y gelyn i mewn fel afon, Ysbryd yr Arglwydd a’i hymlid ef ymaith.
20Ac i Seion y daw y Gwaredydd, ac i’r rhai a droant oddi wrth anwiredd yn Jacob, medd yr Arglwydd. 21A minnau, dyma fy nghyfamod â hwynt, medd yr Arglwydd: Fy ysbryd yr hwn sydd arnat, a’m geiriau y rhai a osodais yn dy enau, ni chiliant o’th enau, nac o enau dy had, nac o enau had dy had, medd yr Arglwydd, o hyn allan byth.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.