No themes applied yet
1Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, 2Saf di ym mhorth tŷ yr Arglwydd, a chyhoedda y gair hwn yno, a dywed, Gwrandewch air yr Arglwydd, chwi holl Jwda, y rhai a ddeuwch i mewn trwy y pyrth hyn i addoli yr Arglwydd. 3Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Gwellhewch eich ffyrdd, a’ch gweithredoedd; ac mi a wnaf i chwi drigo yn y man yma. 4Nac ymddiriedwch mewn geiriau celwyddog, gan ddywedyd, Teml yr Arglwydd, teml yr Arglwydd, teml yr Arglwydd ydynt. 5Canys os gan wellhau y gwellhewch eich ffyrdd a’ch gweithredoedd; os gan wneuthur y gwnewch farn rhwng gŵr a’i gymydog; 6Ac ni orthrymwch y dieithr, yr amddifad, a’r weddw; ac ni thywelltwch waed gwirion yn y fan hon; ac ni rodiwch ar ôl duwiau dieithr, i’ch niwed eich hun; 7Yna y gwnaf i chwi drigo yn y fan hon, yn y tir a roddais i’ch tadau chwi, yn oes oesoedd.
8Wele chwi yn ymddiried mewn geiriau celwyddog ni wnânt les. 9Ai yn lladrata, yn lladd, ac yn godinebu, a thyngu anudon, ac arogldarthu i Baal, a rhodio ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adwaenoch; 10Y deuwch ac y sefwch ger fy mron i yn y tŷ hwn, yr hwn y gelwir fy enw i arno, ac y dywedwch, Rhyddhawyd ni i wneuthur y ffieidd-dra hyn oll? 11Ai yn lloches lladron yr aeth y tŷ yma, ar yr hwn y gelwir fy enw i, gerbron eich llygaid? wele, minnau a welais hyn, medd yr Arglwydd. 12Eithr, atolwg, ewch i’m lle, yr hwn a fu yn Seilo, lle y gosodais fy enw ar y cyntaf, ac edrychwch beth a wneuthum i hwnnw, oherwydd anwiredd fy mhobl Israel. 13Ac yn awr, am wneuthur ohonoch yr holl weithredoedd hyn, medd yr Arglwydd, minnau a leferais wrthych, gan godi yn fore, a llefaru, eto ni chlywsoch; a gelwais arnoch, ond nid atebasoch: 14Am hynny y gwnaf i’r tŷ hwn y gelwir fy enw arno, yr hwn yr ydych yn ymddiried ynddo, ac i’r lle a roddais i chwi ac i’ch tadau, megis y gwneuthum i Seilo. 15A mi a’ch taflaf allan o’m golwg, fel y teflais eich holl frodyr, sef holl had Effraim. 16Am hynny na weddïa dros y bobl hyn, ac na ddyrchafa waedd na gweddi drostynt, ac nac eiriol arnaf: canys ni’th wrandawaf.
17Oni weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem? 18Y plant sydd yn casglu cynnud, a’r tadau yn cynnau tân, a’r gwragedd yn tylino toes, i wneuthur teisennau i frenhines y nef, ac i dywallt diod-offrymau i dduwiau dieithr, i’m digio i. 19Ai fi y maent hwy yn ei ddigio? medd yr Arglwydd: ai hwynt eu hun, er cywilydd i’w hwynebau eu hun? 20Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele, fy llid a’m digofaint a dywelltir ar y man yma, ar ddyn ac ar anifail, ar goed y maes, ac ar ffrwyth y ddaear; ac efe a lysg, ac nis diffoddir.
21Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Rhoddwch eich poethoffrymau at eich aberthau, a bwytewch gig. 22Canys ni ddywedais i wrth eich tadau, ac ni orchmynnais iddynt, y dydd y dygais hwynt o dir yr Aifft, am boethoffrymau neu aberthau: 23Eithr y peth hyn a orchmynnais iddynt, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llef, a mi a fyddaf Dduw i chwi, a chwithau fyddwch yn bobl i minnau; a rhodiwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnais i chwi, fel y byddo yn ddaionus i chwi. 24Eithr ni wrandawsant, ac ni ostyngasant eu clust, ond rhodiasant yn ôl cynghorion a childynrwydd eu calon ddrygionus, ac aethant yn ôl, ac nid ymlaen. 25O’r dydd y daeth eich tadau chwi allan o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn, mi a ddanfonais atoch fy holl wasanaethwyr y proffwydi, bob dydd gan foregodi, ac anfon: 26Er hynny ni wrandawsant arnaf fi, ac ni ostyngasant eu clust, eithr caledasant eu gwarrau; gwnaethant yn waeth na’u tadau. 27Am hynny ti a ddywedi y geiriau hyn oll wrthynt; ond ni wrandawant arnat: gelwi hefyd arnynt; ond nid atebant di. 28Eithr ti a ddywedi wrthynt, Dyma genedl ni wrendy ar lais yr Arglwydd ei Duw, ac ni dderbyn gerydd: darfu am y gwirionedd, a thorrwyd hi ymaith o’u genau hwynt.
29Cneifia dy wallt, O Jerwsalem, a bwrw i ffordd; a chyfod gwynfan ar y lleoedd uchel: canys yr Arglwydd a fwriodd i ffordd ac a wrthododd genhedlaeth ei ddigofaint. 30Canys meibion Jwda a wnaethant ddrwg yn fy ngolwg, medd yr Arglwydd: gosodasant eu ffieidd-dra yn y tŷ yr hwn y gelwir fy enw arno, i’w halogi ef. 31A hwy a adeiladasant uchelfeydd Toffet, yr hon sydd yng nglyn mab Hinnom, i losgi eu meibion a’u merched yn tân, yr hyn ni orchmynnais, ac ni feddyliodd fy nghalon.
32Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, na elwir hi mwy Toffet, na glyn mab Hinnom, namyn glyn lladdedigaeth; canys claddant o fewn Toffet, nes bod eisiau lle. 33A bydd celanedd y bobl hyn yn fwyd i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear; ac ni bydd a’u tarfo. 34Yna y gwnaf i lais llawenydd, a llais digrifwch, llais priodfab, a llais priodferch, ddarfod allan o ddinasoedd Jwda, ac o heolydd Jerwsalem; canys yn anrhaith y bydd y wlad.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.