No themes applied yet
1Cyfod, llewyrcha; canys daeth dy oleuni, a chyfododd gogoniant yr Arglwydd arnat. 2Canys wele, tywyllwch a orchuddia y ddaear, a’r fagddu y bobloedd: ond arnat ti y cyfyd yr Arglwydd, a’i ogoniant a welir arnat. 3Cenhedloedd hefyd a rodiant at dy oleuni, a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy gyfodiad. 4Cyfod dy lygaid oddi amgylch, ac edrych; ymgasglasant oll, daethant atat: dy feibion a ddeuant o bell, a’th ferched a fegir wrth dy ystlys. 5Yna y cei weled, ac yr ymddisgleiri; dy galon hefyd a ofna, ac a helaethir; am droi atat luosowgrwydd y môr, golud y cenhedloedd a ddaw i ti. 6Lliaws y camelod a’th orchuddiant, sef cyflym gamelod Midian ac Effa; hwynt oll o Seba a ddeuant; aur a thus a ddygant; a moliant yr Arglwydd a fynegant. 7Holl ddefaid Cedar a ymgasglant atat ti, hyrddod Nebaioth a’th wasanaethant: hwy a ddeuant i fyny yn gymeradwy ar fy allor, a mi a anrhydeddaf dŷ fy ngogoniant. 8Pwy yw y rhai hyn a ehedant fel cwmwl, ac fel colomennod i’w ffenestri? 9Yn ddiau yr ynysoedd a’m disgwyliant, a llongau Tarsis yn bennaf, i ddwyn dy feibion o bell, eu harian hefyd a’u haur gyda hwynt, i enw yr Arglwydd dy Dduw, ac i Sanct Israel, am iddo dy ogoneddu di. 10A meibion dieithr a adeiladant dy furiau, a’u brenhinoedd a’th wasanaethant; canys yn fy nig y’th drewais, ac o’m hewyllys da fy hun y tosturiais wrthyt. 11Am hynny dy byrth a fyddant yn agored yn wastad, ni chaeir hwynt na dydd na nos, i ddwyn atat olud y cenhedloedd, fel y dyger eu brenhinoedd hwynt hefyd. 12Canys y genedl a’r deyrnas ni’th wasanaetho di, a ddifethir; a’r cenhedloedd hynny a lwyr ddinistrir. 13Gogoniant Libanus a ddaw atat, y ffynidwydd, ffawydd, a bocs ynghyd, i harddu lle fy nghysegr; harddaf hefyd le fy nhraed. 14A meibion dy gystuddwyr a ddeuant atat yn ostyngedig: a’r rhai oll a’th ddiystyrasant a ymostyngant wrth wadnau dy draed, ac a’th alwant yn Ddinas yr Arglwydd, yn Seion Sanct Israel. 15Lle y buost yn wrthodedig, ac yn gas, ac heb gyniweirydd trwot, gwnaf di yn ardderchowgrwydd tragwyddol, ac yn llawenydd i’r holl genedlaethau. 16Sugni hefyd laeth y cenhedloedd, ie, bronnau brenhinoedd a sugni; a chei wybod mai myfi yr Arglwydd yw dy Achubydd, a’th Waredydd yw cadarn Dduw Jacob. 17Yn lle pres y dygaf aur, ac yn lle haearn y dygaf arian, ac yn lle coed, bres, ac yn lle cerrig, haearn; a gwnaf dy swyddogion yn heddychol, a’th drethwyr yn gyfiawn. 18Ni chlywir mwy sôn am drais yn dy wlad, na distryw na dinistr yn dy derfynau: eithr ti a elwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth, a’th byrth yn Foliant. 19Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd, a’r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti: eithr yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a’th Dduw yn ogoniant i ti. 20Ni fachluda dy haul mwyach, a’th leuad ni phalla: oherwydd yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a dyddiau dy alar a ddarfyddant. 21Dy bobl hefyd fyddant gyfiawn oll: etifeddant y tir byth, sef blaguryn fy mhlanhigion, gwaith fy nwylo, fel y’m gogonedder. 22Y bychan a fydd yn fil, a’r gwael yn genedl gref. Myfi yr Arglwydd a brysuraf hynny yn ei amser.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.