No themes applied yet
1Ysbryd yr Arglwydd Dduw sydd arnaf; oherwydd yr Arglwydd a’m heneiniodd i efengylu i’r rhai llariaidd; efe a’m hanfonodd i rwymo y rhai ysig eu calon, i gyhoeddi rhyddid i’r caethion, ac agoriad carchar i’r rhai sydd yn rhwym; 2I gyhoeddi blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd, a dydd dial ein Duw ni; i gysuro pob galarus; 3I osod i alarwyr Seion, ac i roddi iddynt ogoniant yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, gwisg moliant yn lle ysbryd cystuddiedig; fel y gelwid hwynt yn brennau cyfiawnder, yn blanhigyn yr Arglwydd, fel y gogonedder ef.
4Adeiladant hefyd yr hen ddiffeithfa, cyfodant yr anghyfanheddfa gynt, ac adnewyddant ddinasoedd diffaith, ac anghyfanhedd-dra llawer oes. 5A dieithriaid a safant ac a borthant eich praidd, a meibion dieithr fydd arddwyr a gwinllanwyr i chwi. 6Chwithau a elwir yn offeiriaid i’r Arglwydd: Gweinidogion ein Duw ni, meddir wrthych; golud y cenhedloedd a fwynhewch, ac yn eu gogoniant hwy yr ymddyrchefwch.
7Yn lle eich cywilydd y cewch ddauddyblyg; ac yn lle gwaradwydd hwy a lawenychant yn eu rhan: am hynny yn y tir y meddiannant ran ddwbl; llawenydd tragwyddol fydd iddynt. 8Canys myfi yr Arglwydd a hoffaf gyfiawnder; yr wyf yn casáu trais yn boethoffrwm, ac a gyfarwyddaf eu gwaith mewn gwirionedd, ac a wnaf â hwynt gyfamod tragwyddol. 9Eu had hwynt hefyd a adwaenir ymysg y cenhedloedd, a’u hiliogaeth hwynt yng nghanol y bobl: y rhai a’u gwelant a’u hadwaenant, mai hwynt-hwy yw yr had a fendithiodd yr Arglwydd. 10Gan lawenychu y llawenychaf yn yr Arglwydd, fy enaid a orfoledda yn fy Nuw: canys gwisgodd fi â gwisgoedd iachawdwriaeth, gwisgodd fi â mantell cyfiawnder; megis y mae priodfab yn ymwisgo â harddwisg, ac fel yr ymdrwsia priodferch â’i thlysau. 11Canys megis y gwna y ddaear i’w gwellt dyfu, ac fel y gwna gardd i’w hadau egino, felly y gwna yr Arglwydd IÔR i gyfiawnder a moliant darddu gerbron yr holl genhedloedd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.