No themes applied yet
1Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia o achos y drudaniaeth. 2Galara Jwda, a’i phyrth a lesgânt; y maent yn ddu hyd lawr, a gwaedd Jerwsalem a ddyrchafodd i fyny. 3A’u boneddigion a hebryngasant eu rhai bychain i’r dwfr: daethant i’r ffosydd, ni chawsant ddwfr; dychwelasant â’u llestri yn weigion: cywilyddio a gwladeiddio a wnaethant, a chuddio eu pennau. 4Oblegid agennu o’r ddaear, am nad oedd glaw ar y ddaear, cywilyddiodd y llafurwyr, cuddiasant eu pennau. 5Ie, yr ewig hefyd a lydnodd yn y maes, ac a’i gadawodd, am nad oedd gwellt. 6A’r asynnod gwylltion a safasant yn y lleoedd uchel; yfasant wynt fel dreigiau: eu llygaid hwy a ballasant, am nad oedd gwellt.
7O Arglwydd, er i’n hanwireddau dystiolaethu i’n herbyn, gwna di er mwyn dy enw: canys aml yw ein cildynrwydd ni; pechasom i’th erbyn. 8Gobaith Israel, a’i geidwad yn amser adfyd, paham y byddi megis pererin yn y tir, ac fel ymdeithydd yn troi i letya dros noswaith? 9Paham y byddi megis gŵr wedi synnu? fel gŵr cadarn heb allu achub? eto yr ydwyt yn ein mysg ni, Arglwydd, a’th enw di a elwir arnom: na ad ni.
10Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth y bobl hyn, Fel hyn yr hoffasant hwy grwydro, ac ni ataliasant eu traed: am hynny nis myn yr Arglwydd hwy; yr awr hon y cofia efe eu hanwiredd hwy, ac a ymwêl â’u pechodau. 11Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Na weddïa dros y bobl hyn am ddaioni. 12Pan ymprydiant, ni wrandawaf eu gwaedd hwynt; a phan offrymant boethoffrwm a bwyd-offrwm, ni byddaf bodlon iddynt: ond â’r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, y difâf hwynt.
13Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, wele, mae y proffwydi yn dywedyd wrthynt, Ni welwch chwi gleddyf, ac ni ddaw newyn atoch; eithr mi a roddaf heddwch sicr i chwi yn y lle yma. 14Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Y proffwydi sydd yn proffwydo celwyddau yn fy enw i; nid anfonais hwy, ni orchmynnais iddynt chwaith, ac ni leferais wrthynt: gau weledigaeth, a dewiniaeth, a choegedd, a thwyll eu calon eu hun, y maent hwy yn eu proffwydo i chwi. 15Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am y proffwydi sydd yn proffwydo yn fy enw i, a minnau heb eu hanfon hwynt, eto hwy a ddywedant, Cleddyf a newyn ni bydd yn y tir hwn; Trwy gleddyf a newyn y difethir y proffwydi hynny. 16A’r bobl y rhai y maent yn proffwydo iddynt, a fyddant wedi eu taflu allan yn heolydd Jerwsalem, oherwydd y newyn a’r cleddyf; ac ni bydd neb i’w claddu, hwynt-hwy, na’u gwragedd, na’u meibion, na’u merched: canys mi a dywalltaf arnynt eu drygioni.
17Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma, Difered fy llygaid i ddagrau nos a dydd, ac na pheidiant: canys â briw mawr y briwyd y wyry merch fy mhobl, ac â phla tost iawn. 18Os af fi allan i’r maes, wele rai wedi eu lladd â’r cleddyf; ac o deuaf i mewn i’r ddinas, wele rai llesg o newyn: canys y proffwyd a’r offeiriad hefyd sydd yn amgylchu i dir nid adwaenant. 19Gan wrthod a wrthodaist ti Jwda? neu a ffieiddiodd dy enaid di Seion? paham y trewaist ni, ac nad oes i ni feddyginiaeth? disgwyliasom am heddwch, ac nid oes daioni; ac am amser iachâd, ac wele flinder. 20Yr ydym yn cydnabod, Arglwydd, ein camwedd, ac anwiredd ein tadau; oblegid ni a bechasom yn dy erbyn di. 21Na ffieiddia ni, er mwyn dy enw, ac na fwrw i lawr orseddfa dy ogoniant: cofia, na thor dy gyfamod â ni. 22A oes neb ymhlith oferedd y cenhedloedd a wna iddi lawio? neu a rydd y nefoedd gawodau? Onid ti yw efe, O Arglwydd ein Duw ni? am hynny arnat ti y disgwyliwn ni: canys ti a wnaethost y pethau hyn oll.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.