No themes applied yet
1A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Pe safai Moses a Samuel ger fy mron, eto ni byddai fy serch ar y bobl yma; bwrw hwy allan o’m golwg, ac elont ymaith. 2Ac os dywedant wrthyt, I ba le yr awn? tithau a ddywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Y sawl sydd i angau, i angau; a’r sawl i’r cleddyf, i’r cleddyf; a’r sawl i’r newyn, i’r newyn; a’r sawl i gaethiwed, i gaethiwed. 3A mi a osodaf arnynt bedwar rhywogaeth, medd yr Arglwydd: y cleddyf, i ladd; a’r cŵn, i larpio; ac adar y nefoedd, ac anifeiliaid y ddaear, i ysu ac i ddifa. 4Ac a’u rhoddaf hwynt i’w symudo i holl deyrnasoedd y ddaear; herwydd Manasse mab Heseceia brenin Jwda, am yr hyn a wnaeth efe yn Jerwsalem. 5Canys pwy a drugarha wrthyt ti, O Jerwsalem? a phwy a gwyna i ti? a phwy a dry i ymofyn pa fodd yr wyt ti? 6Ti a’m gadewaist, medd yr Arglwydd, ac a aethost yn ôl: am hynny yr estynnaf fy llaw yn dy erbyn di, ac a’th ddifethaf; myfi a flinais yn edifarhau. 7A mi a’u chwalaf hwynt â gwyntyll ym mhyrth y wlad: diblantaf, difethaf fy mhobl, gan na ddychwelant oddi wrth eu ffyrdd. 8Eu gweddwon a amlhasant i mi tu hwnt i dywod y môr: dygais arnynt yn erbyn mam y gwŷr ieuainc, anrheithiwr ganol dydd; perais iddo syrthio yn ddisymwth arni hi, a dychryn ar y ddinas. 9Yr hon a blantodd saith, a lesgaodd: ei henaid hi a lesmeiriodd, ei haul a fachludodd tra yr oedd hi yn ddydd; hi a gywilyddiodd, ac a waradwyddwyd; a rhoddaf y gweddillion ohonynt i’r cleddyf yng ngŵydd eu gelynion, medd yr Arglwydd.
10Gwae fi, fy mam, ymddŵyn ohonot fi yn ŵr ymryson ac yn ŵr cynnen i’r holl ddaear! ni logais, ac ni logwyd i mi; eto pawb ohonynt sydd yn fy melltithio i. 11Yr Arglwydd a ddywedodd, Yn ddiau bydd dy weddill di mewn daioni; yn ddiau gwnaf i’r gelyn fod yn dda wrthyt, yn amser adfyd ac yn amser cystudd. 12A dyr haearn yr haearn o’r gogledd, a’r dur? 13Dy gyfoeth a’th drysorau a roddaf yn ysbail, nid am werth, ond oblegid dy holl bechodau, trwy dy holl derfynau. 14Gwnaf i ti fyned hefyd gyda’th elynion i dir nid adwaenost: canys tân a enynnodd yn fy nigofaint, arnoch y llysg.
15Ti a wyddost, Arglwydd; cofia fi, ac ymwêl â mi, a dial drosof ar fy erlidwyr; na ddwg fi ymaith yn dy hirymaros: gwybydd ddwyn ohonof waradwydd er dy fwyn di. 16Dy eiriau a gaed, a mi a’u bwyteais hwynt; ac yr oedd dy air di i mi yn llawenydd ac yn hyfrydwch fy nghalon: canys dy enw di a alwyd arnaf fi, O Arglwydd Dduw y lluoedd. 17Nid eisteddais yng nghymanfa y gwatwarwyr, ac nid ymhyfrydais: eisteddais fy hunan oherwydd dy law di; canys ti a’m llenwaist i o lid. 18Paham y mae fy nolur i yn dragwyddol? a’m pla yn anaele, fel na ellir ei iacháu? a fyddi di i mi megis celwyddog, neu fel dyfroedd a ballant?
19Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Os dychweli, yna y’th ddygaf eilwaith, a thi a sefi ger fy mron; os tynni ymaith y gwerthfawr oddi wrth y gwael, byddi fel fy ngenau i: dychwelant hwy atat ti, ond na ddychwel di atynt hwy. 20Gwnaf di hefyd i’r bobl yma yn fagwyr efydd gadarn; a hwy a ryfelant yn dy erbyn di, eithr ni’th orchfygant: canys yr ydwyf fi gyda thi, i’th achub ac i’th wared, medd yr Arglwydd. 21A mi a’th waredaf di o law y rhai drygionus, ac a’th ryddhaf di o law yr ofnadwy.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.