No themes applied yet
1A Job a atebodd ac a ddywedodd, 2Pwy a gynorthwyaist ti? ai y di-nerth? a achubaist ti y braich sydd heb gadernid? 3Pa fodd y cynghoraist ti yr annoeth? ac y mynegaist yn helaeth y peth fel y mae? 4Wrth bwy y mynegaist ymadroddion? ac ysbryd pwy a ddaeth allan ohonot ti? 5Pethau meirw a lunnir oddi tan y dyfroedd, a’r rhai sydd yn trigo ynddynt hwy. 6Y mae uffern yn noeth ger ei fron ef: ac nid oes do ar ddistryw. 7Y mae efe yn taenu’r gogledd ar y gwagle: y mae efe yn crogi’r ddaear ar ddiddim. 8Y mae efe yn rhwymo’r dyfroedd yn ei gymylau; ac nid ydyw y cwmwl yn hollti danynt hwy. 9Y mae efe yn atal wyneb ei orseddfainc: y mae efe yn taenu ei gwmwl arni hi. 10Efe a amgylchodd wyneb y dyfroedd â therfynau, nes dibennu goleuni a thywyllwch. 11Y mae colofnau y nefoedd yn crynu, ac yn synnu wrth ei gerydd ef. 12Efe a ranna y môr â’i nerth; ac a dery falchder â’i ddoethineb. 13Efe a addurnodd y nefoedd â’i ysbryd: ei law ef a luniodd y sarff dorchog. 14Wele, dyma rannau ei ffyrdd ef: ond mor fychan ydyw y peth yr ydym ni yn ei glywed amdano ef! ond pwy a ddeall daranau ei gadernid ef?
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.