No themes applied yet
1A Job a atebodd ac a ddywedodd, 2Y mae fy ymadrodd heddiw yn chwerw: fy nialedd sydd drymach na’m huchenaid. 3O na wyddwn pa le y cawn ef! fel y deuwn at ei eisteddfa ef! 4Trefnwn fy mater ger ei fron ef, a llanwn fy ngenau â rhesymau. 5Mynnwn wybod â pha eiriau y’m hatebai; a deall pa beth a ddywedai efe wrthyf. 6A ddadlau efe i’m herbyn â helaethrwydd ei gadernid? Na wna; ond efe a osodai nerth ynof. 7Yno yr uniawn a ymresymai ag ef: felly mi a ddihangwn byth gan fy marnwr. 8Wele, ymlaen yr af, ond nid ydyw efe yno; yn ôl hefyd, ond ni fedraf ei ganfod ef: 9Ar y llaw aswy, lle y mae efe yn gweithio, ond ni fedraf ei weled ef: ar y llaw ddeau y mae yn ymguddio, fel na chaf ei weled: 10Ond efe a edwyn fy ffordd i: wedi iddo fy mhrofi, myfi a ddeuaf allan fel aur. 11Fy nhroed a ddilynodd ei gerddediad ef: cedwais ei ffordd ef, ac ni ŵyrais. 12Nid ydwyf chwaith yn cilio oddi wrth orchymyn ei wefusau ef: hoffais eiriau ei enau ef yn fwy na’m hymborth angenrheidiol. 13Ond y mae efe yn un, a phwy a’i try ef? a’r hyn y mae ei enaid ef yn ei chwenychu, efe a’i gwna. 14Canys efe a gyflawna yr hyn a osodwyd i mi: ac y mae ganddo lawer o’r fath bethau. 15Am hynny y dychrynais rhag ei ofn ef: ystyriais, ac ofnais ef. 16Canys Duw a feddalhaodd fy nghalon, a’r Hollalluog a’m cythryblodd: 17Oherwydd na thorrwyd fi ymaith o flaen y tywyllwch, ac na chuddiodd efe y tywyllwch o’m gŵydd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.