No themes applied yet
1Y gair a lefarodd yr Arglwydd yn erbyn Babilon, ac yn erbyn gwlad y Caldeaid, trwy Jeremeia y proffwyd. 2Mynegwch ymysg y cenhedloedd, a chyhoeddwch, a chodwch arwydd; cyhoeddwch, na chelwch: dywedwch, Goresgynnwyd Babilon, gwaradwyddwyd Bel, drylliwyd Merodach: ei heilunod a gywilyddiwyd, a’i delwau a ddrylliwyd. 3Canys o’r gogledd y daw cenedl yn ei herbyn hi, yr hon a wna ei gwlad hi yn anghyfannedd, fel na byddo preswylydd ynddi: yn ddyn ac yn anifail y mudant, ac y ciliant ymaith.
4Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr Arglwydd, meibion Israel a ddeuant, hwy a meibion Jwda ynghyd, dan gerdded ac wylo yr ânt, ac y ceisiant yr Arglwydd eu Duw. 5Hwy a ofynnant y ffordd i Seion, tuag yno y bydd eu hwynebau hwynt: Deuwch, meddant, a glynwn wrth yr Arglwydd, trwy gyfamod tragwyddol yr hwn nid anghofir. 6Fy mhobl a fu fel praidd colledig; eu bugeiliaid a’u gyrasant hwy ar gyfeiliorn, ar y mynyddoedd y troesant hwynt ymaith: aethant o fynydd i fryn, anghofiasant eu gorweddfa. 7Pawb a’r a’u cawsant a’u difasant, a’u gelynion a ddywedasant, Ni wnaethom ni ar fai; canys hwy a bechasant yn erbyn yr Arglwydd, trigle cyfiawnder; sef yr Arglwydd, gobaith eu tadau. 8Ciliwch o ganol Babilon, ac ewch allan o wlad y Caldeaid; a byddwch fel bychod o flaen y praidd.
9Oherwydd wele, myfi a gyfodaf ac a ddygaf i fyny yn erbyn Babilon gynulleidfa cenhedloedd mawrion o dir y gogledd: a hwy a ymfyddinant yn ei herbyn; oddi yno y goresgynnir hi: eu saethau fydd fel saethau cadarn cyfarwydd; ni ddychwelant yn ofer. 10A Chaldea fydd yn ysbail: pawb a’r a’i hysbeiliant hi a ddigonir, medd yr Arglwydd. 11Am i chwi fod yn llawen, am i chwi fod yn hyfryd, chwi fathrwyr fy etifeddiaeth, am i chwi frasáu fel anner mewn glaswellt, a beichio fel teirw; 12Eich mam a gywilyddir yn ddirfawr, a’r hon a’ch ymddûg a waradwyddir: wele, yr olaf o’r cenhedloedd yn anialwch, yn grastir, ac yn ddiffeithwch. 13Oherwydd digofaint yr Arglwydd nis preswylir hi, eithr hi a fydd i gyd yn anghyfannedd: pawb a êl heibio i Babilon a synna, ac a chwibana am ei holl ddialeddau hi. 14Ymfyddinwch yn erbyn Babilon o amgylch; yr holl berchen bwâu, saethwch ati, nac arbedwch saethau: oblegid hi a bechodd yn erbyn yr Arglwydd. 15Bloeddiwch yn ei herbyn hi o amgylch; hi a roddes ei llaw: ei sylfeini hi a syrthiasant, ei muriau a fwriwyd i lawr; oherwydd dial yr Arglwydd yw hyn: dielwch arni: fel y gwnaeth, gwnewch iddi. 16Torrwch ymaith yr heuwr o Babilon, a’r hwn a ddalio gryman ar amser cynhaeaf: rhag cleddyf y gorthrymwr y troant bob un at ei bobl ei hun, ac y ffoant bob un i’w wlad.
17Fel dafad ar wasgar yw Israel; llewod a’i hymlidiasant ymaith: brenin Asyria yn gyntaf a’i hysodd, a’r Nebuchodonosor yma brenin Babilon yn olaf a’i diesgyrnodd. 18Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac â’i wlad, fel yr ymwelais â brenin Asyria. 19A mi a ddychwelaf Israel i’w drigfa, ac efe a bawr ar Carmel a Basan; ac ar fynydd Effraim a Gilead y digonir ei enaid ef. 20Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr Arglwydd, y ceisir anwiredd Israel, ac ni bydd; a phechodau Jwda, ond nis ceir hwynt: canys myfi a faddeuaf i’r rhai a weddillwyf.
21Dos i fyny yn erbyn gwlad Merathaim, ie, yn ei herbyn hi, ac yn erbyn trigolion Pecod: anrheithia di a difroda ar eu hôl hwynt, medd yr Arglwydd, a gwna yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti. 22Trwst rhyfel sydd yn y wlad, a dinistr mawr. 23Pa fodd y drylliwyd ac y torrwyd gordd yr holl ddaear! pa fodd yr aeth Babilon yn ddiffeithwch ymysg y cenhedloedd! 24Myfi a osodais fagl i ti, a thithau Babilon a ddaliwyd, a heb wybod i ti: ti a gafwyd ac a ddaliwyd, oherwydd i ti ymryson yn erbyn yr Arglwydd. 25Yr Arglwydd a agorodd ei drysor, ac a ddug allan arfau ei ddigofaint: canys gwaith Arglwydd Dduw y lluoedd yw hyn yng ngwlad y Caldeaid. 26Deuwch yn ei herbyn o’r cwr eithaf, agorwch ei hysguboriau hi; dyrnwch hi fel pentwr ŷd, a llwyr ddinistriwch hi: na fydded gweddill ohoni. 27Lleddwch ei holl fustych hi; disgynnant i’r lladdfa: gwae hwynt! canys eu dydd a ddaeth, ac amser eu hymweliad. 28Llef y rhai a ffoant ac a ddihangant o wlad Babilon, i ddangos yn Seion ddial yr Arglwydd ein Duw ni, dial ei deml ef. 29Gelwch y saethyddion ynghyd yn erbyn Babilon; y perchen bwâu oll, gwersyllwch i’w herbyn hi o amgylch; na chaffed neb ddianc ohoni: telwch iddi yn ôl ei gweithred; ac yn ôl yr hyn oll a wnaeth hi, gwnewch iddi: oherwydd hi a fu falch yn erbyn yr Arglwydd, yn erbyn Sanct Israel. 30Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd hi; a’i holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd. 31Wele fi yn dy erbyn di, O falch, medd Arglwydd Dduw y lluoedd: oherwydd dy ddydd a ddaeth, yr amser yr ymwelwyf â thi. 32A’r balch a dramgwydda ac a syrth, ac ni bydd a’i cyfodo: a mi a gyneuaf dân yn ei ddinasoedd, ac efe a ddifa ei holl amgylchoedd ef.
33Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Meibion Israel a meibion Jwda a orthrymwyd ynghyd; a phawb a’r a’u caethiwodd hwynt a’u daliasant yn dynn, ac a wrthodasant eu gollwng hwy ymaith. 34Eu Gwaredwr sydd gryf; Arglwydd y lluoedd yw ei enw; efe a lwyr ddadlau eu dadl hwynt, i beri llonydd i’r wlad, ac aflonyddwch i breswylwyr Babilon.
35Cleddyf sydd ar y Caldeaid, medd yr Arglwydd, ac ar drigolion Babilon, ac ar ei thywysogion, ac ar ei doethion. 36Cleddyf sydd ar y celwyddog, a hwy a ynfydant: cleddyf sydd ar ei chedyrn, a hwy a ddychrynant. 37Cleddyf sydd ar ei meirch, ac ar ei cherbydau, ac ar yr holl werin sydd yn ei chanol hi; a hwy a fyddant fel gwragedd: cleddyf sydd ar ei thrysorau; a hwy a ysbeilir. 38Sychder sydd ar ei dyfroedd hi, a hwy a sychant: oherwydd gwlad delwau cerfiedig yw hi, ac mewn eilunod y maent yn ynfydu. 39Am hynny anifeiliaid gwylltion yr anialwch, a chathod, a arhosant yno, a chywion yr estrys a drigant ynddi: ac ni phreswylir hi mwyach byth; ac nis cyfanheddir hi o genhedlaeth i genhedlaeth. 40Fel yr ymchwelodd Duw Sodom a Gomorra, a’i chymdogesau, medd yr Arglwydd; felly ni phreswylia neb yno, ac ni erys mab dyn ynddi. 41Wele, pobl a ddaw o’r gogledd, a chenedl fawr, a brenhinoedd lawer a godir o eithafoedd y ddaear. 42Y bwa a’r waywffon a ddaliant; creulon ydynt, ac ni thosturiant: eu llef fel môr a rua, ac ar feirch y marchogant yn daclus i’th erbyn di, merch Babilon, fel gŵr i ryfel. 43Brenin Babilon a glywodd sôn amdanynt, a’i ddwylo ef a lesgasant: gwasgfa a’i daliodd ef, a gwewyr fel gwraig wrth esgor. 44Wele, fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen i drigfa y cadarn: eithr mi a wnaf iddo ef redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi: a phwy sydd ŵr dewisol a osodwyf fi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? a phwy a esyd i mi yr amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o’m blaen i? 45Am hynny gwrandewch chwi gyngor yr Arglwydd, yr hwn a gymerodd efe yn erbyn Babilon, a’i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn gwlad y Caldeaid: yn ddiau y rhai lleiaf o’r praidd a’u llusgant hwy; yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyda hwynt. 46Gan drwst goresgyniad Babilon y cynhyrfa y ddaear, ac y clywir y waedd ymysg y cenhedloedd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.