No themes applied yet
1Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf, Dos a chais i ti wregys lliain, a dod ef am dy lwynau, ac na ddod ef mewn dwfr. 2Felly y ceisiais wregys yn ôl gair yr Arglwydd, ac a’i dodais am fy llwynau. 3A daeth gair yr Arglwydd ataf eilwaith, gan ddywedyd, 4Cymer y gwregys a gefaist, ac sydd am dy lwynau, a chyfod, dos i Ewffrates, a chuddia ef mewn twll o’r graig. 5Felly mi a euthum, ac a’i cuddiais ef yn Ewffrates, megis y gorchmynasai yr Arglwydd i mi. 6Ac ar ôl dyddiau lawer y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cyfod, dos i Ewffrates, a chymer oddi yno y gwregys a orchmynnais i ti ei guddio yno. 7Yna yr euthum i Ewffrates, ac a gloddiais, ac a gymerais y gwregys o’r man lle y cuddiaswn ef: ac wele, pydrasai y gwregys, ac nid oedd efe dda i ddim. 8A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 9Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Felly y gwnaf i falchder Jwda, a mawr falchder Jerwsalem bydru. 10Y bobl ddrygionus hyn, y rhai a wrthodant wrando fy ngeiriau i, y rhai a rodiant yng nghyndynrwydd eu calon, ac a ânt ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt, ac i ymostwng iddynt, a fyddant fel y gwregys yma, yr hwn nid yw dda i ddim. 11Canys megis ag yr ymwasg gwregys am lwynau gŵr, felly y gwneuthum i holl dŷ Israel a holl dŷ Jwda lynu wrthyf, medd yr Arglwydd, i fod i mi yn bobl, ac yn enw, ac yn foliant, ac yn ogoniant: ond ni wrandawent.
12Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma: Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Pob costrel a lenwir â gwin. A dywedant wrthyt ti, Oni wyddom ni yn sicr y llenwir pob costrel â gwin? 13Yna y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi yn llenwi holl drigolion y tir hwn, ie, y brenhinoedd sydd yn eistedd yn lle Dafydd ar ei orseddfainc ef, yr offeiriaid hefyd, a’r proffwydi, a holl breswylwyr Jerwsalem, â meddwdod. 14Trawaf hwy y naill wrth y llall, y tadau a’r meibion ynghyd, medd yr Arglwydd: nid arbedaf, ac ni thrugarhaf, ac ni resynaf, ond eu difetha hwynt.
15Clywch, a gwrandewch; na falchïwch: canys yr Arglwydd a lefarodd. 16Rhoddwch ogoniant i’r Arglwydd eich Duw, cyn iddo ef ddwyn tywyllwch, a chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll; a thra fyddoch yn disgwyl am oleuni, iddo ef ei droi yn gysgod angau, a’i wneuthur yn dywyllwch. 17Ond oni wrandewch chwi hyn, fy enaid a wyla mewn lleoedd dirgel am eich balchder; a’m llygaid gan wylo a wylant, ac a ollyngant ddagrau, o achos dwyn diadell yr Arglwydd i gaethiwed. 18Dywed wrth y brenin a’r frenhines, Ymostyngwch, eisteddwch i lawr: canys disgynnodd eich pendefigaeth, sef coron eich anrhydedd. 19Dinasoedd y deau a gaeir, ac ni bydd a’u hagoro; Jwda i gyd a gaethgludir, yn llwyr y dygir hi i gaethiwed. 20Codwch i fyny eich llygaid, a gwelwch y rhai sydd yn dyfod o’r gogledd: pa le y mae y ddiadell a roddwyd i ti, sef dy ddiadell brydferth? 21Beth a ddywedi pan ymwelo â thi? canys ti a’u dysgaist hwynt yn dywysogion, ac yn ben arnat: oni oddiwedd gofidiau di megis gwraig yn esgor?
22Ac o dywedi yn dy galon, Paham y digwydd hyn i mi? oherwydd amlder dy anwiredd y noethwyd dy odre, ac y dinoethwyd dy sodlau. 23A newidia yr Ethiopiad ei groen, neu y llewpard ei frychni? felly chwithau a ellwch wneuthur da, y rhai a gynefinwyd â gwneuthur drwg. 24Am hynny y chwalaf hwynt megis sofl yn myned ymaith gyda gwynt y diffeithwch. 25Dyma dy gyfran di, y rhan a fesurais i ti, medd yr Arglwydd; am i ti fy anghofio i, ac ymddiried mewn celwydd. 26Am hynny y dinoethais innau dy odre di dros dy wyneb, fel yr amlyger dy warth. 27Gwelais dy odineb a’th weryriad, brynti dy buteindra a’th ffieidd-dra ar y bryniau yn y meysydd. Gwae di, Jerwsalem! a ymlanhei di? pa bryd bellach?
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.