No themes applied yet
1Israel, os dychweli, dychwel ataf fi, medd yr Arglwydd: hefyd os rhoi heibio dy ffieidd-dra oddi ger fy mron, yna ni’th symudir. 2A thi a dyngi, Byw yw yr Arglwydd, mewn gwirionedd, mewn barn, ac mewn cyfiawnder: a’r cenhedloedd a ymfendithiant ynddo; ie, ynddo ef yr ymglodforant.
3Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth wŷr Jwda, ac wrth Jerwsalem: Braenerwch i chwi fraenar, ac na heuwch mewn drain. 4Ymenwaedwch i’r Arglwydd, a rhoddwch heibio ddienwaediad eich calon, chwi gwŷr Jwda, a thrigolion Jerwsalem: rhag i’m digofaint ddyfod allan fel tân, a llosgi fel na byddo diffoddydd, oherwydd drygioni eich amcanion. 5Mynegwch yn Jwda, a chyhoeddwch yn Jerwsalem, a dywedwch, Utgenwch utgorn yn y tir: gwaeddwch, ymgesglwch, a dywedwch, Ymgynullwch, ac awn i’r dinasoedd caerog. 6Codwch faner tua Seion; ffowch, ac na sefwch; canys mi a ddygaf ddrwg o’r gogledd, a dinistr mawr. 7Y llew a ddaeth i fyny o’i loches, a difethwr y Cenhedloedd a gychwynnodd, ac a aeth allan o’i drigle, i wneuthur dy dir yn orwag; a’th ddinasoedd a ddinistrir heb drigiannydd. 8Am hyn ymwregyswch â lliain sach; galerwch ac udwch: canys angerdd llid yr Arglwydd ni throes oddi wrthym ni. 9Ac yn y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y derfydd am galon y brenin, ac am galon y penaethiaid: yr offeiriaid hefyd a synnant, a’r proffwydi a ryfeddant. 10Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, yn sicr gan dwyllo ti a dwyllaist y bobl yma a Jerwsalem, gan ddywedyd, Bydd heddwch i chwi; ac eto fe ddaeth y cleddyf hyd at yr enaid. 11Yn yr amser hwnnw y dywedir wrth y bobl hyn, ac wrth Jerwsalem, Gwynt sych yr uchel leoedd yn y diffeithwch tua merch fy mhobl, nid i nithio, ac nid i buro; 12Gwynt llawn o’r lleoedd hynny a ddaw ataf fi: weithian hefyd myfi a draethaf farn yn eu herbyn hwy. 13Wele, megis cymylau y daw i fyny, a’i gerbydau megis corwynt: ei feirch sydd ysgafnach na’r eryrod. Gwae nyni! canys ni a anrheithiwyd. 14O Jerwsalem, golch dy galon oddi wrth ddrygioni, fel y byddech gadwedig: pa hyd y lletyi o’th fewn goeg amcanion? 15Canys llef sydd yn mynegi allan o Dan, ac yn cyhoeddi cystudd allan o fynydd Effraim. 16Coffewch i’r cenhedloedd, wele, cyhoeddwch yn erbyn Jerwsalem, ddyfod gwylwyr o wlad bell, a llefaru yn erbyn dinasoedd Jwda. 17Megis ceidwaid maes y maent o amgylch yn ei herbyn; am iddi fy niclloni, medd yr Arglwydd. 18Dy ffordd di a’th amcanion a wnaethant hyn i ti: dyma dy ddrygioni di; am ei fod yn chwerw, am ei fod yn cyrhaeddyd hyd at dy galon di.
19Fy mol, fy mol; gofidus wyf o barwydennau fy nghalon; mae fy nghalon yn terfysgu ynof: ni allaf dewi, am i ti glywed sain yr utgorn, O fy enaid, a gwaedd rhyfel. 20Dinistr ar ddinistr a gyhoeddwyd; canys yr holl dir a anrheithiwyd: yn ddisymwth y distrywiwyd fy lluestai i, a’m cortenni yn ddiatreg. 21Pa hyd y gwelaf faner, ac y clywaf sain yr utgorn? 22Canys y mae fy mhobl i yn ynfyd heb fy adnabod i; meibion angall ydynt, ac nid deallgar hwynt: y maent yn synhwyrol i wneuthur drwg, eithr gwneuthur da ni fedrant. 23Mi a edrychais ar y ddaear, ac wele, afluniaidd a gwag oedd; ac ar y nefoedd, a goleuni nid oedd ganddynt. 24Mi a edrychais ar y mynyddoedd, ac wele, yr oeddynt yn crynu; a’r holl fryniau a ymysgydwent. 25Mi a edrychais, ac wele, nid oedd dyn, a holl adar y nefoedd a giliasent. 26Mi a edrychais, ac wele y doldir yn anialwch, a’i holl ddinasoedd a ddistrywiasid o flaen yr Arglwydd, gan lidiowgrwydd ei ddicter ef. 27Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Y tir oll fydd diffeithwch: ac eto ni wnaf ddiben. 28Am hynny y galara y ddaear, ac y tywylla y nefoedd oddi uchod: oherwydd dywedyd ohonof fi, Mi a’i bwriedais, ac ni bydd edifar gennyf, ac ni throaf oddi wrtho. 29Rhag trwst y gwŷr meirch a’r saethyddion y ffy yr holl ddinas; hwy a ânt i’r drysni, ac a ddringant ar y creigiau: yr holl ddinasoedd a adewir, ac heb neb a drigo ynddynt. 30A thithau yr anrheithiedig, beth a wnei? Er ymwisgo ohonot ag ysgarlad, er i ti ymdrwsio â thlysau aur, er i ti liwio dy wyneb â lliwiau, yn ofer y’th wnei dy hun yn deg; dy gariadau a’th ddirmygant, ac a geisiant dy einioes. 31Canys clywais lef megis gwraig yn esgor, cyfyngder fel benyw yn esgor ar ei hetifedd cyntaf, llef merch Seion yn ochain, ac yn lledu ei dwylo, gan ddywedyd, Gwae fi yr awr hon! oblegid diffygiodd fy enaid gan leiddiaid.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.