No themes applied yet
1Wele, fy llygad a welodd hyn oll; fy nghlust a’i clywodd ac a’i deallodd. 2Mi a wn yn gystal â chwithau: nid ydwyf waeth na chwithau. 3Yn wir myfi a lefaraf wrth yr Hollalluog, ac yr ydwyf yn chwenychu ymresymu â Duw. 4Ond rhai yn asio celwydd ydych chwi: meddygon diddim ydych chwi oll. 5O gan dewi na thawech! a hynny a fyddai i chwi yn ddoethineb. 6Clywch, atolwg, fy rheswm, a gwrandewch ar ddadl fy ngwefusau. 7A ddywedwch chwi anwiredd dros Dduw? ac a ddywedwch chwi dwyll er ei fwyn ef? 8A dderbyniwch chwi ei wyneb ef? a ymrysonwch chwi dros Dduw? 9Ai da fydd hyn pan chwilio efe chwi? a dwyllwch chwi ef fel twyllo dyn? 10Gan geryddu efe a’ch cerydda chwi, os derbyniwch wyneb yn ddirgel. 11Oni ddychryna ei ardderchowgrwydd ef chwi? ac oni syrth ei arswyd ef arnoch? 12Cyffelyb i ludw ydyw eich coffadwriaeth chwi; a’ch cyrff i gyrff o glai. 13Tewch, gadewch lonydd, fel y llefarwyf finnau; a deued arnaf yr hyn a ddelo. 14Paham y cymeraf fy nghnawd â’m dannedd? ac y gosodaf fy einioes yn fy llaw? 15Pe lladdai efe fi, eto mi a obeithiaf ynddo ef: er hynny fy ffyrdd a ddiffynnaf ger ei fron ef. 16Hefyd efe fydd iachawdwriaeth i mi: canys ni ddaw rhagrithiwr yn ei ŵydd ef. 17Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd, ac a fynegwyf, â’ch clustiau. 18Wele yn awr, trefnais fy achos; gwn y’m cyfiawnheir. 19Pwy ydyw yr hwn a ymddadlau â mi? canys yn awr os tawaf, mi a drengaf. 20Ond dau beth na wna i mi: yna nid ymguddiaf rhagot. 21Pellha dy law oddi arnaf: ac na ddychryned dy ddychryn fi. 22Yna galw, a myfi a atebaf: neu myfi a lefaraf, ac ateb di fi. 23Pa faint o gamweddau ac o bechodau sydd ynof? pâr i mi wybod fy nghamwedd a’m pechod. 24Paham y cuddi dy wyneb, ac y cymeri fi yn elyn i ti? 25A ddrylli di ddeilen ysgydwedig? a ymlidi di soflyn sych? 26Canys yr wyt ti yn ysgrifennu pethau chwerwon yn fy erbyn; ac yn gwneuthur i mi feddiannu camweddau fy ieuenctid. 27Ac yr ydwyt ti yn gosod fy nhraed mewn cyffion, ac yn gwylied ar fy holl lwybrau; ac yn nodi gwadnau fy nhraed. 28Ac efe, megis pydrni, a heneiddia, fel dilledyn yr hwn a ysa gwyfyn.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.